Sut i gynilo ar gyfer y Nadolig

Diweddarwyd ddiwethaf: 15/12/2022 | Amser darllen: 4 munud

Ydych chi'n drefnus iawn wrth siopa a chynilo ar gyfer y Nadolig, ac yn paratoi fisoedd ymlaen llaw? Neu a ydych chi'n aros tan y funud olaf ac yn gwario'r hyn a allwch yn nhymor y Nadolig?

Ar adeg pan mae sefyllfa ariannol pobl o dan bwysau – a llawer yn cwtogi – roeddem yn awyddus i ddysgu sut roedd pobl yng Nghymru yn cynllunio’n ariannol ar gyfer y Nadolig.

Aethom allan i strydoedd Merthyr Tudful a Phontypridd i ofyn i'r bobl leol a ydynt yn cynilo ar gyfer y Nadolig, a sut maent yn mynd ati i wneud hynny.

“Ychydig ac yn aml”

“Cynilwch ychydig yn rheolaidd”, oedd y cyngor a roddwyd gan un siopwr Nadolig. Ychwanegodd un arall: “Gwnewch hynny bob mis. Dechreuwch mor gynnar ag y gallwch chi, ychydig ac yn aml”.

Mae cynilo’n rheolaidd yn gyngor syml a gwych: ceisiwch neilltuo rhywfaint o’ch incwm misol mewn cyfrif cynilo os gallwch chi wneud hynny. Gallech hyd yn oed gymryd yr her gynilo 1c boblogaidd: rydych yn cynilo un geiniog ar y diwrnod cyntaf, yna 2c ar yr ail ddiwrnod, ac yna 3c ar y trydydd diwrnod ac ati. Ar ôl 365 o ddiwrnodau, gallech fod â dros £650 wedi’i gynilo.

“Peidiwch â thalu gormod am bethau” oedd y cyngor gan siopwr arall ym Merthyr y siaradom ni ag ef. Mae'n swnio'n amlwg, ond yn ddifeddwl, mae'n hawdd cael eich sugno i'r hyn rydych yn meddwl sy'n fargen. Ceisiwch neilltuo amser i chi'ch hun ddod o hyd i'r prisiau gorau sydd ar gael a gwrthsefyll yr awydd i brynu’n fyrbwyll!

Os yw arian yn brin iawn eleni, yna gall gwneud rhestr o bobl i brynu ar eu cyfer a gosod cyllideb ar gyfer pob un fod o gymorth. Fel y dywedodd un siopwr craff, “Rwyf bob amser yn ceisio gosod swm ar gyfer pob person a cheisio cadw ato.”

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein hawgrymiadau i siopwyr Nadolig ar gyfer osgoi straen a dyled.

“Dechreuais gynilo ym mis Awst”

Felly pa mor gynnar y dylech ddechrau cynilo ar gyfer y Nadolig? Yr ateb yw, dechreuwch cyn gynted â phosibl os gallwch wneud hynny. Gallai hyn leddfu'r pwysau ym mis Rhagfyr. 

“Dechreuais yn ôl ym mis Awst, ar gyfer y Nadolig, felly rwy’n gynnar iawn”, meddai un cynilwr y siaradom ni ag ef. Dywedodd un arall ei fod yn bwriadu dechrau cynllunio ym mis Medi.

Wrth gwrs, ni fydd llawer o bobl mor drefnus â hynny; dywedodd un siopwr iddi ildio i “banig munud olaf”. Mae’n siŵr y gall llawer o bobl uniaethu â hynny.

Ond gallech chi droi dalen newydd yn 2023 ac achub y blaen arni. Gallech anelu at gynilo ychydig bob mis a chadw’r arian o’r neilltu tan y Nadolig. Mae ein Bond Cynilo Rheolaidd Nadolig 2023 yn ffordd wych o wneud hynny.

“Dydych chi ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel”

Mae dros ddwy ran o dair o oedolion ym Mhrydain yn bwriadu cwtogi ar wariant yr ŵyl eleni oherwydd argyfwng costau byw sy’n gwaethygu, yn ôl arolwg a gyhoeddwyd ym mis Hydref. Ac roedd hynny’n wir am lawer o'r siopwyr y gwnaethom eu cyfarfod ar strydoedd Merthyr Tudful a Phontypridd. 

Pan ofynnwyd i un siopwr a oedd wedi cwtogi eleni, dywedodd: “Rwy'n meddwl bod yn rhaid gwneud. Dydych chi ddim yn gwybod beth sydd rownd y gornel” 

Roedd person arall a oedd yn mynd heibio y siaradom ni ag ef yn bwriadu lleihau nifer y bobl roedd yn prynu anrhegion ar eu cyfer: “Gadewch rai o’r aelodau o’r teulu ehangach,” awgrymodd. Allech chi wneud yr un peth? Os byddwch yn siarad â’r bobl rydych yn eu caru, maen nhw’n debygol o ddeall os oes angen i chi gwtogi ar roi anrhegion eleni. 

Ymhlith awgrymiadau eraill ar gyfer arbed ar anrhegion mae prynu nwyddau ail law; bydd traean o oedolion yn newid eu cynlluniau i brynu o siopau elusen dros yr ŵyl, yn ôl ymchwil gan British Heart Foundation.

Os nad ydych wedi llwyddo i gynilo llawer eleni, gallai fod yn amser da nawr i gyfrifo faint y gallwch fforddio ei wario y Nadolig hwn, cyn blaenoriaethu sut rydych am ei wario. Er y gallai olygu cwtogi ar rai danteithion a thraddodiadau, gallai olygu llai o straen ariannol yn y flwyddyn newydd.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am gynilo arian:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig