Argyfwng Wcráin

Ukraine flag in the shape of a heart Mae'r digwyddiadau presennol yn Wcráin wedi ein synnu a'n tristáu ni i gyd ac, fel sefydliad, mae ein meddyliau gyda'r miliynau o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y gwrthdaro ofnadwy hwn.

Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, cawsom ein sefydlu ym 1860 gan grŵp o bobl a oedd am helpu ei gilydd i gael cartref i'w teuluoedd fyw ynddo. 162 mlynedd yn ddiweddarach rydym yn dal i fod yn angerddol yn ein dymuniad i gefnogi pobl i fod â lle diogel i fyw ynddo y gallant ei alw'n gartref.

Mae ein busnes yn sefyll gyda'r miliynau o deuluoedd y mae eu bywydau wedi eu heffeithio gan y gwrthdaro a'r argyfwng dyngarol yn Wcráin.
Er mwyn cefnogi hyn, mae’r Principality wedi rhoi £20,000 i Apêl Ddyngarol Wcráin y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC), sy'n mynd yn uniongyrchol i achosion dyngarol yn Wcráin, gan helpu i ddarparu bwyd, dŵr, meddyginiaeth, dillad cynnes a lloches i'r miliynau o bobl y mae eu bywydau wedi’u heffeithio.

Er mwyn ei gwneud yn hawdd i'n haelodau gyfrannu yn ein canghennau, rydym hefyd wedi sefydlu cyfrif codi arian gyda'r holl arian yn mynd yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC), ac mae ein cydweithwyr gwych yn trefnu gweithgareddau codi arian yn eu canghennau i gefnogi teuluoedd Wcráin.

Gwybodaeth bwysig i aelodau gyda morgais

Fel rhan o'n hymrwymiad i gefnogi ein cymunedau, gall unrhyw gwsmeriaid morgeisi y Principality sy'n ystyried agor eu cartrefi i ffoaduriaid Wcráin fel rhan o’r cynllun llywodraeth ‘Cartrefi i Wcráin’, fod yn dawel eu meddyliau y byddwn yn gwneud y broses hon mor syml â phosibl ac na fyddwn yn gosod unrhyw rwystrau diangen yn eich ffordd.

Y cyfan yr ydym yn ei ofyn gan ein cwsmeriaid yw bod y rhai sy'n cael eu derbyn fel noddwyr ffoaduriaid yn rhoi gwybod i ni, a'ch darparwr yswiriant, pryd y caiff hyn ei gymeradwyo. I wneud pethau'n fwy syml i'r rhai sy'n cymryd rhan, gallwch e-bostio ein Blwch Post Gweinyddu Morgeisi i gadarnhau eich cyfranogiad a bydd un o'n tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ymateb i chi'n uniongyrchol trwy e-bost i gadarnhau ei dderbyn.

Mae’r canllawiau diweddaraf sy'n cael eu rhannu gan Lywodraeth y DU, trwy wefan y Cynllun Cartrefi i Wcráin, hefyd yn argymell bod noddwyr yn gosod disgwyliadau clir gyda'r ffoaduriaid y maent yn eu croesawu i'w cartrefi. Un ffordd o wneud hyn, y byddem yn ei argymell, yw drwy 'gytundeb enghreifftiol' sy'n ymdrin â materion fel rhannu defnydd o rannau cyffredin o'r tŷ, neu gyfyngiadau ar ysmygu, defnyddio alcohol ac unrhyw gyfyngiadau sŵn angenrheidiol.

Er hwylustod, gallwch gael mynediad at gytundebau enghreifftiol Llywodraeth y DU isod:

  • Os ydy'ch gwesteion yn rhannu llety gyda chi, er enghraifft yn defnyddio ystafelloedd gwely sbâr ac yn rhannu cegin gyda chi, yna’r Cytundeb Trwydded Eithriedig (ODT, 31.6 KB) yw'r mwyaf addas.
  • Os ydy'ch gwesteion yn byw mewn llety hunangynhwysol (fel llety gwyliau) yna’r Cytundeb Tenantiaeth Eithriedig (ODT, 35.9 KB) yw'r mwyaf addas.

Yn ogystal â hyn, mae hefyd yn bwysig bod yr holl gwsmeriaid sydd am ddarparu'r cymorth hanfodol hwn trwy'r Cynllun Cartrefi i Wcráin yn ystyried eu sefyllfa ariannol yn llawn ac yn hyderus y byddant yn gallu gwneud taliadau morgais yn llawn a fforddio biliau cartref yn ystod y cyfnod hwn.

Mae rhagor o fanylion am yr ystyriaethau hanfodol i'w gwneud cyn cynnig eich cefnogaeth i'r Cynllun Cartrefi i Wcráin i'w gweld ar dudalen we Cwestiynau Cyffredin  Cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU.

 

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig