Skip to content
Log in

Ydw i'n talu treth ar fy nghynilion?

Pattern made of household objects.

Yn y canllaw hwn

Pam mae hyn yn bwysig?  

Er mwyn manteisio i'r eithaf ar eich cynilion, mae angen i chi reoli'ch arian yn effeithlon. Bydd deall sut y gellir trethu cynilion yn eich helpu i ddewis cyfrif sy'n addas i chi.

Ydw i'n talu treth ar fy nghynilion?

Bob blwyddyn dreth, byddwch yn cael Lwfans Cynilo Personol (PSA). Dyma faint y gallwch ei ennill mewn llog ar eich cynilion cyn i chi dalu treth ar y llog rydych yn ei ennill.

 

Mae swm y lwfans yn dibynnu ar y math o drethdalwr.

  • nid yw trethdalwyr cyfradd ychwanegol (45%) yn cael lwfans
  • gall trethdalwyr cyfradd uwch (40%) ennill llog di-dreth blynyddol o £500  
  • gall trethdalwyr cyflog sylfaenol (20%) ennill £1,000 a llog di-dreth blynyddol o £1000  

Os nad ydych yn talu unrhyw dreth o gwbl, efallai y byddwch yn gallu ennill cymaint â £18,570 mewn llog cynilion cyn i chi dalu unrhyw dreth.

Ydw i'n talu treth ar fy Nghyfrif Cynilo Unigol (ISA)?  

Nid ydych yn talu treth:

  • ar y llog ar arian parod yn eich ISA hyd at £20,000 
  • ar yr enillion cyfalaf neu incwm o fuddsoddiadau mewn ISA

Sut mae'r dreth yn cael ei dalu?

Os ydych yn ennill llog dros eich lwfans, bydd CThEM yn newid eich cod treth, felly byddwch yn talu'r dreth yn awtomatig. Fel arfer, amcangyfrif yw hwn yn seiliedig ar y flwyddyn flaenorol.

 

Os byddwch yn cwblhau Ffurflen Dreth Hunanasesu, rhai i chi roi gwybod am unrhyw log a enillwyd ar eich cynilion yn y ffurflen hon.

 

Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi.  

A collective of 3 illustrated sparkle highlights together. (welsh)

Edrychwch ar ein canllawiau cynilo

Cyfres o ganllawiau y gellir eu darllen yn gyflym i'ch helpu i ddeall cynilion.