Eich hawliau chi a'n buddiannau ni
Deall eich hawliau
Rydym am i'n cwsmeriaid ddeall eu hawliau o ran eu data, a'r rhesymau pam y gallwn ei gasglu. Mae’r adrannau isod yn trafod ‘Eich hawliau’ a’n ‘Buddiannau Dilys’ wrth gasglu data, yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd sy’n trafod ein hymrwymiad i gadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel, ac yn esbonio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawliau
Mae gennych hawliau dros eich gwybodaeth bersonol - a nodir yn y ddeddfwriaeth Diogelu Data. Edrychwch ar yr hawliau hyn isod.
I arfer hawl, darllenwch y manylion yn ofalus i wneud yn siŵr ei fod yn iawn i chi a’ch amgylchiadau ac yna dewiswch opsiwn cysylltu. Mae gennym fis i ymateb i'r ceisiadau hyn, ond ein nod yw ymateb yn gynt a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd.
Eich Hawliau
Cewch. Weithiau gelwir yr hawl hon yn hawl i ddileu neu hawl i gael eich anghofio. Pe baech yn dewis arfer yr hawl hon, byddem yn ystyried yr amgylchiadau yn gyntaf oherwydd nid yw’r hawl bob amser ar gael, ac weithiau mae angen i ni gadw’ch gwybodaeth.
Cyn gwneud cais, ystyriwch y canlynol:
- Os oes gennych chi gyfrif neu forgais agored, gweithredol gyda ni, mae angen i ni gadw eich gwybodaeth gan fod angen i ni reoli eich cyfrif, darparu gwasanaeth, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a monitro cyfathrebiadau.
- Os oedd gennych chi gyfrif neu forgais agored, gweithredol gyda ni:
- Yn ystod y 6 blynedd diwethaf, rydym yn gyffredinol yn cadw eich gwybodaeth i'n helpu i ymchwilio i unrhyw faterion a allai godi mewn cysylltiad â'ch perthynas â ni. Gallai hyn ein helpu i ddatrys unrhyw bryderon y gallech eu codi gyda ni neu
- Dros 6 mlynedd yn ôl, mae’n bosibl y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth am gyfnod hwy os bydd hyn yn angenrheidiol mewn cysylltiad â’ch hawl chi neu ein hawl ni i sefydlu, cychwyn neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol, ymchwilio i gwynion, neu ddiogelu ein busnes.
- Os gwnaethoch gais am forgais gyda ni efallai y byddwn yn cadw gwybodaeth am geisiadau credyd yn ddiogel am hyd at bedair blynedd. Mae hyn yn ein helpu i reoli ein meini prawf benthyca fel y gallwn barhau i fenthyca'n gyfrifol.
- Os gwnaethoch ond holi am ein gwasanaethau ac nad ydych yn agor cyfrif, efallai y byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel am 12 mis i fonitro ein gwasanaethau ac ymateb i unrhyw bryderon y gallech eu codi gyda ni.
Cewch. Gelwir hyn yn hawl i gywiro. Os teimlwch fod rhywfaint o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, drwy gysylltu â ni gallwch ddarganfod a allwch ei chywiro neu ychwanegu rhagor o wybodaeth a sut i fynd ati. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu dogfennaeth swyddogol i ddangos y wybodaeth gywir cyn i ni newid ein cofnodion.
Cewch. Mae dau opsiwn ar gael 1) hawl mynediad a 2) yr hawl i gludadwyedd data:
- Mae'r hawl mynediad yn caniatáu i chi ofyn i Principality ddarparu'r wybodaeth a gedwir amdanoch. Gelwir hyn yn gais am fynediad at ddata gan y testun. Os dewiswch yr opsiwn hwn, cysylltwch â ni. Byddwn yn anfon copïau papur o'r wybodaeth hon atoch yn ddiogel yn y post.
- Mae’r hawl i gludadwyedd data yn caniatáu i chi ofyn am eich gwybodaeth mewn fformat y gall peiriant ei ddarllen. Mae hyn yn golygu efallai na fydd y wybodaeth yn hawdd i chi ei darllen gan ei bod wedi'i chynllunio'n benodol i gyfrifiaduron ei darllen. Os ydych am i wybodaeth gael ei harddangos mewn fformat darllenadwy, dylech gysylltu â ni ynghylch cais am fynediad at ddata gan y testun. Os dewiswch yr hawl i gludadwyedd data, byddwn yn anfon y wybodaeth a ddarparwyd gennych (yn unig) ar gryno ddisg. Weithiau, mae benthycwyr yn awgrymu’r opsiwn hwn pan fyddwch chi’n ystyried gwneud cais. Yn Principality, ni fyddwn yn gofyn am y wybodaeth hon pan fyddwch yn gwneud cais am ein gwasanaethau, ac nid ydym yn derbyn gwybodaeth amdanoch gan fenthycwyr eraill yn y fformat hwn.
Gallwch. Mae'r hawliau hyn fel a ganlyn:
- Yr hawl i gyfyngu ar brosesu. Os ydych wedi gwneud cais i’ch gwybodaeth gael ei chywiro, gallwch ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio’ch data neu gysylltu â chi wrth i ni ymchwilio i'ch cais. Mae’n bwysig nodi y bydd angen i ni gysylltu â chi o hyd gyda gwybodaeth bwysig megis datganiadau neu os byddwn yn nodi gweithgarwch anarferol ar eich cyfrif, ond byddwn yn ymdrechu i ddatrys eich cais cyn defnyddio’ch gwybodaeth ymhellach lle bynnag y bo modd. Os ydych fel arfer yn cael deunydd marchnata uniongyrchol, byddwn yn rhoi’r gorau i anfon hwn atoch. Os hoffech ddechrau cael hwn eto ar ôl i ni ddatrys eich cais, bydd angen i chi ddweud wrthym.
- Yr hawl i wrthwynebu. Os ydych yn teimlo ein bod yn defnyddio neu’n prosesu eich gwybodaeth yn amhriodol, gallwch ofyn i ni roi sylw i hyn. Gallai hyn fod os ydych am i ni roi'r gorau i anfon deunydd marchnata uniongyrchol atoch, ac os felly, gallwn fodloni'ch cais. Os oedd eich cais yn ymwneud â rhywbeth arall, byddem yn ystyried amgylchiadau eich cais.
Gallwch. Mae ein polisi preifatrwydd yn rhoi manylion pwy rydym yn debygol o rannu eich gwybodaeth â nhw. Fel arall, efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod wrth bwy rydym wedi dweud am newid diweddar rydych wedi’i wneud i’ch gwybodaeth bersonol fel rhan o gais unioni. Gallwch arfer yr hawl hwn i hysbysu drwy gysylltu â ni.
Gallwch. Mae gennych yr hawl i:
Cyfyngu ar brosesu; os ydych wedi gwneud cais i’ch gwybodaeth gael ei chywiro, gallwch ofyn i ni roi’r gorau i gysylltu â chi wrth i ni ymchwilio i'ch cais.
Gallwch ddewis peidio â derbyn deunydd marchnata uniongyrchol gennym ni ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy Eich Cyfrif, mewn cangen neu drwy gysylltu â ni. Gall gymryd 6 wythnos i ddiweddaru newidiadau, felly efallai y byddwch yn parhau i gael gwybodaeth farchnata yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes gennych chi gyfrif gweithredol neu forgais gyda ni, bydd angen i ni gysylltu â chi o hyd i reoli eich cyfrif, darparu gwasanaeth, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ,ac i fodloni eich rhwymedigaethau rheoleiddio megis anfon datganiadau atoch.
Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Polisi preifatrwydd.
Buddiannau dilys
O dan ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae’n rhaid i ni gael sail gyfreithlon cyn defnyddio’ch data personol. Mae chwe sylfaen ar gael. Cyfeirir at un sail fel ‘buddiant dilys’. Mae hyn yn golygu bod gennym reswm dilys a chyfreithlon dros ddefnyddio'ch gwybodaeth ac mae'n angenrheidiol ar gyfer ein busnes, ar yr amod nad ydym yn niweidio'ch hawliau na'ch buddiannau heb gyfiawnhad. Er enghraifft, mae gennym fuddiant dilys mewn cadw delweddau a gasglwyd gan deledu cylch cyfyng pan fyddwch yn ymweld ag un o’n canghennau neu pan fyddwch wedi mynychu digwyddiad gyda Principality, fel y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Gallwn eich sicrhau y cedwir eich holl wybodaeth bersonol yn ddiogel ac ni fydd yn cael ei rhannu â neb na ddylai fod.
Ein buddiannau dilys
Rydym yn cymryd camau i ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys cyflawni sicrwydd ansawdd ac archwiliadau gan ddefnyddio gwybodaeth ein cwsmeriaid. Mae hyn yn ein helpu i nodi anghenion hyfforddi, risgiau neu welliannau i'n prosesau, ein gweithdrefnau a'n gwefan. Efallai y bydd ein rheoleiddwyr yn gofyn i ni ddangos sut rydym yn bodloni eu rheolau, ac weithiau mae hyn yn golygu rhannu gwybodaeth.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid pan fydd cyfnod cytundeb arbennig yn dod i ben i roi gwybod iddynt am gynhyrchion eraill sydd ar gael, hyd yn oed os ydynt wedi dewis peidio â chael deunydd marchnata uniongyrchol. Rydym yn gwneud hyn oherwydd ein bod yn credu ei fod yn wasanaeth a ddisgwylir gennym.
Lle na all ein cwsmeriaid ddelio â ni mwyach heb unrhyw fai arnynt eu hunain neu os ydynt yn dymuno wneud trefniadau i ni ddelio â chynrychiolwyr ar eu rhan, efallai y byddwn yn casglu data personol rhywun arall sydd wedi'i awdurdodi i ddelio â'r cyfrifon.
Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn ein Polisi preifatrwydd.
Mae parhau i fod yn gystadleuol yn golygu ein bod yn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau a fydd o ddiddordeb i gwsmeriaid, presennol a newydd, yn barhaus. I wneud hyn, mae angen i ni ddeall ein cwsmeriaid a'r farchnad. Un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy ddadansoddi gwybodaeth, ymddygiad ac adborth gan gwsmeriaid. Gan ein bod yn esblygu’n barhaus, mae’r newidiadau rydym yn eu gwneud yn cael eu cofnodi a gall hyn weithiau gynnwys cadw gwybodaeth cwsmeriaid at y diben hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil cwsmeriaid yn Principality, ewch i’n tudalen, Ymchwil cwsmeriaid.
Gallwch ddewis optio allan o ohebiaeth ymchwil ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni neu drwy e-bostio research@principality.co.uk.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Polisi preifatrwydd, yn enwedig yn yr adran Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth.
Rydym wrth ein bodd yn agor posibiliadau i bawb yn ein cymuned ac yn falch o gefnogi ein partneriaid elusennol. Un o'r ffyrdd rydym yn helpu yw drwy drefnu gwirfoddolwyr a digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o'r achosion pwysig hyn. Gall y rhai sy'n dewis cymryd rhan ddarparu gwybodaeth bersonol er mwyn helpu i drefnu neu redeg y digwyddiad neu fod yn rhan o ddelweddau hyrwyddo i gefnogi ein partneriaid elusennol.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Polisi preifatrwydd, yn enwedig yn yr adran Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth.
Gwyddom fod amddiffyn ein haelodau a’n busnes rhag effaith troseddau ariannol yn hollbwysig. Ymhlith dulliau eraill, rydym yn cyflawni hyn drwy nodi risgiau'n ddarbodus a monitro bygythiadau o fewn disgwyliadau cyfreithiol a rheoliadol.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Polisi preifatrwydd, yn enwedig yn yr adrannau Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth.
Rydym bob amser yn anelu at wneud y peth iawn ar gyfer ein cwsmeriaid, gan gynnwys y rhai sydd wedi gadael Principality. Mae rhan o hyn yn cynnwys cael eich hysbysu'n llawn drwy gadw cofnodion a thrwy gymryd cyngor cyfreithiol. Weithiau, mae hyn yn golygu cadw gwybodaeth am gyfnodau hirach nag arfer.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Polisi preifatrwydd, yn enwedig yn yr adrannau Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth a Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth.
Mewn byd lle mae technoleg yn datblygu, rydym yn archwilio'r systemau a ddefnyddiwn i storio gwybodaeth cwsmeriaid fel y gallwn nodi bygythiadau a phroblemau sy'n dod i'r amlwg. Mae'n rhaid i ni hefyd fynd ati i fonitro ein hadeiladau i gadw ein data, ein hadeiladau ac yn bwysicaf oll ein cwsmeriaid a'n cydweithwyr yn ddiogel.
Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth yn ein Polisi preifatrwydd.
I wneud cais neu ofyn cwestiynau i ni am yr hawliau hyn
Ffôn: 0330 333 4000
E-bost: individualrightssupport@principality.co.uk
Post: Rhadbost Cymdeithas Adeiladu Principality
Os oes gennych ymholiad am ein Swyddog Diogelu Data sy’n gyfrifol am ein Polisi Preifatrwydd, cyfeiriwch y llythyr at y Swyddog Diogelu Data.
Os ydych yn teimlo bod angen, mae gennych yr hawl i gwyno drwy gysylltu â ni fel y gallwn ymchwilio i'ch pryderon. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef y rheolydd ar gyfer deddfwriaeth Diogelu Data. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt yr ICO yn ico.org.uk/concerns neu drwy ffonio 0303 123 1113.
Sylwch nad ydym yn gyfrifol am unrhyw wybodaeth sydd ar wefannau allanol.