Morgais Cyfradd Sefydog 90% LTV

  • Byddwch yn gwybod yn union beth yw eich taliadau bob mis yn ystod y cyfnod penodol
  • Byddwch yn gwybod yn union beth fydd eich taliadau misol
  • Gallwch fenthyg hyd at 90% o werth pris prynu eich eiddo (Benthyciad a Gwerth)
  • Benthyg o leiafswn o £75,000
  • Gallwch fenthyg hyd at uchafswm o £650,000
  • Nid oes ffi cynnyrch
  • Nid oes ffi prisio
  • Nid oes ffi cyfreithiol ar gyfer ailforgeisi
  • Byddwch yn derbyn arian yn ôl o £500 cyn belled â bod eich morgais wedi'i gwblhau. Bydd yr arian yn ôl yn cael ei anfon at eich trawsgludwr fel rhan o'r cwblhad

GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS

Summary

5.37% p.a.

Hyd at 31/08/2029, ac yna’n newid i’n Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR)

7.60% p.a.

Ein Cyfradd Amrywiol Safonol ar hyn o bryd (SVR)

6.8% APRC

Y gost gyfan er mwyn cymharu

90%

Benthyciad Uchaf o'i Gymharu â'r Gwerth (LTV)

Ffi Cynnyrch £0
Ffi Ymrwymiad Morgais £0
Taliadau Ad-dalu’n Gynnar Cliciwch ar y tab Ffioedd a Thaliadau am fanylion.
Uchafswm y benthyciad £650,000
Gwybodaeth bwysig

Gwybodaeth bwysig

Mae’r morgais cyfradd sefydlog hwn ar gael ar gyfer eiddo preswyl perchen-feddianwyr yng Nghymru neu Loegr. Mae’r morgais cyfradd sefydlog hwn yn gynnig cyfyngedig a gellir ei dynnu’n ôl unrhyw bryd. Yr isafswm maint benthyciad ar gyfer y cynnyrch hwn yw £75,000. Er na fydd y gyfradd llog yn codi cyn diwedd y cyfnod cyfradd sefydlog, gall ffactorau eraill arwain at gynyddu eich taliadau cyn y dyddiad hwn e.e. symiau heb eu talu yn cael eu debydu i'ch cyfrif.

  • Morgais tynnu i lawr
    Nid oes unrhyw gyfleuster tynnu i lawr gyda'r cynnyrch hwn.
  • Gwyliau talu
    Nid oes cyfleuster gwyliau talu gyda'r cynnyrch hwn.
  • Gordaliad
    Mae cyfleuster gordaliad gyda'r cynnyrch hwn.
  • Tandaliad
    Nid oes cyfleuster tandaliad gyda'r cynnyrch hwn.
  • Benthyg yn ôl
    Nid oes cyfleuster benthyca'n ôl gyda'r cynnyrch hwn.
Ffïoedd a thaliadau

Ffïoedd, taliadau a chymhellion

  • Ffi cynnyrch
    £0
  • Ffioedd Prisio
    Bydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn talu cost Adroddiad a Phrisiad at Ddibenion Morgais yn Unig.
  • Ffioedd Cyfreithiol
    Os ydych yn ail-forgeisio, byddwn yn talu’r ffioedd cyfreithiol yr eir iddynt wrth sicrhau eich morgais newydd os byddwch yn defnyddio ein cyfreithwyr, er y byddant yn gweithredu drosom ni yn unig. Os hoffech i'n cyfreithwyr eich cynghori neu wneud gwaith ychwanegol, gallant wneud hynny ar eich cost chi, os ydynt yn cytuno. Os oes gwaith ychwanegol i'w wneud, efallai na fydd ein cyfreithwyr yn gallu sicrhau eich morgais newydd. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi benodi eich cyfreithiwr eich hun a thalu eu ffioedd yn llawn. Gallwch bob amser ddefnyddio eich cyfreithiwr eich hun ar eich cost chi, yn amodol ar ein caniatâd. Rhaid i chi dalu'r holl ffioedd cyfreithiol os ydych chi'n prynu eiddo.
  • Ffi Ymrwymiad Morgais
    Nid oes Ffi Ymrwymiad Morgais.
  • Tâl ad-dalu'n gynnar (ERC's)
    Byddwch yn wynebu tâl ad-dalu cynnar o 5% o’r swm ag ad-delir os byddwch yn ad-dalu’n llawn ar neu cyn 31/08/2026, 3% o’r swm ag ad-dalwyd os byddwch yn ad-dalu’n llawn ar ôl 31/08/2026 ac ar neu cyn 31/08/2028, ac 1% o’r swm ag ad-dalwyd os byddwch yn ad-dalu’n llawn ar ôl 31/08/2028 ac ar neu cyn 31/08/2029.
  • Arian yn ôl
    Mae cyfleuster arian yn ôl gwerth £500 gyda'r cynnyrch hwn.

A mortgage of £285,000 payable over 33 years initially on a fixed rate for 5 years at 5.39% and then on our standard variable rate of 7.60% (variable) for the remaining 28 years would require 60 monthly payments of £1,541.45 and 336 monthly payments of £1,921.68. The total amount payable would be £738,244.48 made up of the loan amount plus interest (£453,244.48), a product fee (£0.00), valuation fee (£0.00), telegraphic transfer fee (£8.00) and discharge fee (£65.00). The overall cost for comparison is 7.0% APRC representative.

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gwobrau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.