Ein Bwrdd
Dyma Aelodau ein Bwrdd sy'n gyfrifol ar y cyd am reolaeth, cyfeiriad a pherfformiad Cymdeithas Adeiladu Principality.
Rôl aelodau ein Bwrdd
Y Bwrdd Cyfarwyddwyr yw bwrdd llywodraethu cyffredinol Cymdeithas Adeiladu Principality. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol ar y cyd am reolaeth, cyfeiriad a pherfformiad Cymdeithas Adeiladu Principality er mwyn sicrhau ei llwyddiant hirdymor.
Mae ein Bwrdd yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol. Ein cyfarwyddwyr Gweithredol sy'n arwain y tîm gweithredol sy'n rheoli gweithrediadau bob dydd. Ein Cyfarwyddwyr Anweithredol sy'n sicrhau ein bod yn gweithredu'n gywir drwy herio penderfyniadau ein cyfarwyddwyr gweithredol.
-
Claire Hafner, ACA, MA
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Medi 2019
Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol a'r Pwyllgorau Llywodraethu ac Enwebiadau. Mae fy mhrofiad ar draws gwahanol sectorau gwasanaethau ariannol, taliadau, gwasanaethau proffesiynol, amlgyfrwng a thelathrebu yn fy ngalluogi i gyfrannu at raglen newid y Gymdeithas ac at lwyddiant parhaus y Gymdeithas.
Rwy'n gyfrifydd cymwys (ACA) ac mae gen i MA mewn Ieithoedd ac Economeg. Hyfforddais a chymhwysais yn Ernst & Young yn yr adran archwilio Gwasanaethau Ariannol ac yna treuliais dair blynedd arall mewn treth gorfforaethol. Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi cyflawni ystod eang o rolau ar draws sectorau niferus, gan gynnwys cyfnod o chwe blynedd fel Cyfarwyddwr Anweithredol Cymdeithas Adeiladu West Bromwich. Rwyf hefyd yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol Glendrake Limited.
-
Debra Williams
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Medi 2019
Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Rwy’n Aelod o Bwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Mae fy mhrofiad ym meysydd Technoleg Ariannol ac E-fasnach yn fy ngalluogi i gyfrannu’n gadarnhaol at weddnewidiad digidol parhaus y Gymdeithas, gan gefnogi darpariaeth barhaus o brofiad nodedig i’n Haelodau.
Yn ystod fy ngyrfa, rwyf wedi dal amrywiol swyddi fel Cyfarwyddwr Gweithredol ac Anweithredol, ac wedi gweithio mewn rolau ymgynghorol yn y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Treuliais bum mlynedd yng Nghymdeithas Adeiladu Britannia, a bu gennyf uwch-rolau yn Tesco Compare a Confused.com.
Rwyf hefyd yn dal rolau fel Cyfarwyddwr Anweithredol Co-Op Insurance, Cyfarwyddwr Anweithredol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Rwy’n Ymddiriedolwr Sefydliad Alacrity, yn Gadeirydd GCRE Ltd, ac yn Gyfarwyddwr Awen Consulting Services Ltd. Rwyf hefyd yn llysgennad balch dros Tŷ Hafan.
-
Iain Mansfield, LLB (Anrh), FCA
Prif Swyddog Gweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Rhagfyr 2019
Cefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Gweithredol ym mis Tachwedd 2025. Cyn hynny, cefais fy mhenodi'n Brif Swyddog Gweithredu ym mis Hydref 2017 ac yn Brif Swyddog Ariannol ym mis Gorffennaf 2022. Ymunais â'r Bwrdd ym mis Rhagfyr 2019. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr ac yn Gadeirydd, Nemo Personal Finance Ltd (cwmni grŵp). Rwy'n Gyfrifydd Siartredig gyda thros 20 mlynedd o brofiad ar draws bancio manwerthu a busnesau gwasanaethau ariannol defnyddwyr sy'n eiddo i fusnesau newydd ac ecwiti preifat yn y DU.
Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Hafren Dyfrdwy ac yn Is-gadeirydd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru.
-
Jonathan Baum, MBA, MA, Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Gorffennaf 2021
Cadeirydd Pwyllgor Risg y Bwrdd ac Uwch-gyfarwyddwr Annibynnol.
Rwy'n Aelod o'r Pwyllgor Archwilio a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Mae fy mhrofiad ar draws y sectorau manwerthu, busnes, cyfoeth a chyllid asedau ac mewn rolau arweinyddiaeth risg yn fy ngalluogi i oruchwylio risgiau cyfredol a risgiau sy'n dod i'r amlwg, a fydd yn sicrhau bod y Gymdeithas yn parhau i fod yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy i'w Haelodau.
Mae gen i 30 mlynedd o brofiad mewn bancio domestig a rhyngwladol o fewn sefydliadau byd-enwog gan gynnwys Lloyds Banking Group, Barclays Bank plc a GE Capital. Roeddwn i'n Gyfarwyddwr Anweithredol i TransUnion UK a Vanquis Bank. Rwyf hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn FCE Bank plc (sy'n masnachu fel Ford Credit).
-
Shimi Shah
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers mis Mai 2023
Rwy’n Aelod o’r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol, a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Rwyf wedi bod wrthi’n adeiladu a rhedeg busnesau, unedau hybu, polisi arloesi, rheoli cronfeydd, a chyfalaf menter ers dros 20 mlynedd ar draws yr Unol Daleithiau, Ewrop, a’r Dwyrain Canol ac rwyf hefyd yn Angel Buddsoddi cynhyrchiol a gweithgar ar draws y tiriogaethau hynny yn fy rhinwedd fy hun. Yn ystod fy ngyrfa rwyf wedi adeiladu a rheoli buddsoddiadau a phortffolios sylweddol ac wedi gwasanaethu gyda rhai o gwmnïau Ecwiti Preifat mwyaf blaenllaw Ewrop gyda buddsoddiadau mewn dros 50 o gwmnïau.
Rwy'n dra phrofiadol ym maes uno a chaffael, codi arian, IPOs ac ymadawiadau. Mae gen i brofiad helaeth ar fyrddau (o gwmnïau rhestredig i fusnesau bach a chanolig a busnesau newydd) ac rwy’n gwasanaethu ar dri bwrdd mewn swyddogaeth anweithredol ar hyn o bryd. Rwy’n enwog yn fyd-eang fel arbenigwr ar bolisi arloesi ac unedau hybu, ac ar lywodraethu corfforaethol, ac rwy’n darparu gwasanaethau ymgynghori yn y maes hwn i fusnesau bach a chanolig a sefydliadau’r llywodraeth ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica. Mae gen i enw da hefyd ym maes gwerthusiadau ac asesiadau bwrdd, ac rwy'n gweithio gyda sefydliadau, swyddfeydd teulu, a chronfeydd i ddylunio, adeiladu, a throsoli byrddau i fod yn effeithiol yn eu hamcanion.
Rwyf ar Fwrdd Carousel Solutions. Rwyf hefyd ar fyrddau cynghori North East Fund (NEF), Miratech Limited a HaysMckintrye, ac yn aelod gweithgar o Gymdeithas y Llywydd Ifanc (YPO), ar hyn o bryd yn gwasanaethu ar Bwyllgor y Cabidwl.
-
Simon Moore
Cadeirydd, Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Ionawr 2024, ac etholwyd yn Gadeirydd ym mis Ebrill 2024
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Aelod o’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol
Mae gen i dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector ariannol yn gweithio i Lloyds Banking Group, Chase Manhattan Bank, ABN AMRO a Banc Barclays, gan gynnwys fel Rheolwr Gyfarwyddwr Barclays Masnachol Cymru a De-orllewin Lloegr. Rwy’n gwasanaethu fel cadeirydd sefydliad cydfuddiannol blaenllaw arall, LV=, cwmni yswiriant bywyd y DU, yn ogystal â gwasanaethu ar nifer o fyrddau eraill.
Rwy’n gyfrifol am arwain gwaith y Bwrdd, gan sicrhau ei fod yn gweithredu’n effeithiol wrth bennu’r strategaeth, goruchwylio perfformiad a phennu parodrwydd y Gymdeithas i dderbyn risg. Rwyf i hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cynlluniau olyniaeth cadarn ar waith, bod y Gymdeithas yn cynnal y safonau llywodraethu corfforaethol uchaf a bod gennym ddiwylliant agored a thryloyw.
Bydd fy mhrofiad fel cadeirydd bwrdd cwmni cyhoeddus, preifat a chydfuddiannol a’m gyrfa yn y sector ariannol, gyda sylfaen mewn rheoleiddio, llywodraethu, risg, cydymffurfio, perfformiad ariannol, gwasanaeth cwsmeriaid, cydnabyddiaeth swyddogion gweithredol a pherthnasoedd aelodau, yn rhoi’r trosolwg angenrheidiol i mi fel aelod o'r bwrdd ac i gyfrannu at lwyddiant parhaus y Gymdeithas.
Fi yw cadeirydd Liverpool Victoria Financial Services Limited a W.H. Ireland Group PLC. -
Karen Maguire LL. B, ACA
Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Medi 2024
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.
