Estyniad i’r groglofft: Sut ydw i’n dechrau?

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/01/2022

Er ei bod yn cael ei defnyddio fel lle i focsys hel llwch yn draddodiadol, mae bod â chroglofft yn gyfle gwych ichi greu mwy o le byw.

Gall gweddnewid croglofft ychwanegu 10-20% at werth eich cartref . Ond yr un mor bwysig, rydych yn creu mwy o le defnyddiadwy. Os ydych yn rhan o deulu sy’n tyfu, er enghraifft, gallai’r ystafell ychwanegol hon fod yn fendith – yn enwedig os yw’n golygu y gallwch osgoi symud tŷ.

Ond ble ddylwn i ddechrau? Yma, byddwn yn edrych ar y camau cyntaf i’w cymryd wrth ystyried gweddnewid croglofft neu adeiladu estyniad.

A yw fy nghroglofft yn addas i’w gweddnewid?

Cyn cael gweithiwr proffesiynol i mewn, mae ychydig o wiriadau y gallwch eu gwneud eich hun. Yn gyntaf oll, gallwch fesur uchder y nenfwd i weld a oes digon o le uwch ben. Dylai’r man uchaf fod o leiaf 2.2 metr uwch ben y llawr. Mae’n bosibl na fydd unrhyw beth sy’n llai o ran maint yn addas i’w weddnewid.

Rydych eisiau digon o arwynebedd llawr hefyd i wneud y gweddnewidiad werth chweil. Fel rheol gyffredinol, dylai fod 5.5 metr o led, a 7.5 metr o hyd. 

Bydd gan eich tŷ drawstiau neu gyplau to, gan ddibynnu ar bryd y cafodd ei adeiladu. Mae trawstiau yn mynd ar hyd ymylon y to, gan eich gadael â chroglofft wag thrionglog. Mae hyn yn gwneud eich bywyd yn haws o ran gweddnewid croglofft. Cyneilyddion sy’n mynd drwy drawstoriad y groglofft yw cyplau. Os oes gennych gyplau, mae’n debygol o fod yn brosiect drutach, oherwydd bydd angen rhoi cymorth strwythurol ychwanegol yn eu lle.

Ystyriaeth arall yw addasrwydd y llawr o dan. Wrth greu lle uwchben, byddwch yn colli lle ar y llawr, oherwydd yr angen i gael grisiau. Felly, bydd yn rhaid ichi benderfynu ar floc o le yr ydych yn barod i’w golli.

Gan ddibynnu ar faint o le sydd gennych eisoes yn y groglofft, a faint sydd ei angen arnoch chi, mae’n bosibl yr hoffech ei hestyn. I gael syniad a fydd hyn yn bosibl, edrychwch ar dai tebyg yn eich stryd. Os oes gan unrhyw un ohonynt estyniad, mae hynny’n arwydd da.

Ar gyfer beth y byddaf yn defnyddio fy nghroglofft?

Os yw’n ymddangos yn debygol y byddwch yn gallu gweddnewid y groglofft, y cam nesaf yw’r dasg fwy pleserus o benderfynu beth i’w wneud â’r lle. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cael:

  • Ystafell wely ychwanegol, un ag ystafell ymolchi gysylltiedig o bosibl
  • Swyddfa gartref
  • Ystafell amlbwrpas, lle byw arall o bosibl, gyda gwely soffa i westeion

Mae rhai ystyriaethau o ran defnyddio’r lle. Mae lle uwchben yn un pwysig, yn enwedig os yw llawer o’ch lle yn y bargodion. Gallai’r nenfwd onglog olygu nad oes gennych gymaint o le ag y mae’r cynllun yn ei awgrymu. Cyfrifwch faint o’r arwynebedd y gellir ei defnyddio’n gyfforddus gyda’ch dodrefn, ac a ellid defnyddio’r gweddill ar gyfer storio.

Yn yr un modd, os ydych chi’n ystyried cael ystafell ymolchi gysylltiedig, bydd angen digon o le uwchben arnoch – yn enwedig os byddwch yn gosod cawod.

Wrth ichi gynllunio, byddwch yn dechrau cael gwell syniad a oes gennych ddigon o le yn barod, neu a fydd angen ichi adeiladu estyniad. Dylai hyn helpu i lywio’r math o weddnewidiad i fynd amdano.

Ceir pedwar prif fath o weddnewidiadau croglofft. Yn ogystal â sut yr ydych yn bwriadu defnyddio’r lle, bydd yr hyn yr ydych yn mynd amdano yn cael ei ddylanwadu hefyd gan y math o dŷ yr ydych yn byw ynddo, a’ch cyllideb.

Gweddnewidiad gan ddefnyddio’r lle sydd eisoes yn bodoli o dan y to

Os oes gennych ddigon o le heb orfod adeiladu estyniad, y dewis rhataf fydd yn creu cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yw gweddnewidiad gan ddefnyddio’r lle sydd eisoes yn bodoli o dan y to, a elwir weithiau yn weddnewidiad Velux. Gyda’r dewis yma, rydych yn gosod ffenestri to, llawr priodol a grisiau. Trwy wneud hyn, ni fyddwch yn newid siâp y to.

roof light conversion

Delwedd o Buildify Ltd

Gweddnewidiad croglofft dormer

Mae’n debyg mai’r math o weddnewidiad mwyaf poblogaidd yw gweddnewidiad croglofft dormer. Estyniad sy’n bargodi llethr y to yw hwn, ac fe’i gwneir â tho gwastad fel arfer. Gall y rhain ychwanegu cryn dipyn o le uwch eich pen, ac arwynebedd llawr defnyddiadwy gan hynny, er eu bod yn gymharol rad hefyd.

Gweddnewidiad to talcen slip

Os oes gennych dŷ sengl neu dŷ pâr gyda tho ochr ar osgo, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried gweddnewidiad to talcen slip. Hyn yw pan fo llethr (slip) yn cael ei hestyn tuag allan i ffurfio wal fertigol (talcen), sy’n rhoi mwy o le ichi y tu mewn.

hip to gable conversion

Delwedd o My Job Quote

Estyniad to Mansard

Estyniad to Mansard yw’r gweddnewidiad sy’n debygol o greu’r mwyaf o le, ond hwn yw’r drutaf hefyd. Mae’n rhedeg ar hyd to cyfan eich tŷ, sy’n gwneud ei lethr yn fertigol, bron. Maent hefyd yn addas ar gyfer bron unrhyw fath o eiddo a chanddo do ar osgo, gan gynnwys tai teras

mansard conversion

Delwedd o Absolute Lofts

Ar ôl i chi feddwl am rai o’r dewisiadau hyn, byddwch mewn sefyllfa dda i siarad â gweithiwr proffesiynol ac o bosibl i ddechrau gweddnewid eich croglofft eich hun.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am welliannau i'r cartref:

Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig