Sut i ddod â mwy o olau i mewn i’ch cartref
Diweddarwyd ddiwethaf: 29/04/2022
Os oes gennych chi ystafell dywyll, drist yn eich tŷ, yna peidiwch, da chi, ag ildio i’r tywyllwch! Yn hytrach, croesawch y golau drwy gymryd rhai o’r camau hyn a allai eich helpu i greu lle byw mwy golau a heulog.
Paentiwch y waliau ac unrhyw nodweddion eraill, fel bordiau wal ac unrhyw fowldinau eraill, mewn lliwiau goleuach.
Gallai hynny olygu cael gwared ar bapur wal powld, ond mewn ystafell dywyll, mae lliwiau goleuach yn hanfodol gan y byddan nhw’n adlewyrchu’r golau naturiol sy’n dod i mewn i’r ystafell yn hytrach na’i amsugno.
Nid oes rhaid i chi fynd am baent gwyn plaen, a gallech chi ddewis llwydwyn neu lwyd golau.
Rydych chi eisiau gwneud y gorau o’ch ffenestri, felly gwnewch yn siŵr nad ydyn nhw’n cael eu cuddio gan ddodrefn. Dylech chi hyd yn oed osgoi rhoi silffoedd llyfrau yn gyfochrog â ffenestr, gan y byddan nhw’n rhwystro’r golau.
Ystyriwch eich lloriau hefyd. Os oes gennych garped ar y llawr, lliwiau niwtral a golau sydd orau.
Fel arall, bydd lloriau pren, ceramig neu garreg gyda sglein arnyn nhw yn adlewyrchu llawer mwy o olau na charpedi.
Fodd bynnag, os na allwch chi wneud rhyw lawer am eich lloriau presennol, gall helpu i ychwanegu ryg lliw golau.
Os oes gennych unrhyw baentiadau mawr tywyll, cadwch nhw ar gyfer ystafelloedd eraill sydd â mwy o olau naturiol.
Yn ogystal ag ychwanegu’n gyffredinol at olwg drymaidd ystafell, mae paentiadau tywyllach yn amsugno’r golau sy’n dod i mewn i’ch ystafell yn hytrach na’i adlewyrchu.
Os gallwch chi, newidiwch ddrws solet am un â ffenestr ynddo. Neu tynnwch y drws yn gyfan gwbl.
Rhowch ddrychau i fyny i helpu i ledaenu pa olau naturiol bynnag sydd yno. Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy osod drych mawr gyferbyn â’r ffenestr fwyaf yn eich ystafell.
Beth am fwrdd coffi â drych ynddo hefyd?
Os nad ydych chi’n glanhau’ch ffenestri’n rheolaidd, gall fod yn syndod mawr faint o wahaniaeth mae’n ei wneud. Yn sydyn, mae cymaint mwy o olau yn dod i mewn.
Mae rhai o’r teclynnau hwfro ffenestri â llaw ar y farchnad yn wych bellach, gan eich galluogi i lanhau ffenestri’n gyflym iawn heb adael marciau dŵr.
Nid yw’n syndod mai’r ffordd orau o gynyddu’r golau naturiol yn eich cartref yw gosod ffenestri a drysau mawr newydd. Gall drysau sy’n plygu’n ddwy yn arbennig wneud gwahaniaeth enfawr.
Ond wrth gwrs, nid oes gan bawb y gyllideb i wneud hyn.
Os yw eich ystafell yn llawn dodrefn tywyll, nid oes ganddi lawer o obaith o ymddangos yn olau ac yn awyrog.
Felly ffarweliwch â dodrefn tywyll o blaid lliwiau goleuach. A pheidiwch â gwasgu gormod i mewn.
Mae’r un peth yn wir am lenni: mae llenni trwm, tywyll yn amsugno golau. Mae lliwiau golau, tryloyw, ar y llaw arall, yn gadael yr heulwen drwodd.
Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi gyfaddawdu rywle yn y canol, gan y bydd llenni trwchus yn helpu i gadw’ch ystafell yn gynhesach ar nosweithiau’r gaeaf.
Ystyriwch y tu allan hefyd. Os bydd canghennau a dail yn tyfu ar draws y ffenestri, byddan nhw’n rhwystro’r golau ac yn gwneud yr ystafell yn dywyllach. Felly ewch ati i’w tocio
Ar y llaw arall, gall cael rhywfaint o blanhigion byw wneud i ystafell deimlo’n fwy awyrog ac yn llai caeedig.
Felly ceisiwch ychwanegu gwpl o blanhigion tŷ gloyw i ddod ag ychydig o’r awyr agored i’ch ystafell dywyll.