Rwy'n Aelod o Bwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Rwy'n gyfrifydd cymwys (ACA) gyda gradd yn y Gyfraith. Hyfforddais a chymhwysais gyda KPMG yn Ne Cymru, gan ennill profiad ar draws archwilio, rheoli risg, archwilio mewnol a llywodraethu, ac ar draws ystod eang o ddiwydiannau gan gynnwys gwasanaethau ariannol. Mae fy rolau gweithredol wedi cynnwys Pennaeth Risg a Phennaeth Cysylltiadau Buddsoddwyr yn Admiral Group Plc a Phrif Swyddog Ariannol ar gyfer Confused.com, Penguin Portals a ZPG Group.
Mae fy ngyrfa mewn gwasanaethau proffesiynol yn rhoi profiad eang i mi mewn perfformiad ariannol, rheoleiddio, llywodraethu, risg a chydymffurfedd, tra bod fy mhrofiad yn y sector gwasanaethau ariannol yn golygu fy mod yn canolbwyntio ar ganlyniadau cwsmeriaid a thrawsnewid digidol.
Rwy'n aelod o Gyngor Grŵp Coleg Clifton lle rwy'n cadeirio'r Pwyllgor Archwilio, Risg a Chydymffurfedd. -
Maria Timon Samra
Cyfarwyddwr Anweithredol | Ymunodd â’r Bwrdd ym mis Tachwedd 2024
Rwy'n aelod o Bwyllgor Risg y Bwrdd, y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Wedi fy ysgogi gan ddibenion, ac ar ôl gwasanaethu fel Cadeirydd ac Ymddiriedolwr yn flaenorol, cefais y fraint fawr o dreulio’r pedair blynedd diwethaf fel Prif Swyddog Gweithredol Tŷ Hafan, yr Hosbis Plant yn Sili sydd, ynghyd â Thŷ Gobaith yng ngogledd Cymru, yn cael ei gefnogi’n falch gan bartneriaeth elusennol wych Principality. Cefais wobr ‘Cyfarwyddwr y Flwyddyn’ Sefydliad y Cyfarwyddwyr 2021, a thros fy ngyrfa o 30+ mlynedd rwyf wedi cael profiad eang yn lleol ac yn rhyngwladol. Mewn rolau gweithredol uwch fel Partner Ymgynghorydd Rheoli yn Arthur Andersen ac Unisys, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cleientiaid mewn cwmni meddalwedd yn yr Unol Daleithiau, Rheolwr Gyfarwyddwr KPMG, Cyfarwyddwr Trawsnewid Digidol yn Barclaycard, a Phrif Swyddog Gwybodaeth Dros Dro Dŵr Cymru, rwyf wedi bod yn ‘ymarferol' wrth ddarparu rhaglenni trawsnewid busnes a newid diwylliannol cymhleth a alluogir yn ddigidol.
Mae’n fraint i mi gael y cyfle i gyfrannu fy sgiliau a’m profiad i sefydliad gwych arall yng Nghymru. Yn fy rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol, byddaf yn darparu stiwardiaeth a chefnogaeth i’r tîm Gweithredol dawnus a chydweithwyr ar draws y gymdeithas, y bydd cyflawni’r rhaglen drawsnewid uchelgeisiol yn ffocws allweddol iddynt. Mae hwn wedi’i gynllunio i sicrhau llwyddiant cynaliadwy, hirdymor Principality, gan warchod ac ategu treftadaeth, ethos a gwerthoedd Cymreig balch y sefydliad cydfuddiannol.Mae gennyf hefyd swydd fel Cyfarwyddwr yn Timon Samra Associates Ltd.
-
Garry Stran
Cyfarwyddwr Anweithredol | Aelod o’r Bwrdd ers Ionawr 2025
Rwy'n Aelod o'r Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Risg y Bwrdd a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau.
Mae gen i dros 25 mlynedd o brofiad gweithredol ar draws y sector gwasanaethau ariannol, gan ganolbwyntio ar reoli risg credyd a thrawsnewid gweithredol a diwylliannol. Rwyf wedi dal swyddi uwch ac anweithredol yn Nationwide, PCF Bank, WH Ireland a Computershare Loan Services.
Mae gen i hanes amlwg o gefnogi sefydliadau i weddnewid yn strategol, gan ganolbwyntio ar dechnoleg a gwerth i gwsmeriaid.
Yn ogystal â phrofiad helaeth o lunio strategaeth, ysgogi digideiddio a moderneiddio diwylliant, rydw i wedi dal rolau sylweddol sy'n gysylltiedig â llywodraethu fel Aelod a Chadeirydd Pwyllgorau Archwilio, Rheoli Risg, Credyd a Chydnabyddiaeth Ariannol ar draws sefydliadau rhestredig a sefydliadau preifat.
Rwy'n Gyfarwyddwr Anweithredol yn W H Ireland Group a Very Group.