Sgamiau Nadolig cyffredin a sut i’w hosgoi

Diweddarwyd ddiwethaf: 15/12/2022

Gall yr wythnosau cyn y Nadolig droi’n rhuthr gwyllt, wrth i chi geisio gorffen eich siopa a pharatoi ar gyfer yr ŵyl. Mae wastad anrheg arall i'w phrynu neu rywbeth arall rydych chi wedi'i anghofio.

Yn anffodus, mae twyllwyr yn ymwybodol iawn o hyn. Maen nhw’n gwybod bod pawb yn brysur, yn cael eu boddi gan gynigion arbennig, hysbysebion a gwahoddiadau. Mae troseddwyr yn cymryd mantais ac yn defnyddio'r rhain i dwyllo siopwyr diarwybod.

Dyma rai sgamiau i gadw golwg amdanynt ac awgrymiadau er mwyn helpu i osgoi dioddef twyll. 

Negeseuon e-bost a negeseuon testun gwe-rwydro

Gall rhai o'r negeseuon e-bost neu’r negeseuon testun a gewch am gynigion anhygoel i bob golwg gynnwys dolenni i wefannau ffug.

Os ydych chi’n ansicr, peidiwch â defnyddio'r ddolen ac ewch i'r wefan yn uniongyrchol yn lle hynny. Gallwch hefyd anfon neges e-bost sy’n edrych yn amheus ymlaen at y Gwasanaeth Adrodd am Negeseuon E-bost Amheus i report@phishing.gov.uk a rhoi gwybod am negeseuon testun amheus drwy anfon y neges wreiddiol ymlaen i 7726.

Gostyngiadau amheus

Mae sgamwyr yn defnyddio codau disgownt i ofyn am eich gwybodaeth bersonol ac yna'n ei rhannu â throseddwyr eraill.

Felly, os yw gwefan yn cynnig cod disgownt sy'n edrych yn anhygoel, a allai fod yn rhy dda i fod yn wir? Meddyliwch ddwywaith, a chadarnhewch ddilysrwydd y wefan a'r cynnig cyn rhoi eich manylion ar-lein.

Tocynnau ffug

O ran sgamiau tocynnau ffug, rydych yn cael cynnig y cyfle i brynu tocynnau i ddigwyddiad poblogaidd, yn aml o wefan ffug a allai ymddangos yn ddilys. Mae'r digwyddiad go iawn yn aml wedi gwerthu pob tocyn mewn gwirionedd, neu nid yw'r tocynnau wedi mynd ar werth yn swyddogol eto.

Efallai y byddwch yn talu am y tocynnau ond nid ydynt byth yn cael eu dosbarthu; neu efallai y byddwch yn cael tocynnau, ond maent yn ffug. Mae’n bosibl na fyddwch hyd yn oed yn sylweddoli nes y byddwch yn cyrraedd y digwyddiad.

Os byddwch yn dod ar draws gwefan sy’n ymddangos yn argyhoeddiadol nad ydych yn siŵr ohoni neu ei bod yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, gadewch hi ar unwaith. Cadarnhewch gyda threfnydd, hyrwyddwr neu leoliad y digwyddiad sut a phryd mae tocynnau’n cael eu gwerthu.

Negeseuon danfon ffug

Mae’r neges destun ffug am ddanfon post yn ffefryn arall ymhlith twyllwyr adeg y Nadolig.

Gan obeithio y byddwch wedi colli golwg ar yr holl eitemau rydych yn eu disgwyl, byddant yn anfon neges destun neu neges e-bost atoch i ddweud na ellid dosbarthu parsel. Mae'r neges yn cynnwys dolen i wefan – sy’n ffug – lle bydd gofyn i chi dalu ffi er mwyn i'r eitem gael ei danfon. Efallai mai dim ond ffi fach ydyw. Ond pan fyddwch yn talu'r swm, rydych yn datgelu manylion eich banc neu gerdyn i'r twyllwyr.

Sgamiau rhoddion elusennol

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, gall twyllwyr hefyd fanteisio ar bobl yn rhoi arian i achosion da. Gallant honni eu bod yn codi arian at elusen ffug neu gallant ddynwared elusen adnabyddus.

Er mwyn helpu i osgoi cael eich twyllo gan y math hwn o sgam, pan fyddwch yn cwrdd â swyddog codi arian wyneb yn wyneb, cadarnhewch ei fanylion - dylai casglwyr ar y stryd wisgo bathodyn adnabod sy'n amlwg, a dylai unrhyw fwcedi casglu fod wedi’u selio ac yn ddiddifrod. Neu wrth roi ar-lein, gwnewch yn siŵr bod yr elusen yn ddilys cyn rhoi unrhyw wybodaeth ariannol - teipiwch gyfeiriad gwefan yr elusen eich hun, yn hytrach na chlicio ar ddolen, a chwiliwch am rif elusen gofrestredig ar y wefan.

Sgamiau ‘Cyfaill mewn angen’

Mae sgam gyffredin arall - adeg y Nadolig ac ar adegau eraill o’r flwyddyn hefyd - yn ymwneud â throseddwyr yn cysylltu â phobl ar WhatsApp ac yn esgus bod yn ffrind iddynt neu’n aelod o’r teulu mewn angen.

Bydd y troseddwr, sy'n honni ei fod yn rhywun rydych yn ei adnabod, yn dweud ei fod yn anfon neges destun o rif ffôn symudol newydd gan ei fod wedi colli neu ddifrodi ei ffôn. Bydd yn gofyn am arian i brynu ffôn newydd neu i dalu bil ar frys.

Bydd yn rhoi ei fanylion banc, yn y gobaith y cewch eich twyllo i dalu’r hyn y mae’n gofyn amdano. Os gwnewch hynny, mae’n debygol o ofyn am fwy hyd nes y byddwch, ar ryw adeg, yn sylweddoli mai sgam ydoedd o’r cychwyn.

Sgamiau benthyciad

Os oes angen benthyciad arnoch i’ch helpu i dalu am bopeth sydd ei angen arnoch y Nadolig hwn, mae hwn yn gyfnod arall i wylio rhag twyllwyr.

Twyll benthyciad yw pan fydd troseddwyr yn argyhoeddi ymgeiswyr am fenthyciad i dalu ffi am fenthyciad ffug. Nid yw'n wir wrth gwrs, ac ar ôl i chi dalu'r ffi, maent yn diflannu.

Awgrymiadau ar gyfer osgoi sgamiau

Er mwyn helpu i osgoi dioddef twyll y Nadolig hwn a thu hwnt, mae gan Action Fraud, y ganolfan twyll a seiberdroseddu genedlaethol, rai awgrymiadau sylfaenol:

  • Rhowch broses wirio dau gam ar waith a defnyddiwch gyfrineiriau dri gair ar hap i atal seiberdroseddwyr rhag cael mynediad at eich cyfrifon.
  • Ymchwiliwch i fanwerthwyr ar-lein, yn enwedig os nad ydych wedi prynu ganddynt o'r blaen, i gadarnhau eu bod yn ddilys.
  • Defnyddiwch gerdyn credyd wrth siopa ar-lein, gan fod y rhan fwyaf o ddarparwyr cardiau credyd mawr yn diogelu pryniannau ar-lein ac mae'n rhaid iddynt eich ad-dalu mewn amgylchiadau penodol.
  • Pan fyddwch yn talu ar-lein, chwiliwch am y logo clo clap caeedig yn y bar cyfeiriad gwe, sy'n golygu bod eich cysylltiad yn ddiogel.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am y Nadolig yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig