Image showing a colleague from Principality teaching students

26 April 2022

Principality yn creu cronfa £100,000 i gynorthwyo pobl ifanc yng Nghymru

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi ymrwymo £100,000 i gefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol i helpu pobl ifanc ledled Cymru.

Mae'r gymdeithas adeiladu fwyaf yng Nghymru wedi ffurfio partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru i gyflenwi grantiau o hyd at £5,000 yr un i brosiectau Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol a fydd yn annog pobl ifanc i baratoi sgiliau ar gyfer eu byd gwaith yn y dyfodol, cyllid personol, dod o hyd i waith a byw bywydau mwy cynaliadwy.

Wedi'i sefydlu ym 1999, mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn dyfarnu grantiau o dros £2.6 miliwn bob blwyddyn i elusennau a grwpiau cymunedol i gryfhau cymunedau ledled Cymru.

Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid Principality:

"Mae Principality wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i helpu i addysgu pobl ifanc am gyllid i helpu i'w paratoi ar gyfer y dyfodol ers bron i ddegawd ond dyma ddechrau un o'r mentrau cymdeithasol mwyaf a gynhaliwyd gennym erioed fel busnes.

"Ystyrir bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol a gyda chymorth Sefydliad Cymunedol Cymru rydym eisiau cyrraedd y grwpiau mwyaf agored i niwed i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi i'w gwneud yn fwy cyflogadwy, i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u lles, gwella eu dealltwriaeth ariannol er mwyn gallu cyllidebu i gael dyfodol mwy sicr, a datblygu ymwybyddiaeth amgylcheddol, cymdeithasol a chadwraethol. Yn ein barn ni,  dylai busnesau blaenllaw yng Nghymru fel ni arwain y ffordd i helpu i greu cymdeithas lawer tecach a mwy cydweithredol. Mae'n amhosibl gwneud hyn ar ein pen ein hunain a dyna pam rydym ni’n falch y byddwn yn gallu cydweithio â llawer o grwpiau cymunedol ledled y wlad sy'n gwneud gwaith mor wych i helpu pobl ifanc sydd ei angen fwyaf."

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:

"Rydym yn falch iawn o fod yn partneru gyda Principality, sefydliad sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hangerdd dros gryfhau cymunedau yng Nghymru.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yng Nghymru ers dros 20 mlynedd, gan ddatblygu cefnogaeth ddyngarol i gymunedau a grwpiau ar lawr gwlad. Yn y cyfnod hwnnw, gan weithio gyda rhoddwyr a busnesau unigol, rydym wedi gallu rhoi mwy na £30 miliwn i gymunedau lleol Cymru.

Bydd y gronfa newydd hon yn darparu cymorth y mae mawr ei angen ar grwpiau cymunedol ac elusennau i wneud gwahaniaeth mwy fyth i fywydau ledled Cymru."

Published: 26/04/2022

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig