6 awgrym cartref o TikTok i roi cynnig arnyn nhw (neu ddim!)

6 awgrym cartref o TikTok i roi cynnig arnyn nhw (neu ddim!)

Diweddarwyd ddiwethaf: 23/09/2022

Dydy dod o hyd i ysbrydoliaeth i newid eich cynlluniau i wella eich cartref erioed wedi bod mor hawdd, diolch i’r ffenomen ar y cyfryngau cymdeithasol #HomeHacks a #DIYHacks. 

Gyda TikTok ar gynnydd, mae digonedd o awgrymiadau hynod a chlyfar ar gael i roi cynnig arnyn nhw o gwmpas y tŷ, ond pa rai o’r tueddiadau feirol hyn ar gyfer eich cartref sydd werth yr ymdrech i arbed arian mewn gwirionedd? 

Rydym ni wedi chwilio drwy’r hashnodau sy’n trendio i ddatgelu (a dadansoddi) a yw'r 6 awgrym cartref hyn werth y cyhoeddusrwydd, neu a allen nhw fod yn gwneud mwy o ddrwg nag o les.

GWNEWCH HYN

Defnyddio rholiau toiled gwag i osod llenni llygaden mewn rhes gyson

Blue pleated curtains

Oes gennych bentwr o roliau toiled gwag yn creu llanast yn eich ystafell ymolchi? Mae rhai unigolion craff ar TikTok wedi dangos sut y gellir ychwanegu'r rhain at eich rheiliau llenni, gan wahanu'r pletiau er mwyn sicrhau eu bod yn hongian yn gyson, yn hytrach na wedi’u clystyru neu eu lledaenu – gan sicrhau ymddangosiad sy’n deilwng o fod ar Instagram.

A'r peth gorau yw, mae'r syniad hwn yn hawdd ac yn rhad ac am ddim i'w wneud, gan uwchraddio eich llenni presennol a defnyddio rhywbeth sydd gennych eisoes yn ôl pob tebyg. Felly, peidiwch â thaflu'r tiwbiau cardbord yn y bin ailgylchu, gallai fod yn werth rhoi cynnig ar y trend hwn. Mae hyd yn oed Mrs Hinch yn credu’n gryf yn yr awgrym clyfar hwn!

Delwedd o Good Housekeeping

Defnyddio past dannedd er mwyn helpu i sgriwio hoelion yn sownd yn y wal

Toothpaste dot on photoframe with toothpaste tube and red pen near frame

Mae past dannedd yn un o hanfodion y cartref — mae’n rhad a bydd gennych rywfaint ohono yng nghwpwrdd eich ystafell ymolchi bob amser, gan olygu mai dyma’r adnodd gorau ar gyfer awgrym cartref. Yn ogystal â glanhau eich dannedd, gall fod yn ddefnyddiol iawn er mwyn helpu i osod dodrefn a phaentiadau yn gywir y wal.

Rhowch fymryn o bast dannedd ar y rhan o'r dodrefn neu'r llun y mae angen i chi ei roi yn gywir ar y wal, ac yna gosodwch y ffrâm yn erbyn y wal lle rydych am arddangos y llun. Pan fyddwch yn ei dynnu, byddwch yn gweld y bydd gweddillion past dannedd yn dangos yr union leoliad. Syniad cyflym a hawdd a fydd yn sicrhau na fyddwch yn morthwylio unrhyw dyllau ychwanegol.

Delwedd o Family Handy Man

Defnyddio teclyn paentio ymylon i osgoi defnyddio tâp wrth baentio

 insert alt text here

Ydych chi’n ei chael hi’n anodd paentio ymylon yn llyfn ac yn methu â chael y canlyniadau rydych am eu cael gyda thâp masgio? Buddsoddwch mewn teclyn paentio ymylon i greu ymylon di-dor heb fod angen gwastraffu rholiau enfawr o dâp. Mae’r rhain yn weddol fforddiadwy, yn costio cyn lleied â £12.99, a allai fod yn arbediad o’i gymharu â thâp, gan fod modd ei olchi a’i ddefnyddio eto.

Dipiwch y teclyn yn eich paent a’i dynnu’n araf deg i lawr eich wal yn y gornel anodd. Bydd yn creu llinell lyfn, wastad yr holl ffordd i lawr, gan leddfu rhywfaint o'r drafferth o baentio. Dewis amgen, effeithiol a rhad sy'n arbed amser a gwastraff. 

Delwedd o The Spruce

PEIDIWCH Â GWNEUD HYN

Chwistrellu peraroglydd i lanhau'r rheiddiaduron

White radiator on blue wall

Mae llawer o awgrymiadau ar gael i sicrhau bod eich cartref yn arogli'n ffres bob amser, ond mae rhai yn fwy peryglus nag eraill. Er enghraifft, gallai chwistrellu can o beraroglydd y tu mewn i reiddiaduron neu arnyn nhw swnio fel syniad da i wthio'r llwch allan, tra y bydd yr arogl ffres a glân yn aros.

Ond byddwch yn ofalus, mae hwn yn debygol o beri risg o dân, gan fod peraroglwyr yn fflamadwy dros ben, ac mae’r label ar y botel yn nodi’n glir y dylech eu cadw i ffwrdd o wres, arwynebau poeth, gwreichion, fflamau agored, sy’n berthnasol i reiddiaduron.

Er mwyn cadw'n ddiogel, dylech gadw at ddefnyddio dŵr sebon cynnes i lanhau rheiddiadur a defnyddio’r peraroglydd ar wahân.

Delwedd o The Radiator Company

Paentio eich teils llawr

patterned blue bathroom floor tilesEfallai mai paentio’r teils llawr yw'r ffordd rataf o ailaddurno heb fod angen trefnu bod crefftwr yn gwneud y gwaith. Fodd bynnag, gallai gwneud niwed i’ch lloriau.

Er y gall y canlyniad edrych yn bert, nid yw pob math o baent yn ddigon gwydn i ymdopi â’r ôl traul naturiol a achosir gan ddefnydd pob dydd.

Bydd hyn yn ei wneud yn glytiog ac yn naddu eich arwyneb o bosibl, a allai beri risg o faglu. Os caiff ei ddifrodi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi newid y llawr cyfan, a allai gostio miloedd o bunnoedd. Ystyriwch ddewis mwy diogel, fel teils tynnu a glynu, i newid sut olwg sydd ar eich lloriau yn gyflym ac yn hawdd.

Delwedd o Harvey maria

Tynnu’r falf cyfyngu llif ar y pen cawod

 hand holding a shower head restrictorDoes neb yn hoffi cawod sy’n llifo’n araf, a gyda chyllideb dynn, efallai y byddai'n demtasiwn rhoi cynnig ar rywfaint o waith plymio amatur i ddatrys y broblem, ond gallai'r awgrym penodol hwn achosi mwy o ddrwg nag o les.

Mae rhai unigolion ar TikTok wedi awgrymu tynnu’r falf cyfyngu llif plastig ar y pen cawod, ond gallai hyn fod yn gostus. I ddechrau, gallai sgriwio i mewn i’r pen cawod er mwyn tynnu’r falf cyfyngu llif achosi niwed i fecanwaith y gawod os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Mae’r falf cyfyngu llif hefyd yn lleihau cost biliau dŵr ac ynni felly, drwy dynnu’r falf cyfyngu llif, mae’n bosibl y gallai eich biliau codi’n syfrdanol ar adeg pan fo costau eisoes yn codi.

Yn lle hynny, byddai'n well cael gweithiwr proffesiynol a allai adeiladu pwmp cawod, neu fuddsoddi mewn dewis mwy diogel fel pen cawod pwysedd uchel, a all gostio cyn lleied â £10.99 a helpu i sicrhau llif dŵr da.

Delwedd o Kitchen Infinity

Mae’n wych bod cynifer o awgrymiadau cyflym, hawdd, y maent yn aml yn fforddiadwy ar gael ar flaenau eich bysedd. Fodd bynnag, er ei bod yn werth rhoi cynnig ar rai ohonynt, sicrhewch eich bod yn gwneud eich ymchwil bob amser.

Yn yr un modd ag unrhyw beth a welwch ar y rhyngrwyd, os byddwch yn ansicr, mae'n well ceisio cyngor proffesiynol.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig