Image showing a woman moving into a new home

15 November 2021

Prisiau tai yng Nghymru yn codi i uchafbwynt newydd

- Perfformiad cryfaf ers canol y 2000au wrth i ganran chwyddiant prisiau tai blynyddol gynyddu i ffigwr dwbl 

Cyrhaeddodd prisiau cartrefi yng Nghymru uchafbwynt newydd o £218,783 yn nhrydydd chwarter 2021 (Gorffennaf-Medi), 11.5% yn uwch na’r un adeg y flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau o Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch3 2021, sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. 

Mae hyn yn nodi’r trydydd chwarter yn olynol y mae chwyddiant prisiau tai blynyddol wedi bod mewn canrannau ffigwr dwbl – y perfformiad cryfaf ers canol y 2000au.

Gwelodd pob awdurdod lleol yng Nghymru gynnydd ym mhrisiau tai Ch3 wrth eu cymharu’n flynyddol, gyda chynnydd o fwy na 15% mewn naw o’r 22 ardal awdurdod lleol. Yn benodol, adroddodd Blaenau Gwent (£128,454) a Wrecsam (£214,283) gynnydd o 22.5% ac 20.8% yn y drefn honno. Cofnododd gyfanswm o 12 ardal gan gynnwys dinasoedd Caerdydd (£289,596), Casnewydd (£239,307) ac Abertawe (£208,672) gynnydd canran ffigwr dwbl.

Dywedodd Tom Denman, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality: "Mae marchnad dai Cymru, fel rheini mewn rhannau eraill o’r DU, wedi perfformio’n well na’r disgwyl eleni. Mae’r galw wedi bod yn uwch ac yn fwy cadarn na’r disgwyl, ac er bod cefnogaeth i’r farchnad ar ffurf gwyliau’r Dreth Trafodiadau Tir a thaliadau ffyrlo wedi dod i ben erbyn hyn, mae maint y galw wedi bod gymaint, fel bod y farchnad, gyda chymorth cynilion wedi’u cronni yn y cyfnod clo a chyfraddau morgais isel parhaus, wedi parhau i ffynnu.

“Wrth fynd i mewn i’r pedwerydd chwarter ac i 2022, gallwn weld bod disgwyliadau prisiau wedi gostwng ac mae cyflymder y twf wedi arafu. Yn amlwg, disgwylir yn awr y bydd cyfraddau llog yn codi yn y tymor agos, er ar raddfa fach, ac y bydd hyn yn dal i gael effaith ar lawer o aelwydydd ac yn enwedig y rhai sydd wrthi’n prynu a symud cartrefi."

Yn ystod Ch3, adroddodd mwy na hanner yr awdurdodau lleol (12) ostyngiad mewn prisiau, i fyny o dri yn Ch1 a 10 yn Ch2, ac yn arwydd o’r newidiadau sydd nawr i’w gweld yn llifo drwy’r farchnad. 

Mae’r data trafodiadau ar gyfer Ch3 yn darparu’r dystiolaeth gryfaf bod y galw’n parhau, i fyny gan 52% yn Ch3 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae Principality wedi amcangyfrif bod tua 12,300 o drafodion yn Ch3, ar yr un lefel â gweithgarwch yn y tri chwarter blaenorol, ac yn dipyn uwch na chyfartaledd 2019 o 11,000-11,500 o werthiannau chwarterol. Mae gweithgarwch gwerthu wedi bod yn anwadal yn ystod y chwarteri diwethaf o ganlyniad i’r rhyddhad dros dro i’r Dreth Trafodiadau Tir, ond hefyd oherwydd y pandemig a’r cyfyngiadau symud. 

Mae cyflymder y twf wedi dechrau arafu yn raddol. Mae prisiau’n parhau i symud i fyny, ond mae cyfradd y cynnydd wedi arafu yn y trydydd chwarter hwn, er bod hwn yn un o’r cyfnodau gwerthu prysuraf.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/house-price-index

Published: 15/11/2021

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig