Rhentu'ch eiddo
Yn y canllaw hwn
Cydsyniad i osod
Cydsyniad i osod yw pan fyddwch yn gofyn i'ch benthyciwr am ei ganiatâd i rentu'ch cartref dros dro wrth barhau i dalu morgais preswyl. Mae cydsyniad i osod fel arfer am tua 12 mis. Os hoffech rentu'ch cartref yn y tymor hwy, bydd angen i chi wneud cais am forgais prynu i osod.
Stori Emily
Mae Emily yn berchen ar dŷ teras gyda dwy ystafell wely. Mae ganddi gynnyrch morgais sefydlog tan 2026. Mae hi wedi penderfynu ei bod am deithio am 9 mis, ond bod angen iddi rentu ei chartref i dalu'r morgais tra bydd hi'n teithio.
Mae Emily yn sgwrsio â Ben, un o ymgynghorwyr morgeisi Cymdeithas Adeiladu Principality, sy'n esbonio y gallai rentu ei chartref am 12 mis o dan gydsyniad i osod. Mae Emily yn bodloni'r holl feini prawf ac felly gall ddilyn y broses gywir ar gyfer rhentu ei chartref ac wedyn teithio. Mae hi'n dychwelyd 9 mis yn ddiweddarach, gan roi gwybod i Gymdeithas Adeiladu Principality ei bod wedi dychwelyd ac yn darparu bil y dreth gyngor wedi'i ddiweddaru. Mae'n parhau â'i morgais preswyl.
Cymhwysedd
Rhaid i chi fodloni'r meini prawf isod i wneud cais i rentu'ch cartref:
- cytundeb tenantiaeth.
- contract rhyngoch chi a'ch tenantiaid am o leiaf 6 mis:
- Cymru a Lloegr: Cytundeb Tenantiaeth Byrddaliad (AST)
- Yr Alban: naill ai tenantiaeth byrddaliad sicr neu denantiaeth breswyl breifat.
- cynllun i rentu am 12 mis neu lai.
- o leiaf 6 mis o daliadau ar eich morgais preswyl (ddim yn berthnasol os ydych yn aelod o'r Lluoedd Arfog neu Glerigion Prydain)
Ffioedd a thaliadau
Tra byddwch yn rhentu'ch cartref, byddwn yn ychwanegu 1% i gyfradd llog eich morgais cyfredol oni bai eich bod yn aelod o'r Lluoedd Arfog neu Glerigion Prydain.
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd unrhyw newidiadau i'r gyfradd llog ychwanegol neu ein tariff taliadau.
Dod â chydsyniad i osod i ben
Er mwyn dod â'ch cytundeb gosod i ben, bydd angen i chi bostio neu e-bostio copi o'ch bil y dreth gyngor.
Bydd angen i fil y dreth gyngor ddangos ei fod wedi'i newid yn ôl i enw ddeiliad y morgais. Yna, gallwn ddiweddaru eich manylion.
Ystyriaethau eraill
Talu Treth
Bydd angen i chi dalu treth ar unrhyw elw rydych yn ei wneud o rentu'ch cartref. Mae hyn yn golygu y gallai eich incwm trethadwy gynyddu ac efallai y byddwch yn symud i fand treth uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn drwy fynd i Gov.UK. Efallai yr hoffech hefyd siarad ag ymgynghorydd treth annibynnol.
Newidiadau i'ch morgais
Unwaith y bydd eich eiddo'n cael ei rentu, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:
- newid cytundeb eich morgais
- gwneud cais i fenthyca mwy (gellir eich ystyried ar gyfer gwelliannau neu atgyweiriadau)
- cwblhau newid i'r cyfnod
- ychwanegu neu ddileu benthyciwr
Yswiriant cartref
Bydd angen i chi ddweud wrth ddarparwr eich yswiriant cartref eich bod yn rhentu'ch cartref. Efallai y bydd angen i chi newid eich yswiriant er mwyn sicrhau eich bod wedi'ch yswirio'n llawn i rentu'ch eiddo.
- Property
Gwnewch gais i rentu eich cartref
Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp