Yr hyn y mae eich statws EPC cartref yn ei olygu

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/12/2021

Yn y DU, mae unrhyw gartref sy’n cael ei adeiladu, ei werthu neu ei rentu angen Tystysgrif Perfformiad Ynni. Statws effeithlonrwydd ynni’r eiddo yw hwn. Ac os ydych yn bwriadu gwerthu eich tŷ neu fflat, bydd angen i chi wneud y Dystysgrif hon ar gael i ddarpar brynwyr.

Parhewch i ddarllen i ddarganfod sut i gael Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer eich cartref, yr hyn y mae’n ei ddweud wrthych, a faint mae’n ei gostio.

Beth yw diben y Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni?

Mae dogfen y Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yn rhoi manylion pa mor effeithlon o ran ynni yw eich cartref, gan gynnwys costau ynni rhagamcanol. Mae hyn yn cymryd i ystyriaeth defnydd, costau tanwydd, a faint o garbon deuocsid y mae’r eiddo yn ei allyrru.

Rydych hefyd yn cael crynodeb o nodweddion cysylltiedig â pherfformiad ynni eich cartref, sy’n cael eu nodi gan ddefnyddio graddfa o dda iawn i wael iawn. Dyma’r prif elfennau a ystyrir:

  • Waliau
  • To
  • Llawr
  • Ffenestri
  • Prif system wresogi
  • Dulliau rheoli’r brif system wresogi
  • Systemau gwresogi eilaidd
  • Dŵr poeth
  • Goleuadau

Mae’r Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni hefyd yn cynnwys argymhellion ar sut i wneud eich eiddo yn fwy effeithlon, gan gynnwys costau rhagamcanol y gwelliannau hyn, a faint y gallech ei arbed o bosibl trwy wneud hyn.

Fel y cyfryw, mae’r Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yn ddogfen ddefnyddiol i berchnogion cartrefi yn ogystal â darpar brynwyr. Os yw statws y Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yn wael, er enghraifft, yna mae’r Dystysgrif yn rhoi’r cyfle i chi wneud penderfyniad cytbwys pa un a fydd gwneud newidiadau yn werth chweil yn yr hirdymor.

Eich statws Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni

Pan gaiff eich eiddo ei asesu, bydd yn cael gradd o A i G. Eiddo â gradd A – mewn gwyrdd tywyll – yw’r rhai sy’n perfformio orau o ran effeithlonrwydd ynni. Ar y llaw arall, eiddo â gradd G – mewn coch tywyll – yw’r gwaethaf.

Yn gryno, y gorau yw’r radd, y rhataf ddylai’r eiddo fod i’w redeg.

Mae cartrefi hŷn yn dueddol o fod â sgoriau is tra bod adeiladau newydd sbon yn debygol o sgorio A, gan fod eiddo wedi cael eu hadeiladu fwyfwy ag ynni mewn golwg. Peidiwch â digalonni yn ormodol os bydd eich cartref yn cael sgôr isel, fodd bynnag. D yw’r sgôr Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni cyfartalog ar gyfer cartref yn y DU, a cheir camau y gallwch eu cymryd bob amser i wella effeithlonrwydd.

Sut wyf i’n cael Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer fy eiddo?

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, mae angen i chi ymuno â chofrestr Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni y llywodraeth. Ar wefan y llywodraeth, gallwch wirio i weld a oes gan eich cartref Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni eisoes, neu wirio’r dystysgrif ar gyfer unrhyw eiddo cofrestredig arall yn y DU.

Os nad oes gennych dystysgrif ddilys, bydd angen i chi gael un cyn y gallwch werthu. Ceir rhai esemptiadau, fel adeiladau dros dro, neu lety gwyliau sy’n cael ei rentu am lai na phedwar mis y flwyddyn. Gallwch ddarllen y rhestr lawn o esemptiadau’r Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yma.

Gall tudalen GOV.UK hefyd gynnig rhestr o aseswyr ynni achrededig yn eich ardal i chi. Ar ôl i chi ddewis un, bydd yn dod draw i asesu eich eiddo, rhoi sgôr iddo, a’i ychwanegu at y gofrestr.

Mae’r Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yn para 10 mlynedd. Fodd bynnag, gallech ddewis cael tystysgrif newydd ar unrhyw adeg – os byddwch yn gwneud gwelliannau i’ch cartref ac eisiau gwerthu yn fwy buan, er enghraifft.

Faint mae Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yn ei gostio?

Bydd y Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni yn costio rhwng tua £60 a £120. Mae’r rhan fwyaf o eiddo yn dueddol o fod ar y pen isaf, ac nid oes unrhyw fudd penodol o ddewis darparwr drytach – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn siopa o gwmpas. Mae fel rheol yn rhatach mynd at asesydd ynni yn uniongyrchol, yn hytrach na chael Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni trwy asiant eiddo. Gallwch ddod o hyd i aseswyr lleol ar y gofrestr Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni.

Sylwer os ydych yn gwerthu eich cartref yn yr Alban bod angen i chi gael Adroddiad Cartref. Mae’r rhain yn costio rhwng £585 a £820, yn dibynnu ar faint yr eiddo. Yn ogystal ag adroddiad ynni (y ddogfen sy’n cyfateb i’r Dystysgrif Effeithlonrwydd Ynni), mae hyn hefyd yn cynnwys arolwg tŷ a holiadur eiddo.

Ceir sawl cam y gallwch ei gymryd o bosibl i wella eich statws Tystysgrif Effeithlonrwydd Ynni. Gallwch ddarllen canllaw Principality ar wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni yma.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig