Wales House Price Index

20 April 2022

Prisiau cyfartalog tai uchaf erioed yng Nghymru yn chwarter cyntaf 2022

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu 3% yn chwarter cyntaf 2022 i’r pris cyfartalog uchaf erioed o £233,361, er gwaethaf y ffaith bod lefelau trafodiadau uchel yn dechrau gostegu.

Mae’r ffigurau wedi’u cyhoeddi o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch1 2022 (Ionawr-Mawrth), sy’n dangos cynnydd a chwymp prisiau tai yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae Cymru yn parhau i weld rhai enghreifftiau o’r cynnydd cryfaf mewn prisiau eiddo ledled y DU, wrth i brisiau tai gynyddu 9.7% yn flynyddol yn ogystal â chynyddu dros y chwarter. Fodd bynnag, amcangyfrifir y bu trafodiadau yn y chwarter cyntaf 4% yn is na blwyddyn yn flaenorol, yr ail chwarter yn olynol o werthiannau is.

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Cyllid Cymdeithas Adeiladu Principality: “Er gwaethaf prif berfformiad cryf, mae’r data sylfaenol yn cefnogi’r farn y gall y farchnad yng Nghymru fod yn dechrau arafu. Gyda phwysau costau byw yn cynyddu a hyder defnyddwyr yn gostwng, mae’n bosibl bod y galw yng Nghymru yn cymedroli.

“Ni ddylid deall o hyn fod y farchnad ar ei ffordd i ddirwasgiad, mae hyn ymhell o fod yn wir, ond mae ymdeimlad yma fod y farchnad yn arafu. Y cwestiwn bellach yw a fydd aelwydydd yn oedi wrth gamu i’r farchnad dai neu brynu tai drutach oherwydd yr amodau ansicr presennol.”

Roedd pum awdurdod lleol – Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful a Sir Benfro – yn adrodd twf prisiau uchel rhwng 13-14% o flwyddyn i flwyddyn, ond adroddodd Sir Fynwy dwf prisiau blynyddol o 18.8% i £378,228. Sir Fynwy hefyd welodd y cynnydd uchaf mewn prisiau chwarterol (14.3%) ac roedd yn un o 14 o awdurdodau lleol i adrodd prisiau tai uchaf newydd ym mis Mawrth.

Mae Sir Ddinbych yn nodedig o fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru i adrodd gostyngiad mewn prisiau tai yn flynyddol, gan ostwng 5.9% i £197,452. Gostyngodd prisiau yn Sir Ddinbych 4.1% dros y chwarter hefyd, patrwm sydd wedi parhau ers sawl chwarter ers ei uchafbwynt ym mis Mehefin 2021.

Mae’r hyn a alwyd yn ‘ras am le’ a ysgogwyd gan y pandemig wedi arafu, gyda gostyngiad sylweddol mewn gwerthiannau tai ar wahân o’u cymharu â blwyddyn yn flaenorol, i lawr o 4,200 i 3,100. Mae nifer y tai pâr a werthwyd yn is na blwyddyn yn ôl hefyd, i lawr 10%, tra bo gwerthiannau fflatiau wedi cynyddu 26% yn sydyn. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/house-price-index 

 

 

Published: 20/04/2022

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig
  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.