Sgôr Credyd: yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Diweddarwyd ddiwethaf: 28/11/2022

Os ydych chi'n ddi-glem ynghylch sgorau credyd neu os ydych chi wedi clywed mythau am sut i wella eich sgôr chi – a hanesion am yr hyn a allai achosi iddo blymio – mae'r erthygl hon yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod.

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod beth yw eich sgôr, gan nad yw 69% o oedolion y DU yn gwybod beth yw eu sgôr credyd presennol, yn ôl arolwg YouGov a gynhaliwyd yn 2021.

O awgrymiadau syml ar gyfer cynyddu eich statws credyd o ddim byd, i wybod sut i’w achub o ymyl y dibyn, darllenwch ymlaen i ddeall sut y gallwch chi roi eich hun mewn sefyllfa well ar gyfer y dyfodol.

Beth yw sgôr credyd?

Sgôr credyd – a elwir hefyd yn statws credyd  - yw mesur a ddefnyddir gan fanciau a benthycwyr i asesu a fyddech chi’n gallu ad-dalu benthyciad fel morgais er enghraifft.

Gwneir yr asesiad ar sail eich adroddiad credyd, sy'n seiliedig ar eich holl hanes ariannol. Rhoddir statws i chi er mwyn dangos eich 'dibynadwyedd' o ran ad-dalu arian a fenthyciwyd. Pwrpas y statws hwn yw dangos i fanciau a chymdeithasau adeiladu faint o risg y maen nhw’n ei gymryd wrth fenthyca arian i chi drwy ddadansoddi eich arferion benthyca a chyllid, dros y blynyddoedd, ynghyd ag ystod o fesurau eraill.

Yn syml, po uchaf yw eich sgôr a pho lanaf yw eich adroddiad credyd, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn cael eich cymeradwyo ar gyfer morgais neu fenthyciad.
Mae tair asiantaeth yn y DU sy'n cyfrifo'r statws: Experian, TransUnion ac Equifax.

Yr hyn sy’n ddryslyd yw bod pob asiantaeth yn defnyddio ei dull, ei data a’i chyfrifiadau ei hun i greu eich sgôr, felly mae siawns y bydd yn amrywio o un i’r llall. Mae sgorau Experian yn amrywio o 0 i 999, tra bod TransUnion yn amrywio o 0 i 710, ac Equifax o 0 i 700.

Hefyd, mae gan bob benthyciwr drothwyon gwahanol ar gyfer sgorau y maen nhw'n eu hystyried yn dderbyniol. Felly, er y gallai rhai fod yn fodlon cynnig benthyciad i chi gydag un sgôr, efallai na fydd eraill. Yn gyffredinol, os yw eich sgôr yn uchel, mae eich siawns, y gorau yw eich cyfleoedd.

Er nad ydynt yn gwbl ddigyfnewid, dyma'r 10 agwedd allweddol ar eich proffil sy'n cael eu hystyried fel arfer wrth gyfrifo eich statws credyd neu sgôr:

  1. Eich enw a'ch dyddiad geni
  2. Eich cyfeiriadau blaenorol  (a ddefnyddir fel gwybodaeth adnabod)
  3. Gwybodaeth ar y rhestr etholwyr
  4. Dyfarniadau llys sirol (CCJs) yn y chwe blynedd diwethaf
  5. Datganiadau methdaliad neu ansolfedd blaenorol
  6. Adfeddiannu cartref yn y gorffennol
  7. Arian y mae arnoch chi ar hyn o bryd i fenthycwyr
  8. Hanes ad-dalu eich benthyciadau a chredyd 
  9. Gormod o geisiadau am gredyd mewn cyfnod byr
  10. Bod â chyfrif ar y cyd â rhywun sydd â hanes credyd gwael

Efallai y byddwch yn cael eich synnu o glywed nad yw pethau fel benthyciadau myfyrwyr, eich cofnod troseddol, ôl-ddyledion treth gyngor na faint o arian sydd yn eich cyfrifon cyfredol a chyfrifon cynilo yn cael eu hystyried.

Mae hefyd fythau cyffredin bod cosbrestr credyd o bobl sydd wedi eu gwahardd rhag cael eu cymeradwyo ar gyfer credyd, a bod gwirio eich sgôr credyd eich hun yn rhy aml yn niweidiol iddo. Mae'r honiadau hyn yn ffug ac ni fyddant byth yn effeithio ar eich statws.

Pam mae'n bwysig bod â statws credyd da?

Ar ryw adeg, bydd eich statws credyd yn cael ei asesu. Mae eich statws credyd a'ch adroddiad credyd yn debygol iawn o gael eu hadolygu o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Prynu car gyda chyllid
  • Arwyddo contractau ffôn symudol, teledu neu fand eang
  • Cofrestru ar gyfer cyfleustodau fel nwy neu drydan
  • Gwneud cais am forgais, cardiau credyd neu fenthyciadau
  • Cael yswiriant car neu yswiriant cartref
  • Gofyn am orddrafft ar gyfer eich cyfrif banc

Er mwyn osgoi problemau o ran cael eich cymeradwyo ar gyfer y ceisiadau hyn, mae'n hanfodol sicrhau bod eich statws credyd mor gryf â phosibl. Gall unrhyw frycheuyn yn eich hanes, mawr neu fach, berswadio benthycwyr i’ch gwrthod. Ond peidiwch â phoeni, mae sawl ffordd o ddechrau adeiladu statws credyd da neu i wella eich sgôr.

Ble allwch chi ddod o hyd i'ch sgôr credyd?

Mae'n rhad ac am ddim i wirio'ch sgôr credyd a'ch adroddiad. 

Gallwch wirio eich adroddiad credyd Experian drwy eu gwefan bartner, MoneySavingExpert's Credit Club;  Adroddiad credyd Equifax drwy ClearScore; a'ch adroddiad credyd TransUnion drwy Credit Karma. Nawr ar ôl cael gwybod beth yw eich sgôr credyd, mae'n debyg eich bod chi'n meddwl tybed sut y gallwch chi fynd ati i’w chodi neu ei gwella.

Yn gyntaf, sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â'ch adroddiad credyd presennol er mwyn i chi fod â’r wybodaeth gywir. Edrychwch ar eich sgôr a'ch adroddiad gan ddefnyddio un o'r safleoedd uchod a chadwch lygad am unrhyw aneglurder neu bryderon. Cysylltwch ag un o'r asiantaethau sy'n darparu'r sgorau a thrafodwch yr hyn sy’n anghywir â nhw fel y gallwch apelio iddynt gael eu diwygio – codir tâl bychan am hyn.

Mae angen i chi hefyd gofio y dylech osgoi gwneud unrhyw daliadau hwyr ar gyfer biliau, cardiau credyd, benthyciadau, neu ffioedd gorddrafft. Mae hyn yn cynnwys unrhyw archeb sefydlog neu Ddebyd Uniongyrchol sydd heb eu casglu. Amlygir taliadau a fethwyd ar eich adroddiad a gallent rybuddio benthycwyr eich bod yn annibynadwy. Felly, ceisiwch atgoffa eich hun i wirio bod digon o arian yn eich cyfrif ar y diwrnod y mae taliadau yn cael eu gwneud.

Yr awgrym nesaf yw'r hawsaf ei ddilyn: bod ar y rhestr etholwyr. Yn syml, mae hyn yn golygu cofrestru i bleidleisio o'ch cyfeiriad presennol, sy'n dangos i fenthycwyr eich bod yn byw yno.  Byddwch yn ymwybodol bod symud tŷ yn rhy aml yn rhywbeth arall y mae benthycwyr yn gwgu arno. Os nad ydych yn gymwys i bleidleisio yn y DU, gallwch anfon prawf o'ch cyfeiriad ar gyfer ei wirio drwy anfon biliau neu drwydded yrru i'r tair asiantaeth statws credyd.

Mae dangos y gallwch chi ad-dalu credyd yn gyfrifol yn rhywbeth i’w annog. Gallwch wneud hyn drwy gryfhau eich hanes credyd gan ddefnyddio cerdyn credyd (gan osgoi defnyddio'r terfyn llawn) yr ydych yn talu’r ddyled yn llawn bob mis. Nodwch na ddylech dynnu arian parod o gyfrif cerdyn credyd, oni bai fod angen i chi wneud dramor.

Ar y llaw arall, os oes gennych lawer o gardiau credyd a chardiau siop nad ydych yn eu defnyddio’n aml, y gwnaethoch gofrestru ar eu cyfer yn fympwyol, y peth call i’w wneud yw canslo'r rhain gan ei fod yn dangos bod gennych ormod o ddewisiadau credyd. Cadwch y cyfrifon a’r cardiau yr ydych yn eu defnyddio amlaf neu’r rhai hynaf a chael gwared â’r gweddill.

Yn olaf, ceisiwch osgoi gwneud cais am gredyd yn rhy aml gan y gall hyn hefyd amlygu rheoli arian gwael. Os ydych yn gwneud cais am fenthyciadau, dylech hefyd geisio osgoi benthyciadau diwrnod cyflog y mae benthycwyr morgeisi yn gwgu arnynt hefyd.

Un o'r pethau hollbwysig i'w gofio er mwyn cadw eich statws credyd mewn cyflwr iach, yw meddwl o safbwynt benthyciwr. A fyddech chi eisiau benthyca arian i rywun sydd mewn dyled, neu'n diffygdalu o ran taliadau rheolaidd? Yn fwy na thebyg na fyddech.

Mae dibynadwyedd, cofnod llys glân a rheoli arian yn gall yn nodweddion allweddol a fyddai’n sicrhau bod benthyciwr yn deilwng o gredyd. Felly ceisiwch eich gorau i gadw at y canllawiau hyn a dylech fod ar eich ffordd i gael adroddiad credyd gwych a chymeradwyaeth y tro cyntaf ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am gynilo arian:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig