CGI Image of development

17 October 2022

Prisiau tai yng Nghymru yn cyrraedd uchafbwynt newydd wrth i bwysau economaidd gynyddu

Mae pris tŷ cyfartalog yng Nghymru wedi cyrraedd dros £245,000 am y tro cyntaf wrth i'r wlad barhau i weld y cynnydd mwyaf erioed ym mhrisiau tai yn nhrydydd chwarter 2022.

Mae'r ffigurau sydd wedi'u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru  Cymdeithas Adeiladu Principality  ar gyfer Ch3 2022 (Gorffennaf-Medi) yn dangos y cynnydd a'r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Mae'r pris tŷ cyfartalog newydd yng Nghymru sef £245,893 yn dangos cynnydd blynyddol o 12.4%, a chynnydd chwarterol o 2.2%.  Mae prisiau eiddo hefyd wedi cynyddu ym mhob un o'r 22 o ardaloedd awdurdod lleol o'i gymharu â'r un adeg y llynedd, ac mae 16 o’r awdurdodau yn nodi cynnydd dau ddigid yn y prisiau blynyddol - uwchben y gyfradd chwyddiant bresennol (9.9%).  

Mae naw awdurdod lleol yn nodi eu bod wedi cofnodi'r cyfartaledd uchaf am yr ail chwarter yn olynol, a sawl un o’r awdurdodau hyn - Blaenau Gwent, Ceredigion, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg - yn adrodd cynnydd mewn prisiau blynyddol o fwy na 15%.

Meddai Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu Cymdeithas Adeiladu Principality: "Mae hi braidd yn  rhyfedd sôn am brisiau tai yng Nghymru yn cyrraedd uchafbwyntiau newydd pan fo cymaint wedi digwydd ar ddiwedd y trydydd chwarter o ran cyllideb fach Llywodraeth y DU a phwysau costau byw parhaus. Roedd lefelau trafodiadau yn parhau i fod yn gymharol gryf dros y trydydd chwarter, wedi’i gynorthwyo yn rhannol gan brynwyr a oedd eisiau cwblhau pryniant eu tŷ gyda'r cytundebau morgais ffafriol yr oedden nhw eisoes wedi'u sicrhau.   

"Gyda chyfraddau llog yn cynyddu’n uwch, sy'n golygu y bydd ad-daliadau ar forgeisi yn dod yn llawer mwy costus bob mis, mae'r farchnad yn wynebu heriau sylweddol yn y dyfodol agos. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu trothwy'r Dreth Trafodiadau Tir o £180,000 i £225,000 mewn ymgais i gefnogi prynwyr tro cyntaf a’r bobl hynny sy'n dymuno symud tŷ, bydd fforddiadwyedd yn dod yn bwysau sylweddol, a allai olygu y bydd y galw am brynu yn lleihau."

Er gwaethaf patrwm cryf parhaus y cynnydd mewn prisiau blynyddol a'r uchafbwyntiau uchaf erioed, mae'r gymhariaeth chwarterol yn fwy cymysg, a dim ond 13 o’r awdurdodau lleol yn nodi cynnydd chwarterol, a nifer ohonynt yn llai nag 1%. 

Mae Mynegai Prisiau Tai Principality yn amcangyfrif bod cymaint â 12,400 o drafodiadau yng Nghymru yn Ch3, 13% yn uwch nag yn Ch2 ac 1% yn is na blwyddyn yn ôl, ond yn gyfartal â lefelau cyfatebol cyn Covid (Ch3 2019). Mae ffigyrau cyfartalog yn dangos bod gwerthiant tai ar wahân wedi cynyddu 11% yn flynyddol, tra bod tai pâr a theras wedi cynyddu 13-14% yn flynyddol. Ar y llaw arall, dim ond cynnydd o 1% o flwyddyn i flwyddyn a adroddir o ran gwerthiant fflatiau.

Aeth Shaun Middleton ymlaen i ddweud: "Rhaid cofio bod costau ynni uwch a chynnydd cyffredinol mewn costau byw yn cynyddu gwariant cyffredinol aelwydydd a bydd yn rhaid ystyried hyn yng nghyfrifiadau benthycwyr morgais wrth asesu gallu pobl i ad-dalu. Bydd hyn yn lleihau'r swm y mae benthycwyr yn gallu ei fenthyca, gan ei gwneud hi'n anoddach fyth i brynwyr tro cyntaf gael morgais a bydd hefyd yn golygu na fydd llawer o bobl yn gallu cael y morgais mwy y mae ei angen arnynt i symud i'w cartref nesaf. Am y rheswm hwn, mae llawer yn rhagweld gostyngiad yn chwyddiant prisiau tai. Fodd bynnag, mae llawer o bethau nad ydym yn eu gwybod ar hyn o bryd. 

"Mae llawer yn dibynnu ar unrhyw ymyriadau posib gan y llywodraeth, yn ogystal, wrth gwrs, â chamau gweithredu Banc Lloegr o ran cynnydd yn y gyfradd yn y dyfodol. Erbyn y pedwerydd adroddiad chwarterol, gobeithio y bydd mwy o eglurder o ran beth yw'r rhagolygon ar gyfer prisiau eiddo."

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/house-price-index

 

Published: 17/10/2022

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig