Chwe awgrym i osgoi gorwario ar ddydd Gwener Du
Diweddarwyd ddiwethaf: 04/11/2022
Mae’r tymor temtasiwn arnom. Wrth i gyllidebau misol dynhau a thymor y Nadolig ar y gorwel, gall fod yn hawdd cael eich tynnu i mewn i fania Dydd Gwener Du.
Cyn y digwyddiad siopa mawr, sef 25 Tachwedd yn 2022, rydym wedi casglu rhai awgrymiadau isod i’ch helpu i osgoi gwario gormod yn ystod y gwallgofrwydd sydd ar ddod.
Mae’n amhosibl sgrolio’r cyfryngau cymdeithasol ar yr adeg hon o’r flwyddyn heb weld hysbysebion naid mawr a llachar yn cynnig BARGEINION CYN Y NADOLIG! Gallwch flocio pob hysbyseb yn unigol wrth iddi godi, neu gallwch eu hatal wrth eu tarddiad a chymryd saib bach o’r apiau sy’n peri’r drafferth fwyaf i chi. Nid yw am byth, ac nid oes angen i chi roi’r gorau i ddefnyddio’ch ffôn yn gyfan gwbl, ond gallai eich arbed rhag cael eich tynnu i mewn.
Mae tuedd i fanwerthwyr mawr yn unig elwa ar ddydd Gwener Du. Felly beth am geisio cefnogi rhai o’ch hoff fusnesau lleol yn lle hynny? Nid oes angen gwario symiau mawr - gallwch brynu latte sbeis o’ch hoff siop goffi neu roi lliw i’ch cartref drwy brynu blodau i’ch siop flodau leol. Os byddwch yn penderfynu buddsoddi mewn rhywbeth mwy, fel dodrefn a wnaed â llaw, neu gyfarpar cegin pwrpasol, gallwch gael cysur o’r ffaith eich bod yn cefnogi’ch cymuned leol.
Un o’r prif broblemau gyda dydd Gwener Du yw’r llwyth o fargeinion. Yn y dryswch, gall fod yn anodd canolbwyntio ar p’un a oes wir angen toster newydd, neu a fyddai derbynnydd eich anrheg coblyn cudd yn gwerthfawrogi brwsh dannedd trydanol yn ei hosan Nadolig mewn gwirionedd.
Dyma pryd gall rhestr ffisegol fod yn ddefnyddiol. Amlinellwch y pethau y mae wir eu hangen mewn gwirionedd a syniadau penodol ar gyfer anrhegion teulu a ffrindiau. Gallai helpu i gadw’r rhestr hon rywle y byddwch yn ei gweld bob dydd, fel ar ddrws yr oergell, neu ei phlygu a’i chadw yn eich waled i’ch atgoffa wrth i chi fynd o gwmpas eich pethau.
Nid yw pob ‘bargen’ dydd Gwener Du yr hyn y mae’n ymddangos. Pan fyddwch wedi penderfynu bod angen prynu rhywbeth yn bendant, gwnewch eich gwaith cartref cyn i chi fanteisio ar y fargen. Mae ymchwil wedi dangos bod 98% o'r gostyngiadau a welir ar ddydd Gwener Du ar gael am yr un pris neu’n rhatach yn y chwe mis ar ôl y cynnig arbennig.
Gall helpu i gadw llygad ar brisiau’r eitemau rydych chi’n dymuno’u prynu cyn dydd Gwener Du i weld faint maen nhw’n amrywio. Ar y diwrnod ei hun, ceisiwch gymharu prisiau ar sawl gwefan wahanol, neu defnyddiwch offeryn am ddim fel Price Runner i gymharu prisiau gwahanol fanwerthwyr.
Os byddwch yn penderfynu ymrwymo i fargen Dydd Gwener Du, sicrhewch eich bod yn effro a threuliwch ychydig o eiliadau yn darllen y print mân cyn talu.
Yn rhan o hyn sicrhewch eich bod yn deall eich hawliau i ddychwelyd eitem os byddwch yn newid eich meddwl neu os nad yw cystal ag yr oeddech yn gobeithio.
Efallai eich bod yn gwybod o brofiad, nid yw ofn colli allan (FOMO) yn berthnasol i sefyllfaoedd cymdeithasol yn unig. Gall gadael i fargen bosibl fynd heibio deimlo union yr un ffordd. Ac wrth i’r cloc gyfri’r oriau tan ddydd Gwener Du, mae’n hawdd cael eich tynnu i mewn i’r mania. Felly, atgoffwch eich hun fod tuedd i ostyngiadau a chynigion barhau dros y penwythnos cyfan, ac arwain at ddydd Llun Seiber ar 28 Tachwedd – nid oes angen rhuthro at fargen wael!