24 June 2021
Principality yn adnewyddu’r bartneriaeth â Xplore! i ddysgu sgiliau arian hanfodol i fwy o blant
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi adnewyddu ei phartneriaeth â’r ganolfan darganfod gwyddoniaeth Xplore! i ddod ag addysg ariannol i fwy o blant ar draws gogledd Cymru a rhanbarthau cyfagos.
Bydd y bartneriaeth yn gweld Xplore! a chymdeithas adeiladu fwyaf Cymru yn ymuno i ddod â gweithdy addysg ariannol rhyngweithiol i 1,500 o blant yng ngogledd Cymru, Caer ac Amwythig eleni. Bydd y gweithdai'n addysgu sgiliau ariannol allweddol megis adnabod arian, costio a dysgu sut i gynilo.
Mae'r adnewyddu yn dilyn llwyddiant rhaglen gynilo Principality ar gyfer ysgolion a lansiwyd yn hydref 2019, a welodd dros 400 o blant 5-7 oed yn elwa ar wersi addysg ariannol amhrisiadwy yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y Gymdeithas a Xplore! yn darparu’r gweithdai yn unol â chanllawiau'r llywodraeth, gan ddod â'r gweithdai i ystafelloedd dosbarth pan gânt eu caniatáu.
Dywedodd David Critcher, Rheolwr Rhanbarthol, Cymdeithas Adeiladu Principality:
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan blant ledled Cymru fynediad at addysg ariannol, felly rydym wrth ein bodd ein bod yn parhau â'n partneriaeth â Xplore!. Bydd cyrraedd mwy o blant ifanc yn parhau i gau'r bylchau mewn llythrennedd ariannol ledled gogledd Cymru a'r rhanbarthau cyfagos, sy'n bwysig iawn i ni fel cymdeithas adeiladu. Mae'r gweithdy pwrpasol a gyflwynir mewn partneriaeth â Xplore! yn rhoi sgiliau rhifedd a rheoli arian hanfodol i blant, gan baratoi plant i ffynnu yn eu bywydau i’r dyfodol."
Dywedodd Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Xplore!:
"Rydym yn llawn cyffro oherwydd bod Principality yn parhau â'i phartneriaeth â Xplore! am flwyddyn arall. Cafodd y gweithdy ysgol rhyngweithiol, llawn hwyl, ar gynilo ei groesawu gan y plant ac mae ei gyflwyno ar draws y rhanbarth yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o blant yn elwa. Mae'r gefnogaeth a ddangoswyd gan Principality a'i staff cangen yn anhygoel, nid yn unig o ran y cyllid i alluogi mynediad am ddim i'r gweithdai hyn, ond hefyd drwy eu hyblygrwydd a'u cefnogaeth i elusen addysgol leol drwy gydol y pandemig."
Gall ysgolion sy'n dymuno cofrestru eu diddordeb ar gyfer y gweithdy cynilo am ddim, ar gyfer y tymor newydd ym mis Medi gysylltu â bookings@xplorescience.co.uk.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.principality.co.uk/ourcommunity a https://www.xplorescience.co.uk/.
Published: 24/06/2021
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.