Addurno eich cartref yn gynaliadwy

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/12/2021

I lawer ohonom, mae cadw ein heffaith ar yr amgylchedd mor isel â phosibl wedi dod yn gynyddol bwysig. A pha le gwell i ddechrau na gartref. 

Ceir cymaint o ffyrdd i leihau effaith amgylcheddol eich cartref. Dyma ddetholiad – rhai mawr a rhai bach – i’ch rhoi ar ben ffordd.

Defnyddio paent eco

Efallai nad ydych yn sylweddoli bod y rhan fwyaf o baent yn cynnwys cyfansoddion cemegol sy'n niweidiol i'n hiechyd ac i'r amgylchedd, gan gyfrannu at gynhesu byd-eang . Gelwir y rhain yn Gyfansoddion Organig Anweddol neu VOC.

Mae'n ofyniad cyfreithiol wrth labelu paent i nodi faint o VOC sydd ynddo, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am baent sydd â  ffigur VOC isel. 

Diolch byth, mae ton newydd o ddewisiadau amgen ecogyfeillgar ar gael, gyda brandiau fel Little Greene, Earthborn a Graphenstone yn cynnig paent sydd â bron dim VOC. 

Nid VOC yn unig sy’n bwysig. Er enghraifft, gwneir tuniau paent Little Greene gan ddefnyddio 50% o ddur wedi'i ailgylchu a gellir eu hailgylchu eto ar ôl i chi orffen. 

Yn y cyfamser, dywed Graphenstone fod ei baent yn gwella ansawdd aer wrth i’r calch sydd yn y fformiwla amsugno CO2; fe honnir bod tair bwced 15 litr o'i baent yn amsugno mwy na 10Kg o CO2, yr un faint ag y byddai coeden aeddfed sy'n pwyso 250kg yn ei wneud mewn blwyddyn.  

Mae brand ecogyfeillgar arall, Earthborn, yn wahanol i baentiau eraill - hyd yn oed y rhai a allai fod ag ychydig iawn o VOC – yn dweud nad yw ei baent yn cynnwys pethau annymunol eraill fel amonia neu fformaldehyd. 

Ffordd arall o baentio'n fwy cynaliadwy yw defnyddio paent sydd dros ben gan rywun arall. Gallech roi cynnig ar ddefnyddio safleoedd cymunedol sy’n cynnig nwyddau yn rhad ac am ddim fel Freecycle neu Freegle, neu hyd yn oed y cynllun Comunity RePaint, sy'n casglu paent dros ben y gellir ei ailddefnyddio i'w ddosbarthu i unigolion, teuluoedd, cymunedau ac elusennau sydd mewn angen.

Addasu at ddibenion gwahanol, ailddodrefnu ac ailddefnyddio hen ddodrefn

Peidiwch byth â thaflu hen ddodrefn. Efallai y bydd rhywun arall yn ei werthfawrogi’n fawr, felly os nad ydych eisiau eu cadw mwyach, yna gwerthwch nhw neu eu rhoi i rywun. 

Neu'n well byth, ystyriwch a ydych chi eisiau cael gwared arnyn nhw mewn gwirionedd. Mae’n wyrthiol sut y gellir trawsnewid dodrefn gyda dim ond newidiadau bach, hawdd. Gall côt newydd o baent neu orffeniad newydd wneud gwahaniaeth mawr, felly hefyd dolenni newydd ar ddroriau. Neu fe allech chi fynd cam ymhellach a thrawsnewid dodrefnyn yn llwyr - er enghraifft, trwy droi cist ddroriau yn ddesg gartref

Fel arall, os yw eich soffa yn hen ac rydych chi'n awyddus iawn i gael un arall yn ei lle, ystyriwch ei hailglustogi i roi bywyd newydd iddi. Ceisiwch ddefnyddio ffabrigau â lliwiau diwenwyn ar ddeunyddiau cynaliadwy fel cywarch neu liain, sy'n fioddiraddadwy os yw heb ei drin. 

Ystyriwch effeithlonrwydd ynni

Elfen o fod yn gynaliadwy gartref yw arbed cymaint o ynni â phosibl. Felly wrth addurno, cofiwch hyn.

Er enghraifft, wrth ddewis dodrefn, addurniadau neu adnewyddiadau, gwnewch yn siŵr bod cymaint â phosibl o olau naturiol yn treiddio i'ch cartref.

Hefyd, gall dewis llenni mwy trwchus helpu i gadw'r gwres i mewn.

Prynwch eitemau sydd wedi’u gwneud i bara

Ffordd arall o sicrhau eich bod yn prynu cynhyrchion gwyrddach yw drwy brynu eitemau a fydd yn para am amser hir. Mae hyn fel arfer yn golygu gwario mwy o arian i ddechrau, ond gallai arbed arian i chi yn y tymor hir. Ni fyddwch yn taflu pethau i ffwrdd ac yn prynu rhai newydd yn gyson. 

Mae hyd yn oed gwefannau sy'n gwerthu nwyddau sy'n cael eu fetio i helpu i sicrhau eu bod yn nwyddau parhaol, fel Buy Me Once neu Made to Last.

Gallech fabwysiadu ymagwedd debyg wrth ddylunio, gan geisio bod mor glasuron â phosibl. Efallai nad oes angen y wal nodwedd honno yr ydych chi'n gwybod y byddwch chi'n blino arni mewn blwyddyn neu ddwy ac yna eisiau rhywbeth i gymryd ei lle.

Gofalwch am eich offer a defnyddiwch bethau sydd dros ben

Cynlluniwch yn ofalus i osgoi gwastraff diangen. Rydych chi wedi clywed yr ymadrodd: mesur ddwywaith, torri unwaith. Mae iddo ystyr llythrennol iawn, ond mae hefyd yn ffordd o weithio, sy'n golygu eich bod yn ofalus ac yn osgoi camgymeriadau a all fod yn gostus ac yn wastraffus.

Pa mor fanwl bynnag yw eich dull gweithredu, yn anochel byddwch yn dal i gael torion a phethau dros ben a hyd yn oed offer arbenigol na fyddech byth yn eu defnyddio eto.

Os na allwch chi ddod o hyd i ddefnydd iddynt, ac os nad oes gennych le i'w storio ar hyn o bryd, beth am gynnig unrhyw ddeunyddiau dros ben i gymdogion, ffrindiau neu unrhyw un arall sydd eu hangen? Rhowch nhw ar wefannau fel Facebook Marketplace.

Hefyd, peidiwch ag anghofio storio deunyddiau'n iawn a glanhau ar eich hôl. Mae cymaint o offer DIY ac addurno yn mynd i’r bin oherwydd nad ydyn nhw wedi cael gofal priodol.

Rhannu tŵls ac offer

Ystyriwch bob amser a yw’n bosibl benthyca neu rentu tŵls neu offer yn hytrach na gorfod prynu rhywbeth newydd. Er enghraifft, os gallwch fenthyg darn dril gwaith maen gan ffrind neu berthynas, yn hytrach na phrynu un o’r newydd, yna mae hynny'n un peth yn llai y mae angen ei gynhyrchu mewn ffatri bell a’i gludo i'r DU ac yna ei roi mewn safle tirlenwi ar ddiwedd ei oes. Cofiwch dalu’r gymwynas yn ei hôl a bod yn barod i roi benthyg eich tŵls a'ch offer eich hun!

Fel arall, chwiliwch am rywle lleol lle gallwch rentu offer. Gellir gwneud hyn yn eithaf rhad yn aml. Er enghraifft, mae gan rai dinasoedd gynlluniau fel Llyfrgell Pethau lle gallwch rentu offer a phethau defnyddiol eraill yn lleol.

Prynu pren lleol wedi’i ardystio gan yr FSC

Mae datgoedwigo yn bygwth ecosystemau ac yn cyfrannu at newid hinsawdd, felly ceisiwch ddefnyddio pren wedi'i adennill, pren ail-law neu wedi'i ailgylchu ar gyfer unrhyw brosiectau gwaith coed yr ydych yn ymgymryd â nhw yn eich cartref. 

Ond os na allwch gael gafael ar unrhyw un o’r rhain, yna dewiswch bren wedi'i ardystio gan yr FSC,  ardystiad sy'n dangos bod arferion rheoli coedwigoedd sy'n briodol i'r amgylchedd yn cael eu defnyddio i gynhyrchu'r pren. 

Hefyd, ceisiwch brynu pren a fu’n tyfu mor agos i'ch cartref â phosibl, sy'n golygu na chafodd ei gludo'n bell ar draul mwy o allyriadau CO2. 

I ddarganfod pa fanwerthwyr sy'n darparu'r pren mwyaf cynaliadwy, mae’r grŵp defnyddwyr Which? wedi llunio’r canlynol: the shops with the most certified wood: a'r brandiau a sgoriodd orau yn dilyn eu hadolygiad oedd B&Q, Howdens, Ikea a Magnet a oedd wedi'u rhestru'n 'dda'.

Mae'r cyfan yn ymwneud â meddylfryd

Nid yw'r erthygl hon yn cwmpasu pob ffordd y gallwch fod yn fwy cynaliadwy wrth addurno eich cartref. Ond gobeithio y bydd yn eich rhoi ar y trywydd iawn.

Os ydych wedi ymrwymo'n wirioneddol i addurno eich cartref yn gynaliadwy, yna bob tro y bydd angen deunyddiau neu offer arnoch, chwiliwch i weld a oes fersiwn ecogyfeillgar a chynaliadwy ar gael.

Un awgrym syml yw ychwanegu 'ecogyfeillgar' at eich chwiliadau Google am gynhyrchion a deunyddiau y gallai fod eu hangen arnoch wrth wneud gwelliannau gartref. Mae'n gweithio ar gyfer sawl peth. Gallwch gael hambyrddau paent wedi'u gwneud o fwydion cansenni siwgr, rygiau wedi'u gwneud o boteli plastig wedi'u hailgylchu, carpedi wedi'u gwneud o rwydi pysgota neu ddarnau o ffabrig wedi'u hailgylchu... mae'r rhestr yn faith.

Mwynhewch eich cartref ar ei newydd wedd a mwy cynaliadwy!

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy am fyw yn gynaliadwy yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig