Deall y gwahanol fathau o forgeisi
Yn y canllaw hwn
Pam mae hyn yn bwysig?
Ceir llawer o wahanol fathau o forgeisi. Gall eu deall eich helpu i ddod o hyd i'r morgais priodol i chi.
Beth yw morgais?
Morgais yw swm o arian rydych yn ei fenthyca gan fenthyciwr i brynu cartref.
Pa fathau o forgeisi sydd ar gael a beth maent yn ei olygu?
Cyfradd sefydlog
Dyma pryd rydych yn cytuno talu'r un gyfradd llog am amser penodol, e.e 2 flynedd neu 5 mlynedd. Mae'n eich helpu i wybod faint y bydd angen i chi ei dalu bob mis.
Tracio
Gall eich taliad misol godi neu ostwng gyda morgais tracio. Bydd y swm yn dibynnu ar y gyfradd llog a osodwyd gan Fanc Lloegr.
Gostyngedig
Mae'r math hwn o forgais yn rhoi gostyngiad i chi ar gyfradd sylfaenol y benthyciwr. Mae hyn yn golygu eich bod yn talu llai o log ar eich morgais am gyfnod penodedig.
Cyfradd Amrywiadwy Safonol
Benthyciwr morgais sy'n gosod y Gyfradd Amrywiadwy Sylfaenol (SVR) ond gall newidiadau ym Manc Lloegr ddylanwadu arni. Gall y gyfradd llog godi neu ostwng.
Morgais gwrthbwyso
Mae morgais gwrthbwyso yn cysylltu'ch morgais a'ch cyfrifon cynilo. Mae'r arian yn eich cyfrif cynilo'n lleihau faint o log sydd angen i chi ei dalu ar eich morgais.
Llog yn unig
Gyda morgais llog yn unig, rydych ond yn talu'r llog ar y benthyciad bob mis.
Nid ydych yn ad-dalu'r swm gwirioneddol a fenthyciwyd. Mae hyn yn golygu nad yw swm eich morgais yn gostwng tra byddwch ar y math hwn o forgais.
Ad-dalu
Morgais ad-dalu yw pan fyddwch yn ad-dalu'r swm a fenthyciwyd gennych ar gyfer y tŷ (a elwir yn aml yn gyfalaf) a'r llog dros gyfnod penodol. Bob mis, byddwch yn gwneud ad-daliad sy'n mynd tuag at leihau'r benthyciad a thalu'r llog. Erbyn diwedd cyfnod y morgais, byddwch wedi ad-dalu'r benthyciad a'r llog yn llawn.
Prynu i Osod
Mae morgais prynu i osod ar gyfer rhywun sydd am brynu eiddo y bydd tenantiaid yn ei rentu.
Mae telerau morgeisi a chyfraddau llog morgeisi prynu i osod fel arfer yn wahanol i forgeisi preswyl cyffredin.
Llety Gwyliau
Mae morgais llety gwyliau ar gyfer rhywun sydd am brynu eiddo a'i rentu fel cartref gwyliau. Dyluniwyd y morgeisi hyn yn benodol ar gyfer eiddo a gaiff ei rentu yn y tymor byr gan bobl ar wyliau.
Morgais 95%
Mae morgais 95% yn eich caniatáu i brynu eiddo gyda blaendal o 5%. Wedyn, byddai angen i chi fenthyca 95% o werth yr eiddo. Cynigir y mathau hyn o forgeisi i brynwyr tro cyntaf fel arfer.
Morgais 100%
Mae morgais 100% yn golygu y gallwch fenthyca pris prynu llawn yr eiddo heb orfod gwneud blaendal. Mae'r mathau hyn o forgeisi'n brin ac nid yw llawer o fenthycwyr yn eu cynnig.
Cyd-fenthyciwr Un Perchennog
Dyma pryd y caiff un person ei restru fel perchennog yr eiddo, ond bod person arall yn cael ei enwi fel benthyciwr.
Mae'r ddau fenthyciwr yn rhannu cyfrifoldeb dros yr ad-daliadau, ond dim ond un person sy'n berchen ar yr eiddo.
Weithiau gall aelod hŷn o'r teulu fod yn gyd-fenthyciwr er mwyn helpu rhywun ifanc brynu cartref, gan y byddai'r swm y gellir ei fenthyca yn seiliedig ar y ddau incwm.
Mae'r mathau hyn o forgeisi'n debygol o fod yn gymorth dros dro i bobl sy'n cael trafferth cymhwyso ar gyfer meini prawf fforddiadwyedd. Gall y person sy'n berchen ar yr eiddo ei dynnu oddi ar y morgais yn y pen draw.
Llog ymddeol yn unig
Mae morgais llog ymddeol yn unig ar gyfer pobl hŷn sydd wedi ymddeol neu'n agosáu at oedran ymddeol.
Mae'n eich caniatáu i dalu dim ond y llog ar y benthyciad tra byddwch yn byw yn yr eiddo. Ad-delir y benthyciad fel arfer pan fyddwch yn gwerthu'r eiddo, yn symud i ofal tymor hir, neu'n marw.
Sut ydw i'n penderfynu pa forgais sy'n briodol i mi?
Dylech geisio cymorth ariannol annibynnol wrth ystyried morgais.
Gall ymgynghorydd neu frocer morgeisi eich helpu i benderfynu pa opsiwn sy'n briodol i chi, yn seiliedig ar eich anghenion unigol
Pa forgeisi y mae Principality yn eu cynnig?
Rydym yn cynnig pum math o forgais:
- Cyfradd sefydlog
- Gostyngol
- Tracio
- Prynu i Osod
- Llety Gwyliau
- Getting a mortgage
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.