Skip to content
Log in

Dros £1.6 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn cymunedau lleol

Diverse group of young people digging hole in forest to plant tree.

Yn yr erthygl hon

Buddsoddi yng nghymunedau Cymru

Rydym yn credu mewn buddsoddi yn nyfodol ein cymunedau, gan sicrhau bod y grwpiau a’r elusennau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yng Nghymru nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu. Dyna pam rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r dyfarniadau diweddaraf gan Gronfa Cenedlaethau’r Dyfodol (FGF), gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad i dros £1.6 miliwn ers 2022!

Eleni, rydym wedi dyfarnu £600,000 i brosiectau ieuenctid a chymunedol gyda grantiau’n amrywio o £15,000 i £25,000 sydd wedi’u cynllunio i greu newid parhaol drwy fynd i’r afael â materion hollbwysig fel iechyd meddwl, ynysigrwydd cymdeithasol, cynaliadwyedd a chadernid ariannol. O rymuso pobl ifanc â sgiliau bywyd i gefnogi cyn-filwyr drwy therapi celf, rydym yn falch o gefnogi’r mentrau trawsnewidiol hyn.

Ein hymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol

Nid mater o ddosbarthu arian a cherdded i ffwrdd yn unig yw hyn. Mae’n ymwneud â’n cydweithwyr yn ymddangos fel gwirfoddolwyr, yn torchi ein llewys, yn gwrando, yn dysgu ac yn siarad â’r bobl sy’n gwneud y gwaith a’r bobl y mae eu bywydau’n cael eu newid ganddo. Dyna sut rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Dyma rai enghreifftiau o’r gwaith gwych sy’n cael ei ariannu:

The VC Gallery: Cefnogi cannoedd o bobl yn wythnosol drwy gelf, i leihau ynysigrwydd a magu hyder.
Youth Shedz Cymru: Ysbrydoli pobl ifanc i gymryd yr awenau mewn prosiectau gwella cymunedol, gan feithrin balchder ac arweinyddiaeth.
Canolfan Allgymorth Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr (BARC): Rhoi’r sgiliau cyllidebu a byw’n iach i bobl ifanc er mwyn meithrin gwytnwch.

Ond nid dyna'r cyfan. Yn 2024, gwnaethom hefyd lansio’r Gronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol, sy’n newid mawr mewn cynaliadwyedd. Mae'r fenter hon yn darparu grantiau o hyd at £25,000 ar gyfer gwaith uwchraddio hanfodol fel paneli solar ac insiwleiddio, gan helpu hybiau cymunedol i leihau costau ynni a lleihau ôl troed carbon. Drwy adfywio’r mannau hyn, rydym yn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn fywiog, yn hygyrch ac yn ecogyfeillgar am genedlaethau i ddod.

Gair gan ein Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu

Mae Tony Smith, ein Prif Swyddog Effaith a Llywodraethu, yn crynhoi’r cyfan yn berffaith:

“Mae Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol yn enghraifft o'n cred y gall busnes gyflawni pethau da, a bod yn rhaid iddo wneud hynny. Yn aml, mae'r grwpiau rydym yn eu hariannu yn rhaffau achub eu cymunedau ond maent yn wynebu pwysau ariannol aruthrol. Rydym am rymuso’r sefydliadau hyn i barhau â’u gwaith gwych, gan sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion y bobl fwyaf agored i niwed a pharatoi pobl ifanc i lwyddo. Mae adeiladau cynaliadwy hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cadernid cymunedol. Drwy ein Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol, rydym yn mynd i’r afael â heriau amgylcheddol yn ogystal ag anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd. Mae’r prosiectau hyn yn cyd-fynd yn uniongyrchol â’n hamcanion effaith ehangach drwy feithrin cynaliadwyedd, lleihau costau ynni a chreu amgylchedd iachach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Eisiau dysgu mwy am sut rydym yn ysgogi effaith gadarnhaol yng Nghymru?

Darllenwch ein Hadroddiad Effaith cyntaf erioed.

Gadewch i ni gydweithio i adeiladu dyfodol cryfach, mwy cynaliadwy i bawb.

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.