Skip to content

Cymorth a Chefnogaeth

Cymorth a Chefnogaeth

Cymorth cynilo

Ni allwch drosglwyddo lwfans ISA un flwyddyn i’r flwyddyn nesaf. Os nad ydych yn defnyddio eich lwfans ISA di-dreth llawn erbyn 5 Ebrill, byddwch yn ei golli pan ddaw’r flwyddyn dreth i ben.

Nid oes terfyn ar faint o ISAs y gallwch eu cael. Gallwch gadw’ch ISA i fynd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, felly mae’n bosibl bod â llawer o ISAs. 

 

Gellir rhannu'ch lwfans ISA blynyddol ar draws y pedwar math gwahanol o ISA: ISAs arian parod, ISAs stociau a chyfranddaliadau, ISAs oes, ac ISAs cyllid arloesol. Yn Principality, dim ond i un ISA arian parod y cewch dalu i mewn iddo bob blwyddyn dreth.

Gallwch dalu arian i mewn i'ch cyfrif cynilo mewn gwahanol ffyrdd. Ar-lein, mewn cangen, neu drwy anfon siec atom.

  • Os ydych chi'n talu arian i mewn i gyfrif newydd am y tro cyntaf, bydd angen i chi roi'r isafswm blaendal yn y cyfrif o fewn o leiaf pum diwrnod busnes i'w agor.
  • Os ydych yn trosglwyddo ISA, darllenwch ein gwybodaeth am drosglwyddiadau ISA

1. Symud arian ar-lein
Defnyddiwch y manylion hyn i drosglwyddo arian o gyfrif arall:
 
Cod didoli: 20-18-23 
Rhif y Cyfrif: 90653535 
Cyfeirnod: Defnyddiwch rif eich cyfrif cynilo Principality
Talai: Eich enw
 
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

  • Rydym yn defnyddio Barclays fel ein darparwr banc. Peidiwch â phoeni os bydd eich banc yn nodi eich bod yn symud arian i gyfrif Barclays.
  • Dylai'r arian ddangos yn eich cyfrif Principality o fewn dwy awr.
  • Os ydych yn bwriadu cynilo'n rheolaidd gallwch drefnu rheol sefydlog ar ôl eich taliad cyntaf. Rhaid i hwn fod o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU yn eich enw chi.
  • Os ydych yn bwriadu trosglwyddo arian i'ch cyfrif ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ei agor, efallai na fydd eich banc yn cydnabod eich enw fel un sy'n cyfateb i'r cyfrif ar unwaith. Bydd y trosglwyddiad yn dal i weithio, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau bod y cyfeirnod yn gywir.

2. Mynd i gangen

Gallwch fynd i unrhyw un o'n canghennau i dalu arian i mewn i’ch cyfrif cynilo (ac eithrio os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig). Bydd adneuon arian parod yn dangos yn eich cyfrif ar unwaith. Os ydych yn talu siec i mewn bydd yn cymryd hyd at 3 diwrnod busnes i’r arian ddangos yn eich cyfrif.

3. Anfon siec atom
Ysgrifennwch eich siec i ‘Cymdeithas Adeiladu Principality’ gyda’ch enw a rhif y cyfrif. Yna anfonwch hi at y Tîm Cynlio yn: Principality Building Society, PO Box 89, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.

 

Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein, os ydych wedi creu proffil ar-lein. Dewiswch ‘Gweld manylion personol’ o’r ddewislen ‘Eich manylion’ a dilynwch y cyfarwyddiadau. Os ydych wedi bod yn gwsmer gyda Principality am lai na 3 mis, efallai y bydd angen i chi anfon un math o ddull adnabod eich cyfeiriad atom hefyd.

 

Os nad oes gennych broffil ar-lein, gallwch fynd i gangen neu ein ffonio ni ar 0330 333 4000.  

 

I ddiweddaru eich enw, gallwch naill ai ysgrifennu atom gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod neu  fynd i'ch cangen neu asiantaeth leol. Bydd angen i ni weld y ddogfen newid enw wreiddiol. Gallai fod eich:

  • Tystysgrif Priodas 
  • Archddyfarniad Absoliwt
  • Gweithred Newid Enw (Gweithred Unrhan) 

Os byddwch yn dod i mewn i gangen, dewch â'ch paslyfr hefyd.

 

Ysgrifennwch atom
Cymdeithas Adeiladu Principality 


Adeiladau Principality

Rhif blwch swyddfa'r post 89 


Heol y Frenhines

Caerdydd

CF10 1UA 

Os yw eich cyfrif yn caniatáu mwy nag un deiliad cyfrif, gallwch ychwanegu deiliad cyfrif ychwanegol drwy wneud y canlynol:

  • Cwblhau ffurflen gais cynilo a'i phostio i Cymdeithas Adeiladu Principality, Rhif blwch swyddfa'r post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA. 
  • Mynd i un o'n canghennau. Dylai pob deiliad cyfrif fod yn bresennol pan fyddwch yn mynd. Ond os nad yw hyn yn bosibl, rhowch wybod i’r gangen.

Os bydd angen unrhyw help arnoch gallwch anfon neges ddiogel atom drwy fewngofnodi i'ch proffil ar-lein, neu ein ffonio ni. Dyma'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i allu cysylltu â ni am gyngor.  


Os yw deiliad y cyfrif ychwanegol eisoes yn aelod gyda ni, ni fydd angen i ni ofyn am unrhyw ddull adnabod. Ond os yw'n gwsmer newydd, bydd angen i ni gadarnhau pwy ydyw. Gallwch ddarganfod pa ddogfennau rydym yn eu derbyn fel prawf hunaniaeth ar dudalen 9 a 10 y ddogfen hon ynglŷn â sut rydym yn defnyddio Eich gwybodaeth.  

 

A yw fy nghyfrif yn caniatáu mwy nag un deiliad cyfrif?
Gall rhai o'n cyfrifon ond bod ag un deiliad cyfrif. Felly ni fyddwch yn gallu ychwanegu deiliad cyfrif ychwanegol at:
•    ISA.
•    Cyfrif cynilo ar-lein yn unig.
•    Cyfrif plant. Dim ond yn enw un plentyn y gellir agor cyfrifon plant. Fodd bynnag, gellir ychwanegu mwy nag un gwarcheidwad neu ymddiriedolwr.

 

Yn dibynnu ar yr ISA y byddwch yn ei agor, efallai y bydd terfyn ar faint o arian y gallwch ei godi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau telerau'r cyfrif i ddeall a oes gan eich ISA unrhyw derfynau codi arian. Er enghraifft, ni allwch godi arian o ISA cyfradd sefydlog. Gallwch gau’r ISA neu drosglwyddo’r balans i ISA gwahanol; ond efallai y byddwch yn colli llog.

 
Gallai codi arian o ISA olygu y byddwch yn colli llog y gallech fod wedi’i ennill pe bai’ch arian yn y cyfrif. Gall hefyd effeithio ar eich buddion treth. 
 

Gydag ISA hyblyg gallwch godi arian a rhoi arian yn ôl i mewn cyn diwedd yr un flwyddyn dreth, heb iddo effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol.

Rhowch wybod i ni os yw eich paslyfr ar goll neu wedi'i ddwyn drwy lenwi'r datganiad paslyfr ar goll neu'r datganiad paslyfr wedi'i ddwyn. Dewch â'ch ffurflen wedi ei llenwi i'ch cangen leol neu cewch ei phostio i:  
Yr Adran Gynilion, Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA.  

 

Os ydych yn poeni eich bod wedi dioddef twyll, neu yn pryderu am unrhyw drafodiadau ar eich cyfrif ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0330 333 4000. 

Os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig gyda Principality, byddwn yn gofyn i chi sefydlu cyfrif cysylltiedig. Mae cyfrif cysylltiedig yn gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu arall yr ydym wedi cadarnhau ei fod yn perthyn i chi.

Mae hyn yn ein helpu i’ch diogelu rhag twyll pan fyddwch yn trosglwyddo arian o’ch cyfrif cynilo gyda Principality yn electronig.

 

Gallwch newid eich cyfrif cysylltiedig drwy wneud y canlynol: 

  • Mewngofnodi i'ch proffil ar-lein ac anfon neges ddiogel
  • Ein ffonio ni ar 0330 333 4000 

Ym mhob blwyddyn dreth (o Ebrill 6 tan Ebrill 5 y flwyddyn nesaf) mae gennych lwfans ISA di-dreth blynyddol. Mae di-dreth yn golygu na fydd y llog y byddwch yn ei ennill yn agored i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae'r driniaeth o ran treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.  
 
Y lwfans ISA ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £20,000. Caiff y swm ei adolygu gan y Llywodraeth bob blwyddyn a gallai newid yn y dyfodol.  
 
Gellir rhannu eich lwfans ISA blynyddol rhwng pedwar gwahanol fath o ISA: ISA arian parod, ISA stociau a chyfranddaliadau, ISA oes, ac ISA cyllid arloesol.  Yn Principality, dim ond i un ISA arian parod y cewch dalu i mewn iddo ym mhob blwyddyn dreth.  
 
Mae gan wahanol gyfrifon ISA arian parod delerau gwahanol. Mae rhai yn caniatâu i chi dalu swm llawn eich lwfans ISA arian parod i mewn fel cyfandaliad. Gydag eraill, cewch dalu symiau llai i mewn dros amser. 

Mae Cadarnhau Talai yn wasanaeth sy'n gwneud yn siŵr bod yr enw a nodir ar y taliad yr un fath â'r enw ar y cyfrif rydych yn talu i mewn iddo.  

Ni chewch optio allan o wiriadau ar gyfer taliadau o'ch cyfrif Principality. Rydym yn eich annog yn gryf i beidio ag optio allan o wiriadau Cadarnhau Talai ar gyfer taliadau i mewn i'ch cyfrif Principality, ond os ydych yn dymuno gwneud hynny, siaradwch â chydweithwr mewn cangen, ffoniwch ni ar 0330 333 4000 neu anfonwch neges ddiogel atom drwy Eich Cyfrif.  

Cewch optio yn ôl i fewn ar unrhyw adeg.

Cymorth morgeisi

Mae'n ddrwg gennym glywed am eich newyddion trist

Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd. Pan fydd rhywun yn marw, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i reoli'r arian. Dyma sut y byddwn yn eich cefnogi pan fydd rhywun yn marw.  

Mae tair ffordd wahanol o ad-dalu eich morgais. 
 

  • Ad-daliadau: Bydd rhan o'ch taliad misol yn talu rhan o'r cyfalaf (y swm y gwnaethoch chi ei fenthyca) a bydd rhan o'ch taliad misol yn llog (y llog misol ar y swm y gwnaethoch ei fenthyca). Os bydd yr holl daliadau yn cael eu gwneud ar amser, bydd y benthyciad wedi ei ad-dalu ar ddiwedd cyfnod y morgais. 
     
  • Llog yn unig: Bydd eich taliadau misol yn cyfrannu tuag at dalu'r llog misol yn unig ar y swm y gwnaethoch ei fenthyca. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu dim o'r ‘cyfalaf’ (y swm y gwnaethoch ei fenthyca) yn ystod cyfnod eich morgais, felly ar ddiwedd cyfnod y morgais bydd y swm y gwnaethoch ei fenthyca i ddechrau yn dal i fod yn ddyledus yn llawn. Fel benthyciwr, rydych yn cymryd y cyfrifoldeb llawn am sicrhau bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y cyfnod. Gwneir hyn fel arfer drwy fod â rhyw fath o fuddsoddiad a fydd, pan fydd yn aeddfedu, yn talu'r swm gwreiddiol y gwnaethoch chi ei fenthyca. 
     
  • Rhannol ad-daliadau/llog yn unig: Cymysgedd o'r ddau fath uchod o daliadau morgais, bydd rhan o'ch morgais yn ad-daliadau a bydd rhan o'ch morgais yn llog yn unig. 

Tymor eich morgais yw nifer y blynyddoedd y gwnaethoch gytuno i dalu’r benthyciad a fenthycwyd gennych pan wnaethoch gymryd eich morgais gyda ni am y tro cyntaf.
 
Gallwch ddewis gwneud eich tymor yn hirach neu'n fyrrach. Bydd hyn yn cael effaith ar eich taliadau morgais misol. Bydd unrhyw gytundeb addasu tymor yn amodol ar ein meini prawf benthyca a fforddiadwyedd.
 
Cysylltwch â ni i drafod unrhyw newidiadau i dymor eich morgais.

Cewch ddewis talu eich morgais yn llawn. Byddwn yn codi Ffi Gadael Morgais yn Gynnar safonol ac mae'n bosibl y bydd angen i chi dalu Tâl Ad-dalu'n Gynnar hefyd.  
 
Cewch ad-dalu hyd at 10% ychwanegol o'r balan sy'n weddill ar eich morgais bob blwyddyn. Ond os ydych yng nghyfnod ad-daliadau cynnar eich cytundeb morgais, bydd unrhyw daliadau a wnewch uwchlaw'r terfyn blynyddol o 10% yn destun Tâl Ad-dalu'n Gynnar. Mae gan bob cynnyrch morgais ei delerau a'i amodau ei hun felly i weld a fyddwch yn destun Tâl Ad-dalu'n Gynnar, cyfeiriwch at y rhan ‘Ad-dalu'n Gynnar’ yn eich cynnig morgais. 
 
Mae rhagor o wybodaeth yn ein tariff o daliadau

Cewch gadw eich cytundeb morgais presennol a'i drosglwyddo i'ch eiddo newydd pan fyddwch yn symud. Gelwir hyn yn trosglwyddo, a gellir trosglwyddo y rhan fwyaf o'n cytundebau morgais.  

I drosglwyddo eich morgais i eiddo newydd, bydd angen trefnu apwyntiad gydag un o'n cynghorwyr i fynd trwy proses gais newydd. Gallwch: 

Ni fyddwch yn gymwys i drosglwyddo eich morgais presennol i eiddo newydd: 

  • Os yw'r eiddo newydd y tu allan i Gymru a Lloegr 
  • Os nad ydych yn bodloni ein meini prawf benthyca pan fyddwch yn gwneud cais i drosglwyddo eich morgais 
  • Os nad trosglwyddo eich morgais yw'r dewis gorau sydd ar gael i chi 
  • Os nad yw'r eiddo newydd yn bodloni ein meini prawf benthyca 
  • Os ydych eisiau trosglwyddo'r morgais i eiddo yr ydych eisoes yn berchen arno 
  • Os ydych yn dewis peidio â throsglwyddo eich morgais ar ei delerau presennol 
  • Os oes gennych forgais hyblyg (gan nad ydym yn cynnig y cynhyrchion hyn mwyach) 

Ni fydd unrhyw ysgogiadau a gawsoch yn rhan o'ch cynnig morgais gwreiddiol, er enghraifft prisiad am ddim, arian parod yn ôl neu gyngor cyfreithiol am ddim yn berthnasol pan fyddwch yn trosglwyddo i'ch cartref newydd. Os oes gennych forgais hyblyg gallwch ffonio 0330 333 4002 i drafod eich opsiynau. 

Gallwch ofyn am eich balans terfynol mewn un o ddwy ffordd:

Os ydych eisiau benthyca ychydig yn fwy ar ben eich morgais, gallwn ni helpu i wneud i hynny ddigwydd. 
 
Bydd angen i chi drafod hyn gyda ni a mynd trwy broses ymgeisio. Darllenwch am fenthyca mwy.  
 

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod:

  • Bydd angen i chi aros 3 mis ar ôl cymryd morgais gyda ni cyn gwneud cais i fenthyca mwy. 
  • Yr isafswm cyfnod yw 2 flynedd a'r uchafswm cyfnod yw 40 mlynedd (yn dibynnu ar ein meini prawf benthyca). 
  • Ni chaiff y swm rydych eisiau ei fenthyca a'r swm sy'n ddyledus ar eich morgais presennol fod yn fwy na 90% LTV ar gyfer eiddo preswyl neu 75% LTV ar gyfer eiddo prynu i osod neu lety gwyliau. 
  • Mae hyd yr amser mae'n ei gymryd i brosesu eich cais yn gallu dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Yn gyffredinol, gall gymryd 4 – 6 wythnos i'r arian ychwanegol gyrraedd eich cyfrif cyfredol.   

Os hoffech osod eich eiddo bydd angen morgais Prynu i Osod arnoch fel arfer. Os oes gennych forgais preswyl cewch osod eich eiddo am gyfnod byr – hyd at 12 mis fel arfer. 

Ffoniwch ni ar 0330 333 4030 i siarad ag un o'n cynghorwyr morgeisi. 

 

Yr hyn fydd ei angen arnoch 

1. Cytundeb tenantiaeth 

Contract yw hwn rhyngoch chi a'ch tenantiaid. Bydd yn cynnwys telerau ac amodau'r denantiaeth. Bydd angen i'r denantiaeth gwmpasu o leiaf 6 mis. 

Yng Nghymru a Lloegr, bydd angen Cytundeb Tenantiaeth Fyrddaliadol derbyniol arnoch.   

 

2. Tystiolaeth o ad-daliadau morgais 

Bydd angen eich bod wedi gwneud o leiaf 6 taliad misol ar eich morgais preswyl. Ceir rhai eithriadau, er hyn, nid yw'n berthnasol os ydych yn aelod o Luoedd Arfog Prydain neu'n Glerigwr. 

 

Yn dal i ystyried pethau? Darllenwch fwy am osod eich eiddo.  

Mae cost arolygon a ffioedd prisio yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo. Lawrlwythwch ein ffioedd Arolygon a Phrisiadau i weld dadansoddiad o'n ffioedd. 

Rydym yn defnyddio system ddilysu electronig i gadarnhau pwy ydych chi. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyna'r cyfan sydd angen i ni ei wneud. Fodd bynnag, weithiau efallai y bydd angen i ni ofyn am brawf adnabod ychwanegol. Ac efallai na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â chais am forgais oni fyddwch yn gallu darparu prawf addas o’ch enw a’ch cyfeiriad.

Cymorth ychwanegol

Os ydych yn ei chael hi'n anodd clywed, gallwn ni helpu.  Mae gennym ddolenni clyw ym mhob un o’n canghennau, a ffyrdd eraill o helpu:

  • Gallwn ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid testun: Mae hyn yn trosi testun yn lleferydd, a lleferydd yn destun.
  • Gallwn siarad yn arafach ac yn gliriach: I'ch helpu os ydych chi'n darllen gwefusau.
  • Gallwn siarad â rhywun arall am eich cyfrif: Gallwch enwebu rhywun i siarad â ni am eich cyfrif ar eich rhan.
  • Gallwn wneud apwyntiadau'n hirach: Gallwn addasu hyd eich apwyntiad, fel bod mwy o amser i siarad.
  • Gallwn ddarllen gwybodaeth yn uchel: Byddwn yn darllen ffurflenni a dogfennau i chi, os gofynnwch i ni wneud hynny. 

Dywedwch wrth y staff yn eich cangen leol am eich anghenion neu cysylltwch â ni i roi gwybod i ni.  
 
Gallwch hefyd droi at sefydliadau fel y rhain am gymorth a chefnogaeth:

  • RNID: Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar - 0808 808 0123
  • BDA: Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain 

Gall poeni am eich sefyllfa ariannol eich gadael yn teimlo'n unig. Ond nid ydych ar eich pen eich hun. Mae yna nifer o sefydliadau y gallwch geisio cyngor annibynnol ganddynt am ddim.

Os bydd angen cymorth brys arnoch, ffoniwch y Samariaid ar 116 123.  

 

Sefydliadau defnyddiol eraill:

Gall cam-drin ariannol ddigwydd ar sawl ffurf. A gall ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo'ch oedran, rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth, crefydd neu anabledd.

Gall cam-drin ariannol gynnwys:

  • Eich atal rhag gweithio neu fynd i'ch swydd.
  • Gwneud i chi drosglwyddo rheolaeth dros eich cyfrifon banc.
  • Gwneud i chi egluro ar beth rydych wedi gwario eich arian.
  • Eich atal rhag prynu hanfodion.
  • Cymryd cardiau credyd neu fenthyciadau yn eich enw chi.
  • Gwario cyllideb eich cartref ar bethau eraill heb ddweud wrthych.
  • Codi arian o'ch cyfrif heb yn wybod i chi a heb eich caniatâd.

Yn gyntaf, bydd angen i chi gofrestru'r farwolaeth gyda ni.  

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth. Yna, os ydych yn Gynrychiolydd Personol, gallwch wneud cais i godi arian o'r cyfrif i dalu am yr angladd, Treth Etifeddiant, profiant, neu ffioedd ardystio cyfreithwyr.

Bydd angen y canlynol arnom: 

  • Un math o brawf adnabod enw.  
  • Un math o brawf adnabod cyfeiriad. 

Gall y rhain fod yn ddogfen wreiddiol neu'n gopi. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom mwyach. 

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth.

Mae Tanysgrifiadau Ychwanegol a Ganiateir (APS) yn caniatáu i chi etifeddu lwfans ISA a adawyd ar ôl gan eich priod neu bartner sifil.

Mae APS yn cyfeirio'n benodol at etifeddu lwfans ISA; nid y cronfeydd yn y cyfrif ISA.

Mae’r lwfans APS ar gael i chi o fewn 3 blynedd i farwolaeth eich priod neu bartner, neu 180 diwrnod ar ôl i’r gwaith o weinyddu’r ystad ddod i ben – pa un bynnag sydd hwyraf. Siaradwch â ni am etifeddu lwfans ISA drwy ffonio 0330 333 4000.  

Beth i'w wneud 

Mae yna ychydig o ffyrdd o gofrestru ar gyfer Atwrneiaeth:

  • Trefnu apwyntiad gyda'ch cangen leol.
  • Postio eich dogfennau i Cymorth Arbenigol i Gwsmeriaid, Cymdeithas Adeiladu Principality, Blwch Swyddfa'r Post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA. 
  • E-bostio eich dogfennau i identification@principality.co.uk.

Pa ddogfennau fydd eu hangen arnoch: 

Mae angen i'r rhoddwr ddarparu:

  • Ei ddogfennau Atwrneiaeth. 
  • Ei baslyfr (os yw'n defnyddio un). 

Mae angen i'r atwrnai ddarparu:

Gallwch ofyn am gopi caled o’r ffurflen hon drwy ffonio 0330 333 4000 neu e-bostio enquiries@principality.co.uk. Os yw cyfreithiwr yn gweithredu fel atwrnai, bydd angen iddo anfon llythyr atom yn cadarnhau hyn ar ei bapur pennawd, tystysgrif ymarfer, neu un dull o adnabod enw.

 

Dogfennau adnabod y gallwn eu derbyn

Dyma rai enghreifftiau cyffredin o ddogfennau a ddefnyddir:

I gadarnhau enw

  • Pasbort cyfredol y DU wedi'i lofnodi. 
  • Trwydded yrru lawn gyfredol y DU neu drwydded bapur wedi'i llofnodi. 
  • Cerdyn Adnabod aelod-wladwriaeth yr UE/Pasbort yr UE.
  • Pasbort nad yw o’r UE a Fisa dilys. 

I gadarnhau cyfeiriad

  • Bil nwy a thrydan diweddar (llai na 3 mis yn ôl)
  • Bil dŵr diweddar (llai na 12 mis yn ôl).
  • Bil Treth yr Awdurdod Lleol (llai na 12 mis yn ôl)

Rydym hefyd yn derbyn mathau eraill o brawf adnabod. I gael rhestr lawn o ddogfennau adnabod y gallwn eu derbyn, lawrlwythwch ein taflen sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth

 

Noder y gall yr atwrnai neu'r cwsmer agor cyfrif ar-lein; fodd bynnag, ar ôl cofrestru gydag Atwrneiaeth, bydd mynediad ar-lein yn cael ei ddileu.

 

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw cofrestru Atwrneiaeth.

Os ydych yn meddwl bod rhywun rydych yn ei adnabod yn dioddef cam-drin ariannol, efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth arnoch i ofyn am help. Gallwch ddangos taflen 'It’s your money’ UK Finance iddo a'i annog i gysylltu â ni, ei fanc neu gymdeithas adeiladu, neu un o'r sefydliadau a restrir ar gefn y daflen.

Mae'n ddrwg gennym glywed am eich newyddion trist

Rydym ni yma i helpu os ydych chi'n profi profedigaeth. Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd. Pan fydd rhywun yn marw, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i reoli'r arian. Dyma sut y byddwn yn eich cefnogi pan fydd rhywun yn marw

Pan fydd angen i chi lofnodi ffurflenni, gallwn ddangos i chi ble mae angen y llofnod.

Os na allwch lofnodi neu gynhyrchu llofnod cyson, mae gennym ffyrdd eraill y gallwch brofi pwy ydych.

I ddileu Atwrneiaeth, bydd angen i chi ddilyn y camau ar wefan y llywodraeth. Unwaith y bydd Atwrneiaeth wedi’i dileu, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru cyfrif y rhoddwr.

Cymorth â'ch proffil ar-lein

Mae cyfrif cysylltiedig yn gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu arall yr ydym wedi cadarnhau ei fod yn perthyn i chi. Mae hyn yn ein helpu i’ch diogelu rhag twyll pan fyddwch yn trosglwyddo arian allan o’ch cyfrif cynilo gyda Principality yn electronig.

Os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig gyda Principality, gallwch newid eich cyfrif cysylltiedig drwy:

 

Mae rheoli eich cynilion ar-lein yn hawdd.  Bydd angen i chi greu proffil ar-lein a'i alluogi.

Cam 1: Creu eich proffil ar-lein

Byddwn yn gofyn i chi am: eich rhif cyfrif Principality, eich rhif ffôn symudol, a’ch cyfeiriad e-bost. Am resymau diogelwch, rhaid i'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn symudol fod yn rhai yr ydych chi yn unig yn eu defnyddio. Os ydych yn gwsmer newydd sy’n agor cyfrif ar-lein am y tro cyntaf, byddwch yn gwneud y cam hwn fel rhan o’ch cais.

  • Dechreuwch arni ar-lein drwy lenwi ychydig o fanylion personol a gosod eich cyfrinair. 
  • Byddwn yn anfon copi o'ch manylion defnyddiwr atoch ar unwaith.
  • Byddwn hefyd yn anfon cod gweithredu atoch yn y post; dylai gyrraedd o fewn 3-5 diwrnod.

Cam 2: Galluogi eich proffil ar-lein

Byddwch yn cael eich cod gweithredu yn y post. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ei ddefnyddio. Dyma beth i'w wneud:

  • Mewngofnodi gan ddefnyddio'ch manylion defnyddiwr a'ch cyfrinair. 
  • Gofynnir i chi nodi cod mynediad, a byddwn yn ei anfon atoch fel neges destun.
  • Ar ôl i chi nodi'ch cod mynediad cliciwch ar 'Nodi Cod Galluogi' ar eich dangosfwrdd.
  • Nodwch y cod gweithredu o'ch llythyr. Bydd eich proffil ar-lein yn cael ei alluogi.

Rydym yn cymryd eich diogelwch ar-lein o ddifrif. Yn union fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol i helpu i’ch cadw’n ddiogel wrth reoli eich arian ar-lein.  Rydym yn helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel mewn ychydig o ffyrdd:

 

Drwy wneud yn siŵr fod gennych gyfrinair cryf. Dylai eich cyfrinair gynnwys 10 nod neu fwy, gan gynnwys prif lythrennau, symbolau a rhifau.

 

Drwy ofyn am rif ffôn symudol a ddefnyddir gennych chi yn unig. Gofynnwn i chi gysylltu rhif ffôn symudol personol â'ch proffil ar-lein fel y gallwn gynnal gwiriad diogelwch bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Dyna pam mae'n bwysig mai eich rhif ffôn symudol chi yn unig y byddwch yn ei ddefnyddio i gofrestru, ac na chaiff ei rannu â neb arall.

 

Drwy ofyn cwestiynau diogelwch. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair bydd angen i chi ateb tri chwestiwn diogelwch i'w ailosod.

 

Drwy anfon cod gweithredu atoch yn y post. Mae hyn yn ein helpu i gadarnhau mai chi sy’n byw yn y cyfeiriad rydych chi wedi’i roi i ni.

Dyma beth i'w wneud os ydych wedi anghofio eich manylion adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair:

Cam 1Gofyn am nodyn atgoffa o'ch manylion adnabod defnyddiwr. Byddwn yn ei anfon mewn neges e-bost ar unwaith. 
Cam 2Ailosod eich cyfrinair. (Bydd angen eich atebion i'r cwestiynau diogelwch y gwnaethoch chi eu gosod pan wnaethoch chi gofrestru eich proffil ar-lein).

Os ydych wedi newid eich rhif ffôn symudol: Mae angen rhif ffôn symudol cyfredol arnom i anfon cod atoch mewn neges destun bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Os oes angen i chi ddiweddaru'r rhif ffôn sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif ffoniwch ni ar 0330 333 4000 ac fe wnawn ddiweddaru eich manylion.
 

Os ydych yn dal i gael problemau yn mewngofnodi, neu os ydych yn cael hysbysiad yn dweud eich bod wedi 'eich cloi allan', ffoniwch ni ar 0330 333 4000.

Ar ôl i chi greu proffil ar-lein, bydd angen i chi aros ychydig ddyddiau i'w alluogi. Dyma beth i'w ddisgwyl. 

Byddwn yn anfon cod gweithredu atoch yn y post. Dylai gyrraedd o fewn 3-5 diwrnod.

 

Ar ôl i chi ei gael, dyma beth i'w wneud:

  • Mewngofnodi gan ddefnyddio'ch manylion defnyddiwr (byddant yn y neges e-bost yr anfonwyd atoch pan wnaethoch gofrestru) a'r cyfrinair a ddewisoch pan wnaethoch gofrestru ar gyfer proffil ar-lein.
  • Gofynnir i chi nodi cod mynediad, y byddwn yn ei anfon atoch fel neges destun.
  • Ar ôl i chi nodi'ch cod mynediad, cliciwch ar 'Nodi Cod Gweithredu' ar eich dangosfwrdd.
  • Nodwch y cod gweithredu o'ch llythyr. Bydd eich proffil ar-lein yn cael ei alluogi.

Preifatrwydd, diogelwch a thwyll

Rhowch wybod i ni os yw eich paslyfr ar goll neu wedi'i ddwyn drwy lenwi'r datganiad paslyfr ar goll neu'r datganiad paslyfr wedi'i ddwyn. Dewch â'ch ffurflen wedi ei llenwi i'ch cangen leol neu cewch ei phostio i:  
Yr Adran Gynilion, Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA.  

 

Os ydych yn poeni eich bod wedi dioddef twyll, neu yn pryderu am unrhyw drafodiadau ar eich cyfrif ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0330 333 4000. 

Os ydych chi'n credu eich bod wedi eich effeithio gan sgam taliad gwthio awdurdodedig, dilynwch y camau hyn:
Cysylltu â ni ar unwaith
Ffoniwch ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 0330 333 4000 i roi gwybod am y sgam cyn gynted ag y byddwch yn amau eich bod wedi eich sgamio.
Sylwer ein bod ar agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am - 5pm Dydd Sadwrn: 9am - 1pm


Rhoi manylion
Bydd angen i chi rannu gwybodaeth allweddol am y trafodiad, er enghraifft y swm, y dyddiad, a manylion y derbynnydd. Efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.


Gwybod eich hawliau 
Mae gennych yr hawl i ofyn am ad-daliad am daliadau twyllodrus a wnaed drwy Daliad Cyflymach neu CHAPS. Rhaid i chi roi gwybod am y sgam ar unwaith ac o fewn 13 mis i'r taliad olaf.

 

Pryd gallaf ddisgwyl derbyn yr ad-daliad?
Os ydych yn gymwys i dderbyn ad-daliad, byddwch yn ei dderbyn o fewn pum diwrnod busnes fel arfer wedi gwneud eich cais. Efallai y bydd angen ychydig yn fwy o amser arnom (hyd at 35 diwrnod) os ydym yn aros am wybodaeth ychwanegol. 

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi dalu tâl-dros-ben o hyd at £100, y byddwn yn ei ystyried fesul achos.


Beth os ydw i'n anhapus â chanlyniad fy hawliad?
Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich hawliad cewch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
•    Cyfeiriad post: The Financial Ombudsman Service, Exchange Tower, London E14 9SR 
•    Rhif ffôn: 0300 123 9123
•    Switsfwrdd: 020 7964 1000 
•    O'r tu allan i'r DU: +442079640500

Rhaid i chi gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol o fewn 6 mis i dderbyn eich llythyr canlyniad.
 
Cewch hefyd weld ein adroddiad cwynion diweddaraf.

Rhagor o wybodaeth am Daliadau Gwthio Awdurdodedig.

Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif. Byddwn yn diogelu eich preifatrwydd ac yn sicrhau ein bod yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn ddiogel. Darllenwch sut yn ein polisi preifatrwydd

Rydym yn cymryd eich diogelwch ar-lein o ddifrif. Yn union fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol i helpu i’ch cadw’n ddiogel wrth reoli eich arian ar-lein.  Rydym yn helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel mewn ychydig o ffyrdd:

 

Drwy wneud yn siŵr bod gennych gyfrinair cryf. Dylai eich cyfrinair gynnwys 10 nod neu fwy, gan gynnwys prif lythrennau, symbolau a rhifau.

 

Drwy ofyn am rif ffôn symudol a ddefnyddir gennych chi yn unig. Gofynnwn i chi gysylltu rhif ffôn symudol personol â'ch proffil ar-lein fel y gallwn gynnal gwiriad diogelwch bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Dyna pam y mae'n bwysig mai eich rhif ffôn symudol chi yn unig yw'r un y byddwch yn ei ddefnyddio i gofrestru, ac na chaiff ei rannu â neb arall.

 

Drwy ofyn cwestiynau diogelwch. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair bydd angen i chi ateb tri chwestiwn diogelwch i'w ailosod.

 

Drwy anfon cod gweithredu atoch yn y post. Mae hyn yn ein helpu i gadarnhau mai chi sy’n byw yn y cyfeiriad rydych wedi’i roi i ni.

Gadewch i ni frwydro yn erbyn twyll gyda'n gilydd. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch amddiffyn rhag twyllwyr a chadw'ch arian yn ddiogel.

Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut rydym yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel yn ein polisi diogelwch ar-lein

Mae gennym hefyd lawer o awgrymiadau fel y gallwch amddiffyn eich hun rhag twyll a rhoi gwybod am unrhyw weithgarwch anarferol. 

 

Sut rydym yn gweithio

Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb terfynol i gŵyn, efallai y gallwch gyfeirio’r mater at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i’w adolygu. Os yw hynny'n wir, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n ysgrifenedig.
 
Gallwch gyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 6 mis i'n hymateb terfynol.

 

Cyfeiriad post: The Financial Ombudsman Service, Exchange Tower, London E14 9SR 
Rhif ffôn:0300 123 9 123

Switsfwrdd:020 7964 1000 

O'r tu allan i'r DU: +442079640500

 

Gallwch hefyd weld ein hadroddiad diweddaraf ar gŵynion

Os byddwch yn gwneud cwyn am wasanaeth talu (fel trosglwyddiad telegraffig neu daliad ar-lein), byddwn yn ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl 3 wythnos os bydd eich cwyn ar agor o hyd. Byddwn yn ysgrifennu atoch eto gyda phenderfyniad terfynol ar eich cwyn o fewn 7 wythnos.

 

Mae ein polisi preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.  

Mae ein prif swyddfa yng nghanol Caerdydd. Ein cyfeiriad yw Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, Heol Tŷ'r Brodyr, Caerdydd, CF10 3FA.

Mae eich dyfodol ariannol yn bwysig i ni. Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, rydym yn eiddo i chi – ein haelodau – ac yn cael ein rhedeg ar eich rhan.
 
Rydym wedi ymrwymo i gynnal safonau uchel o onestrwydd a didwylledd. Ewch i'n tudalennau llywodraethiant corfforaethol am wybodaeth am y rheolau a’r canllawiau yr ydym yn eu dilyn i weithredu fel busnes cyfrifol.

Mae gennym ganghennau ledled Cymru a'r gororau. Dod o hyd i'ch cangen leol.  

Gall aelodau Principality chwarae rhan weithredol yn nyfodol ein Cymdeithas drwy bleidleisio a mynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Yn y cyfarfod byddwch yn clywed gennym am berfformiad y Gymdeithas ac yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i’r Bwrdd a’r Uwch-dîm. Rydym hefyd yn cyhoeddi canlyniadau unrhyw bleidleisio.  

Os ydych wedi gwneud cwyn, byddwch yn cael llythyr gennym yn cydnabod eich cwyn yn ffurfiol. Byddwn yn anfon y llythyr o fewn 10 diwrnod i chi gysylltu â ni.
 
Rydym bob amser yn ceisio ymchwilio i gwynion cyn gynted â phosibl, ond os bydd eich cwyn ar agor o hyd ar ôl 4 wythnos, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf.
 
Os yw eich cwyn ar agor o hyd ar ôl 8 wythnos, byddwn yn ysgrifennu atoch eto.
 
Efallai y bydd ein Hadran Gwynion yn ceisio eich ffonio ond byddwn bob amser yn darparu ymateb yn ysgrifenedig neu drwy e-bost. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad sy’n ymwneud â’ch cwyn, ynghyd â’n rhesymau dros ddod i’n penderfyniad.
 
Bydd cyfeiriad e-bost a rhif ffôn hefyd yn cael eu darparu ym mhob llythyr i chi gysylltu â ni os hoffech drafod hyn ymhellach.

 

Mae ein polisi preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.  

Ein nod bob amser yw darparu gwasanaeth o safon ragorol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pethau fynd o chwith weithiau. Mae ein gweithdrefn gwyno yma i'ch helpu i gael ateb cyflym a boddhaol. Gallwch wneud cwyn:

Mae ein polisi preifatrwydd yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.  

Mae sawl ffordd o gysylltu â ni. Ewch i'n tudalen gyswllt i ddewis y ffordd orau ar eich cyfer chi.