Mae hi’n dymor Nadolig cynaliadwy

Diweddarwyd ddiwethaf: 25/11/2022

Dewisiadau hawdd i leihau eich effaith ar yr amgylchedd

A fyddwch chi’n wyrdd eich byd y Nadolig hwn? Nid fel yn y gorffennol, pan oedd cymaint o wastraff a gorddefnydd ac roedd cynaliadwyedd mor brin â’r eira.

Os felly, dyma rai newidiadau syml y gallwch chi eu gwneud i gael Nadolig mwy ecogyfeillgar a llai gwastraffus.

Newidiwch i bapur lapio wedi’i ailgylchu

Fel arfer, nid oes modd ailgylchu papur lapio anrhegion oherwydd ei fod wedi’i lamineiddio â phlastig, ffoil neu ddeunyddiau eraill nad ydyn nhw’n bapur yn aml.

Ond gallwch chi brynu rholiau wedi’u gwneud o bapur sydd wedi’i ailgylchu a’i argraffu gydag inc dŵr i leihau tocsinau yn yr amgylchedd.

Neu gallech chi gael ysbrydoliaeth o Asia, a rhoi cynnig ar fabwysiadu furoshiki, y grefft o Japan o lapio gyda ffabrig, gan ddefnyddio deunyddiau y mae modd eu hailddefnyddio.

Rhowch gynnig ar gardiau Nadolig ecogyfeillgar

Mae’n hawdd dychmygu adeg pan fydd yr arfer o anfon cardiau Nadolig ffisegol yn un o hen draddodiadau’r gorffennol. 

Ond am y tro, efallai y byddwch chi’n dal i deimlo bod angen anfon rhai at ffrindiau a theulu. Os felly, dewch o hyd i set o gardiau Nadolig heb glitr neu ffoil y mae modd eu hailgylchu’n haws.

Mwynhewch y bwyd dros ben

Mae’n syfrdanol, bob Nadolig yn y DU, bod 2 miliwn o dwrcwn, 5 miliwn o bwdinau Nadolig, a 74 miliwn o fins peis yn cael eu taflu i’r bin, er eu bod yn dda i’w bwyta o hyd. Mae hyn yn cyfrannu at gyfanswm o bron 270,000 tunnell o wastraff bwyd Nadoligaidd.

Ond mae cymaint y gallwch ei wneud gyda bwyd dros ben y Nadolig. Pwy na fyddai’n dwlu ar y prydau bwyd dros ben hyn, pei tato rhost, twrci a stwffin a phastai pobi soch mewn sach? Neu strŵdl pwdin ‘Dolig neu tiffin wedi’i wneud o siocled dros ben? Mae’r dewisiadau’n ddiddiwedd.

Nid oes angen i chi eu bwyta i gyd ar un tro beth bynnag; cyhyd â’ch bod chi wedi gwneud lle yn eich rhewgell, mae modd rhewi llawer ohono a’i ddefnyddio’n raddol.

Er mwyn osgoi cael gormod dros ben yn y lle cyntaf, cymerwch fwy o amser i brynu’r hyn sydd ei angen arnoch yn unig. Mae’r cynllunydd dognau hwn yn eich helpu i wneud hynny.

Siopwch yn lleol

Mae mynd i’r siopau a phrynu anrhegion yn draddodiad y byddai llawer o bobl yn amharod i’w aberthu. Ond gall hyd yn oed siopwyr sydd o blaid cynaliadwyedd fwynhau siopa – ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud hynny’n lleol.

Drwy brynu o siopau a marchnadoedd lleol y Nadolig hwn, byddwch chi’n fwy cynaliadwy a byddwch chi hefyd yn cefnogi eich cymuned a’ch economi leol.

Prynu calendr adfent y gallwch ei ailddefnyddio

Yn hytrach na phrynu calendr adfent newydd bob blwyddyn, i arbed gwastraff (ac ychydig o geiniogau hefyd, dros y blynyddoedd), beth am fuddsoddi mewn calendr adfent y gallwch ei ailddefnyddio? Gallwch ei lenwi bob blwyddyn ag eitemau o’ch dewis – siocledi neu ddanteithion cartref efallai?

Prynwch siwmper Nadolig ail law

Yn aml, mae siwmperi Nadolig wedi’u gwneud o blastig. Yn 2019, dadansoddodd elusen y deunyddiau a gafodd eu defnyddio mewn 108 o siwmperi Nadolig a gwnaethon nhw ddarganfod bod 95% ohonyn nhw wedi’u gwneud yn gyfan gwbl neu’n rhannol o ddeunyddiau plastig.

Felly, gallech chi gefnu ar siwmperi Nadolig yn gyfan gwbl. Neu, os ydych chi eisiau osgoi gael eich cyhuddo o fod yn hen Scrooge, beth am brynu un ail law a rhoi ail fywyd iddi. Yn aml, mae gan wefannau fel Beyond Retro y casgliadau mwyaf trawiadol (a chawslyd). Efallai bydd un hyd yn oed yn rhatach yn eich siop elusen leol.

Addaswch eich bwyd Nadolig

Gallwch leihau milltiroedd bwyd drwy brynu bwyd o Brydain. Un ffordd syml o wneud hynny yw trwy gynnwys llysiau mwy traddodiadol y DU yn eich cinio Nadolig.

Hefyd, er y gallai fod yn anodd i gigysyddion ymroddedig ei dderbyn, osgoi cig a chynnyrch llaeth yw’r ffordd fwyaf sylweddol o leihau eich effaith amgylcheddol ar y blaned, yn ôl gwyddonwyr.

Gall bwyta llai o gig fod yn anodd os yw’n rhan reolaidd o’ch deiet. Os felly, yn hytrach na mynd heb ddim, ceisiwch gymryd cam ar y tro: gallech chi, er enghraifft, gynyddu faint o lysiau yr ydych chi’n eu defnyddio yn raddol wrth wneud prydau fel lasagne neu gaserol, gan leihau faint o gig sy’n cael ei gynnwys ynddyn nhw ac ychwanegu ffacbys i gael protein a gwead ychwanegol. Ar y diwrnod mawr ei hun, does dim rhaid i chi gael twrci - mae llawer o wastraff yn aml - felly beth am gael cyw iâr. Mae’n rhatach a byddwch yn llai tebygol o fod â llwyth o gig dros ben yn yr oergell.

Prynwch goeden Nadolig naturiol ... ond dim ond ar ôl i’ch coeden artiffisial roi’r gorau iddi

Yn gyffredinol, mae coed Nadolig naturiol yn well i’r amgylchedd, er efallai na fyddwch chi’n meddwl hynny.

Os gallwch chi brynu un artiffisial sydd wedi’i chreu i bara, a’i defnyddio am naw Nadolig, yna bydd yn debygol o gael llai o effaith ar yr amgylchedd na dewisiadau eraill naturiol.

Ond mae hynny’n amser hir. Felly, efallai ei bod yn bryd croesawu’r arogl hyfryd (ac ambell i nodwydd sy’n cwympo) sy’n dod gyda choeden naturiol. Gallech chi hyd yn oed fynd i’r lefel nesaf, os oes gennych ardd, a phrynu coeden naturiol mewn pot, a fydd yn tyfu gyda chi a’ch teulu. Pan fydd y Nadolig ar ben, gallwch ei rhoi yn ôl y tu allan ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am y Nadolig yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig