Ymuno yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Ymunwch â ni ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener, 11 Ebrill 2025 – yn bersonol, ar-lein, neu’n fyw o ganghennau dethol
Bydd cofrestru yn dechrau am 10yb a bydd y cyfarfod yn dechrau am 11yb.
Yn bersonol
Darperir lluniaeth ysgafn ar ôl y cyfarfod.
-
Lleoliad
Gwesty’r Marriot, Lôn y Felin, Caerdydd, CF10 1EZ
- Ceir cyfarwyddiadau amlwg yn y dderbynfa.
- Ceir mynediad i gadeiriau olwyn drwy'r brif fynedfa.
- Mae maes parcio John Lewis gerllaw, yn ogystal â maes parcio Dewi Sant
-
Beth fydd ei angen arnoch
Dewch â’ch llythyr Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, eich paslyfr cynilo (os oes gennych un), neu gopi o’ch datganiad morgais fel prawf adnabod.
-
Cyn cofrestru
I ddod yn bersonol, rydym yn eich annog i gofrestru ymlaen llaw i roi gwybod i ni am unrhyw ofynion mynediad neu ddeiet.
Ar-lein
-
Beth fydd ei angen arnoch i ymuno:
I fewngofnodi fel gwestai, ewch i attend.cesjoinin.com/login a nodwch Rif Adnabod y Cyfarfod: 30338
-
Gofyn cwestiwn
Os hoffech ofyn cwestiwn bydd angen eich codau diogelwch arnoch, sydd ar gael yn eich neges e-bost neu lythyr pleidleisio.
-
Cyn cofrestru
Gallwch ymuno ar ddiwrnod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda'r manylion uchod.
Os hoffech gael eich atgoffa o’r manylion mewngofnodi, gallwch gofrestru ymlaen llaw a byddwn yn cysylltu â chi yn nes at yr amser.
Gweld ffrwd fyw mewn canghennau dethol
Ymunwch â ni yn un o'n canghennau dethol i wylio ffrwd fyw o’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Gallwch gymryd rhan, pleidleisio a gofyn cwestiynau.
Bydd aelodau'r Bwrdd, y Pwyllgor Gweithredol a'n Tîm Arwain Gwerthiant yn bresennol yn ein canghennau.
Darperir lluniaeth ysgafn ar ôl y cyfarfod.
-
O ba ganghennau y gallwn ymuno?
-
Beth fydd ei angen arnoch
Dewch â phrawf adnabod - fel eich llythyr Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, eich paslyfr cynilo (os oes gennych un), neu gopi o’ch datganiad morgais fel y gallwn eich cofrestru.
Os hoffech bleidleisio ar y diwrnod, bydd angen i chi wneud hyn gan ddefnyddio eich ffôn symudol eich hun.
-
Cyn cofrestru
Oherwydd maint ein canghennau, rydym yn eich annog i gofrestru ymlaen llaw.