Croeso i'n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Ymunwch â ni ddydd Gwener 11 Ebrill 2025 am 11yb - yng Ngwesty'r Marriott Caerdydd, ar-lein ac yn fyw o ganghennau dethol
Mae'n bleser gennym groesawu ein Haelodau i'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni.
Fel Cymdeithas Adeiladu Gydfuddiannol, rydym yn eiddo i'n Haelodau ac yn cael ein rhedeg er budd ein Haelodau. Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle perffaith i chi gael dweud eich dweud ar benderfyniadau allweddol ar gyfer eich Cymdeithas, fel pleidleisio ar bwy sydd ar eich Bwrdd Cyfarwyddwyr.
-
A oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol?
Mae 3 ffordd o ymuno - yn bersonol, ar-lein neu'n fyw o ganghennau dethol.
-
Eisiau gofyn cwestiwn?
Y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yw eich cyfle chi i ofyn cwestiynau i’r Bwrdd a’r Uwch-dîm Arwain. E-bostiwch eich cwestiynau ymlaen llaw neu gofynnwch nhw yn ystod y cyfarfod os ydych yn ymuno â ni.
Pleidleisio nawr!
Mae 3 ffordd hawdd o bleidleisio:
Pleidleisio ar-lein
Bydd angen eich dau god diogelwch o'r pecyn gwybodaeth pleidleisio y byddwch wedi'i gael drwy e-bost neu drwy'r post.
Pleidleisio ar-lein: Rhaid cyflwyno pleidleisiau erbyn 11yb, 9 Ebrill 2025
Pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Gallwch bleidleidio yn bersonol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Gwesty'r Marriott,
Lôn y Felin,
Caerdydd,
CF10 1EZ
Pleidleisio yn bersonol: Gallwch bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 11 Ebrill 2025
Pleidleisio drwy'r post
Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen bleidleisio a gawsoch yn y post, gan ddefnyddio’r amlen rhadbost a ddarparwyd neu a bostiwyd at:
Principality Building Society Scrutineers
Civica,
London,
N81 1ER
Rhaid cael papurau pleidleisio erbyn 11yb, 9 Ebrill 2025.
Dogfennau a dolenni defnyddiol ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Taflen uchafbwyntiau 2024 (gan gynnwys Datganiad Ariannol Cryno)
Os hoffech weld mwy am sut rydym wedi perfformio ewch i'n hadroddiadau ariannol.