Esbonio cyfraddau llog morgeisi
Yn y canllaw hwn
Beth yw cyfradd llog morgeisi?
Yn meddwl tybed sut mae cyfraddau llog morgeisi'n gweithio? Mae'r canllaw hwn yn ei ddadansoddi i chi. O'r cyfraddau cychwynnol i'r APRC, gadewch i ni eich helpu i ddeall yn union beth rydych chi'n ei dalu, a pham.
Cyfradd llog morgais yw'r hyn a godir arnoch gan fenthyciwr i fenthyca arian i brynu'ch cartref. Fe'i dangosir fel canran ac mae'n helpu i benderfynu faint fyddwch chi'n ei dalu bob mis (ac yn gyfan gwbl) dros oes eich morgais.
Dros amser mae angen i chi ad-dalu'ch benthyciwr y swm a fenthycwyd gennych, ynghyd â llog.
Mae'r cyfanswm rydych yn ei ad-dalu i'ch benthyciwr yn dibynnu ar gyfradd llog eich morgais. Po uchaf yw'r llog, y mwyaf rydych yn ei ad-dalu dros amser
A chofiwch y gall cyfraddau llog godi a gostwng; felly mae'n bwysig ystyried a allech fforddio taliadau misol uwch yn y dyfodol.
Pam mae gwahaniaethau rhwng cyfraddau llog?
Efallai y byddwch yn gweld bod cytundebau morgais gwahanol yn cynnig cyfraddau llog gwahanol. Mae hyn fel arfer oherwydd pethau fel:
- Hyd y cyfnod: am faint rydych yn cytuno gwneud ad-daliadau.
- Y gymhareb rhwng benthycad a gwerth (LTV): faint o werth yr eiddo rydych yn ei fenthyca.
- Ffactorau economaidd ehangach: fel cyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Beth yw cyfradd gychwynnol?
Y Gyfradd gychwynnol yw faint o log y byddwch yn ei dalu ar ddechrau eich cytundeb morgais. Os byddwch yn dewid morgais cyfradd sefydlog, bydd y gyfradd gychwynnol hon yn aros yr un fath am gyfnod eich cytundeb. (Er enghraifft, 2, 3, neu 5 mlynedd - ni waeth pa mor hir yw eich cytundeb sefydlog).
Ar ôl y cyfnod hwn byddwch fel arfer yn symud i gyfradd wahanol, oni bai eich bod yn newid i gytundeb newydd.
Dyma enghraifft:
Rydych yn cymryd morgais gwerth £200,000, wedi'i osod ar 4.93% am ddwy flynedd.
- Eich ad-daliadau misol fyddai £1,065.
- Ar ôl dwy flynedd, byddwch yn symud i'r gyfradd amrywiol safonol (SVR) oni bai eich bod yn newid i gytundeb newydd.
- Yn yr enghraifft hon, gadewch i ni ddychmygu bod yr SVR yn 5.95%. Byddai eich ad-daliadau misol yn codi i £1,192.
Beth yw cyfradd amrywiol safonol?
Cyfradd amrywiol safonol (SVR) yw'r gyfradd llog y byddwch yn newid yn awtomatig iddi pan ddaw eich cytundeb cychwynnol i ben; oni bai eich bod yn newid i gytundeb morgais newydd.
Mae pob benthyciwr yn gosod ei SVR ei hun a gall godi newu gostwng, ac mae newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr fel arfer yn dylanwadu ar y newidiadau hynny.
Pan fydd gennych forgais SVR gall eich taliadau morgais codi neu ostwng. Felly, mae'n bwysig cadw llygad ar y gyfradd SVR ac adolygu eich morgais yn rheolaidd.
Beth yw'r 'gost gyffredinol er mwyn cymharu' (APRC)?
Mae'r Gyfradd Tâl Ganrannol Flynyddol (APRC) yn dangos cyfanswm cost y morgais dros ei oes, wedi'i fynegi fel canran. Mae'n cynnwys:
- Y gyfradd llog gychwynnol
- Cyfradd amrywiol safonol (SVR) y benthyciwr
- Unrhyw ffioedd, fel ffioedd trefnu
Nod APRC yw eich helpu i gymharu cytundebau morgais o wahanol fenthycwyr mewn ffordd decach, yn enwedig gan y gall rhai cytundebau morgais gynnig cyfraddau rhagarweiniol isel deniadol.
Mae'n syniad da edrych ar yr APRC; nid dim ond cyfradd y pennawd. Nod yr APRC yw rhoi gwell syniad i chi o gyfanswm cost yr hyn rydych yn ei fenthyca.
Archwilio morgeisi Principality
Porwch ein hystod o forgeisi preswyl i weld pa gytundebau sydd ar gael ar hyn o bryd.
- Cael morgais
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.