Estyniad i’r cartref: faint y bydd yn costio?
Diweddarwyd ddiwethaf: 21/01/2022
Mae estyn eich eiddo yn ffordd wych o gael mwy o le byw, heb y drafferth o symud cartref.
Nid yw estyniadau’n rhad, ond gallant ychwanegu at werth eich tŷ yn ogystal â darparu lle ychwanegol hanfodol.
Darllenwch ymlaen i gael gwybod faint y gallwch chi ddisgwyl ei dalu ar gyfartaledd.
Pa fath o estyniad ydw i’n dymuno ei gael?
Yn gyntaf oll, bydd angen i chi feddwl am y math o estyniad yr ydych yn dymuno buddsoddi ynddo. A ydych chi’n dymuno cael estyniad unllawr gweddol safonol, siâp bocs? Neu efallai eich bod yn bwriadu gwneud eich gorau i gael estyniad deulawr gyda deunyddiau o ansawdd da?
Cofiwch mai prisiau cyfartalog yw’r prisiau isod. Mae llawer o newidynnau, fel ble’r ydych chi’n byw yn y DU neu a fydd arnoch angen plymwaith yn eich estyniad. A bydd hyn i gyd yn effeithio ar y costau.
- Estyniad unllawr yn costio
- Estyniad deulawr yn costio
- Estyniad ochr yn costio
- Estyniad mewn pecyn fflat yn costio
- Weddnewid croglofft yn costio
Ar gyfer estyniad unllawr, gallech ddisgwyl talu’r ffigurau bras canlynol:
Ansawdd sylfaenol | £1,350 – £1,650/m² |
Ansawdd da | £1,700 – £2,000/m² |
Yr ansawdd gorau | £1,800 – £2,500/m² ac uwch |
Ffynhonnell: https://www.homebuilding.co.uk/advice/how-much-does-an-extension-cost
Felly faint fyddai cyfanswm y gost gyfartalog am estyniad 30m²? Yn ôl gwefan canfod crefftwyr Household Quotes, rhwng £30,000 a £48,000 a fyddai’r gost adeiladu. Dylai hyn gymryd tua wyth i 10 wythnos i’w gwblhau.
Delwedd o Your Job Cost
Os ydych yn bwriadu estyn dau lawr, byddech yn edrych ar dalu’r canlynol:
Ansawdd sylfaenol | £1,250 – £1,650/m² |
Ansawdd da | £1,650 – £2,250/m² |
Yr ansawdd gorau | £2,250 – £3,000/m² ac uwch |
Ffynhonnell: https://www.homebuilding.co.uk/advice/how-much-does-an-extension-cost
Yn ôl Household Quotes, mae estyniad deulawr 40m² yn debygol o gostio rhwng £48,000 a £76,000, os ydych yn gweithio ar gyllideb. Dylech ddisgwyl i’r gwaith gymryd tua 12 i 16 wythnos.
Delwedd o My Home Extension
Gall estyniadau ochr fod yn ffordd glyfar o greu mwy o le y tu mewn, heb gymryd gormod o’r ardd.
Yn ôl gwefan gwella cartrefi Homebuilding & Renovating, dylai estyniad ochr sylfaenol gostio tua £1,500 – £2,000 fesul m². Dylai perchnogion tai gyllidebu o £75,000 ac uwch, er y bydd prisiau’n amrywio gan ddibynnu ar ffactorau fel ansawdd y deunyddiau, a faint o waith ad-drefnu y mae angen ei wneud. Er enghraifft, os ydych yn bwriadu cynnwys cegin yn yr estyniad, bydd angen plymwaith arnoch, a bydd angen ichi ail-wneud y pibellau os oes gennych bopty nwy.
Dylai estyniad ochr gymryd oddeutu 10 i 12 wythnos i’w gwblhau.
Delwedd o My Job Quote
Fel mae’r enw’n awgrymu, dewis cyflym yw hwn – er nad yw’n rhad o reidrwydd, yn enwedig os ydych yn chwilio am estyniad o’r ansawdd gorau. Yn ôl Household Quotes, mae prisiau cyfartalog estyniad mewn pecyn fflat fel a ganlyn:
Ansawdd sylfaenol | £750 - £1,140/m² |
Ansawdd da | £1,275 - £1,800/m² |
Yr ansawdd gorau | £1,650 – £3,600/m² |
Ffynhonnell: https://householdquotes.co.uk/cost-of-extension/
Dim ond wythnos neu ddwy sydd ei angen i osod y rhain. Fodd bynnag, mae angen ichi ddewis arddull sy’n cydweddu â’ch cartref, fel arall, mae perygl y bydd yn colli ei werth yn gyffredinol.
Delwedd o Timber Rooms
Mae gweddnewid eich croglofft yn ffordd boblogaidd arall o estyn eich lle byw. Unwaith eto, bydd y costau’n amrywio gan ddibynnu ar beth yn union yr ydych yn dymuno ei gyflawni. Yn ôl safle dyfynbrisiau gan grefftwyr, MyJobQuote, gallwch ddisgwyl talu’r costau cyfartalog canlynol am weddnewid croglofft:
Gweddnewidiad gan ddefnyddio’r lle sydd eisoes yn bodoli o dan y to | £15,000 – £20,000 |
Gweddnewidiad dormer | £30,000 – £60,000 |
Gweddnewidiad to talcen slip | £40,000 – £65,000 |
Gweddnewidiad to mansard | £45,000 – £70,000 |
Ffynhonnell: https://www.myjobquote.co.uk/costs/loft-conversion
Os ydych yn ystyried gweddnewid eich croglofft, ond nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, darllenwch yr arweiniad i ddechreuwyr yma ar weddnewid croglofftydd.
Delwedd o Loft Conversion London
Ar gyfer deunyddiau a gosod yr adeilad y mae’r rhan fwyaf o’r costau yma, ond nid ydynt yn cynnwys gosodiadau na ffitiadau.
Mae rhai pethau eraill i’w hystyried y bydd yn rhaid ichi gyllidebu ar eu cyfer:
- Bydd defnyddio contractwr adeiladu neu bensaer yn costio mwy. Gall ffioedd gwaith dylunio gan bensaer gostio hyd at 10% o’r gost adeiladu.
- Bydd unrhyw luniadau a dyluniadau a wneir yn gost ychwanegol.
- Os oes angen peiriannydd strwythurol arnoch, bydd yn rhaid ichi dalu am ei ymweliad. Bydd hyn yn costio £400 ar gyfartaledd am brosiectau domestig syml.
- Defnyddiwch drydanwr cofrestredig i wneud y gwaith ailweirio. Maent yn tueddu i godi oddeutu £40 yr awr, neu £200 i £250 y diwrnod.
- Os oes angen plymwr arnoch, maent yn arfer codi rhwng £40 ac £80 yr awr. Ac os oes angen gwaith nwy arnoch, cofiwch ddefnyddio peiriannydd sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy. Dylai hyn gostio tua £75 yr awr.
- Mae cylchgrawn defnyddwyr Which? yn argymell y dylech neilltuo 10% arall ar gyfer costau ychwanegol annisgwyl.
Cofiwch hefyd fod adeiladwyr yn debygol o ofyn am daliad fesul cam, felly paratowch ar gyfer hyn wrth reoli eich llif arian.
Bydd talu cyn lleied o bobl â phosibl yn sicrhau y bydd y gwaith o adeiladu estyniad yn debygol o fod yn rhatach. Er ei bod yn dda gadael yr holl waith i’r gweithwyr proffesiynol os gallwch fforddio gwneud hynny, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun.
Darllenwch ein harweiniad: Estyniad i’r cartref: Gwneud y gwaith eich hun neu alw ar yr adeiladwyr?
Yn gyffredinol, ar gyfer yr holl waith yr ydych yn dymuno ei wneud i’ch cartref, dylech gymharu dyfynbrisiau gan dri chrefftwr gwahanol o leiaf. Hefyd, er mwyn sicrhau eich bod yn cyllidebu’n gywir, gwiriwch bob amser fod TAW wedi ei chynnwys.