Cau cyfrif ar ôl i rywun farw
Beth sydd angen i chi ei wneud
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhoi gwybod i ni fod deiliad cyfrif wedi marw.
Yna, os chi yw'r cynrychiolydd personol, byddwch yn gallu cau'r cyfrif. Dyma beth y dylech ei wneud:
Llenwch y ffurflen
Anfonwch y ffurflen wedi'i llenwi atom
Gallwch anfon y ffurflen drwy:
Ymweld â changen leol
E-bostio bereavement@principality.co.uk
Postio i'r Tîm Profedigaeth, Adeiladau Principality, Blwch Post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UACau'r cyfrif
Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i gau cyfrif cynilo, ISA, neu forgais yn dibynnu ar amgylchiadau pob cais. Byddwn yn eich diweddaru trwy gydol y broses.
Ffoniwch ni ar
0330 333 4000 os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Sut i lenwi'r ffurflen
Yn syml, cwblhewch yr adrannau sy'n berthnasol i'r balans ar y cyfrif:
Cyfanswm balans y cyfrif(on) | Adran i'w chwblhau | Dogfennau sydd ei hangen |
---|---|---|
£19,999 neu lai | Adran 1 a 5 | Mae Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Personol yn darparu dau fath o ddogfen adnabod (ID) a ffurflen gau wedi'i llofnodi. |
£20,000 i £39,999 | Adran 2, 3 a 5 | Mae Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Personol yn darparu dau fath o ddogfen adnabod (ID) a ffurflen gau wedi'i llofnodi a’i thystio gan Gyfreithiwr. |
£40,000 neu uwch neu pan gafwyd Profiant eisoes | Adran 4 a 5 | Mae Cynrychiolydd/Cynrychiolwyr Personol yn darparu dau fath o ddogfen adnabod (ID) a ffurflen gau wedi'i llofnodi a Phrofiant. |
Gwybodaeth am gau cyfrifon
Os ydych yn tynnu arian allan neu'n cau cyfrif cynilo fel Cynrychiolydd Personol byddwn ni angen:
• 1 math o brawf adnabod enw
• 1 math o brawf cyfeiriad
Gall y rhain fod yn ddogfen wreiddiol neu gopi. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom mwyach.
Os ydych chi'n aelod o Principality ni fydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod.
Os bydd deiliad cyfrif ISA yn marw, gall ei briod neu bartner sifil etifeddu'r lwfans ISA.
Mae gwerth y lwfans a etifeddir (a elwir hefyd yn Danysgrifiad Ychwanegol a Ganiateir neu APS) yn gyfwerth â gwerth y cronfeydd ISA yr oedd gan y cwsmer yn ei gyfrif(on) ISA.
Mae’n bosibl bod y rhain gyda nifer o wahanol ddarparwyr ISA.
Os ydych yn tynnu arian allan neu'n cau cyfrif cynilo fel Cynrychiolydd Personol byddwn ni angen:
• 1 math o brawf adnabod enw
• 1 math o brawf cyfeiriad
Gall y rhain fod yn ddogfen wreiddiol neu gopi. Nid oes angen copïau ardystiedig arnom mwyach.
Os ydych chi'n aelod o Principality ni fydd angen i chi ddarparu dogfennau adnabod.
Rydym yn derbyn y mathau canlynol o ddogfennau adnabod:
• Pasbort y DU cyfredol wedi'i lofnodi
• Trwydded yrru lawn y DU gyfredol wedi'i llofnodi (derbynnir hen drwydded yrru bapur hefyd)
• Pasbort nad yw'n un yr UE a Fisa ddilys.
• Cerdyn Adnabod aelod-wladwriaeth yr UE/Pasbort yr UE.
• Hysbysiad Treth Cyllid a Thollau EF (o dan 12 mis oed, nid hunanasesiad)
• Hysbysiad o bensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cadarnhau'r hawl i fudd-daliadau (o dan 12 mis)
Rydym yn derbyn y dogfennau canlynol fel prawf o gyfeiriad:
• Bil nwy a thrydan (o dan 3 mis oed)
• Bil Treth Awdurdod Lleol (o dan 12 mis oed)
• Llythyr gan Adran y Llywodraeth ynghylch eich materion personol (o dan 12 mis oed)
• Llythyrau swyddogol oddi wrth gartref gofal neu nyrsio yn cadarnhau preswylfa (o dan 12 mis oed)
• Datganiad morgais (o dan 12 mis oed)
• Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau cwblhau prynu tŷ neu gofrestru tir ynghyd â phrawf o gyfeiriad blaenorol (o dan 6 mis oed)
• Bil dŵr (o dan 12 mis oed)
• Cytundeb tenantiaeth Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai (o dan 12 mis oed)
• Cyfriflen Banc, Cymdeithas Adeiladu (cynilion) neu gerdyn credyd (o dan 3 mis oed heb ei argraffu o dudalen ar-lein)
Rydym yma i’ch cefnogi
Os ydych eisiau gofyn cwestiwn penodol i ni neu os oes angen cymorth arnoch gyda'r camau nesaf, cysylltwch â ni.
E-bost: bereavement@principality.co.uk
Ffôn: 0330 333 4000
Mae’n bosibl y bydd eich cartref yn cael ei adfeddiannu os na fyddwch yn talu’r ad-daliadau ar eich morgais