Sut i oroesi brwydr gynigion

Last updated: 18/04/2023

You find the perfect home; it has everything you need and at a seemingly fair price. The trouble is, you’re not the only house-hunter who has fallen for this particular gem. So, you’re now having to bid against other would-be buyers.  Don’t panic. There are some things you can do to increase your chances of having your bid accepted.

Please note: these tips are based on buying a house in England and Wales.

Ystyriwch faint y gallwch fforddio ei wario

Paratowch ‘gynnig terfynol’
Yn ystod y broses gynnig, os oes mwy nag un darpar brynwr, mae’n bosibl y gofynnir i chi roi cynnig ‘gorau a therfynol’. Bydd bod â syniad clir ynglŷn â phen uchaf eich ystod brisiau o’r cychwyn yn eich helpu i ddeall faint y gallwch fforddio’i gynnig. Sicrhewch eich bod yn cadw at hyn, a cheisiwch beidio â chynnig unrhyw beth uwchlaw hynny. 

Gallwch helpu i wella’ch tebygolrwydd cyn dechrau edrych ar dai hyd yn oed.

I ddechrau, mae’n syniad da cynnal prawf fforddiadwyedd i sicrhau eich bod yn gwybod yn union faint y gallwch fforddio ei wario. Cyfrifwch gyllideb ac yna penderfynwch ar y pris mwyaf y gallech fforddio ei dalu. Defnyddiwch ein cyfrifiannell morgais i roi syniad i’ch hun o faint y gallech gael benthyg.

Cyflwynwch eich hun fel prynwr o ddifrif

O’r eiliad rydych yn dechrau gwneud cynnig, ceisiwch gyflwyno’ch hun fel prynwr o ddifrif. Bydd hyn yn dangos i’r gwerthwr na fyddwch yn tynnu allan o’r cytundeb. Ystyriwch gael morgais mewn egwyddor cyn gwneud cynnig ar dŷ. Mae morgais mewn egwyddor yn dangos faint o arian y mae benthyciwr yn fodlon rhoi benthyg i chi i brynu tŷ, ar yr amod y gallwch fforddio ei brynu. Os ydych mewn brwydr gynigion, mae’n bosibl y bydd y gallu i ddarbwyllo’r gwerthwr a’r asiant y gallwch gael benthyg digon i brynu’r eiddo arwain at benderfyniad o’ch plaid. 

Cadwch eich cyllideb yn breifat

P’un ai chi yw’r unig un sy’n cynnig ar yr eiddo rydych ei eisiau neu mae sawl un ohonoch, peidiwch byth â datgelu eich cyllideb i’r gwerthwyr na’u hasiantau. Os bydd asiantau yn gwybod y swm uchaf rydych yn fodlon ei dalu, byddan nhw’n annog y gwerthwr i aros cyn gwerthu’r eiddo.

Byddwch yn barod rhag ofn bod angen i chi wneud cynnig wedi’i selio

Os oes mwy nag un darpar brynwr yn gwneud cynnig ar eiddo, bydd asiant weithiau yn gofyn am gynnig wedi’i selio. Mae hyn yn galw ar bob darpar brynwr i gyflwyno cynnig mewn amlen wedi’i selio erbyn dyddiad penodol. Gall deimlo’n swyddogol iawn ond nid yw’n rhwymo mewn cyfraith a gallai unrhyw barti dynnu’n ôl o hyd.

Gall fod yn anodd gwybod faint i’w gynnig yn eich cynnig wedi’i selio. Nid ydych eisiau talu mwy na’r angen ond nid ydych eisiau colli allan i gynigion uwch.

Y peth olaf rydych chi eisiau ei wneud yw cynnig mwy na gwerth yr eiddo oherwydd gallai hyn arwain at fethu â chael eich arian yn ôl os byddwch yn penderfynu gwerthu. Mae hefyd yn bosibl y bydd eich benthyciwr yn gwrthod rhoi benthyg os nad yw o’r farn bod yr eiddo yn werth y pris rydych yn gofyn amdano.

Wrth gyflwyno eich cynnig, mae’n syniad da osgoi talgrynnu eich ffigurau fel bod eich cynnig yn llai tebygol o fod yr un peth ag un arall.

Ynghyd â’ch cynnig wedi’i selio, soniwch am unrhyw beth a allai eich neilltuo oddi wrth y cynigwyr eraill, ac awgrymwch eich bod o ddifrif er mwyn rhoi sicrwydd i’r gwerthwyr na fydd y cytundeb yn methu. Dylid cynnwys copi o’ch morgais mewn egwyddor a rhoi gwybod eich bod yn dymuno i bethau symud mor gyflym â phosibl.

Peidiwch â bod ofn newid neu dynnu eich cynnig yn ôl

Nid yw unrhyw gynnig gennych yn rhwymo mewn cyfraith. Os ydych yn rhan o frwydr gynigion, ac yn poeni eich bod wedi cynnig yn fwy na’r angen, gallwch dynnu eich cynnig yn ôl. Nid yw gwerthiant tŷ yn rhwymo mewn cyfraith nes bod y cytundebau wedi’u llofnodi.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod pryd y mae’n amser i dynnu eich cynnig yn ôl. Os ydych o’r farn bod y frwydr gynigion wedi cynyddu pris yr eiddo i fwy nag ydych chi’n fodlon ei dalu, camwch yn ôl o’r frwydr a chwiliwch am eiddo arall.

 

What next?

  • Use our deposit calculator to work out how to save a deposit for your first home.
  • Download our free First Home Steps app for a pocket-guide to budgeting, planning, saving, and buying your first place.
  • Explore more blogs in our First Time Buyers hub.

Cliciwch ar yr adrannau isod i archwilio beth mae angen i chi ei wybod ar bob cam o’ch taith i brynu cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig