Diweddaru eich dewisiadau marchnata
Cadw eich manylion yn gyfredol
Rydym am allu parhau i rannu manylion ein cynhyrchion a'n gwasanaethau y credwn y bydd gennych ddiddordeb ynddynt. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ein cynhyrchion morgais a chyfrifon cynilo a mwy.
Drwy gadw'ch manylion yn gyfredol, gallwn sicrhau ein bod yn anfon atoch yr ohebiaeth rydych chi ei heisiau, yn y fformat rydych chi'n ei hoffi. Mae hyn yn cynnwys post, negeseuon e-bost, negeseuon testun neu dros y ffôn.
Rhesymau dros gadw mewn cysylltiad
-
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
Clywch am ein cynnyrch a gwasanaethau diweddaraf a allai fod o ddiddordeb i chi.
-
Dewisiadau personol
Penderfynwch yn union sut yr hoffech i ni gadw mewn cysylltiad â chi.
-
Mae cymuned yn bwysig
Clywch sut yr ydym yn helpu i adeiladu cymdeithas decach.
-
Chi sy'n rheoli
Newidiwch sut rydym yn cysylltu â chi unrhyw bryd.
Sut i ddiweddaru eich dewisiadau marchnata
Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau marchnata drwy:
- Fynd i'ch cangen leol.
- Ffonio ni: 0330 333 4000.
- Mewngofnodi i'ch proffil ar-lein.
Diweddaru eich cyfeiriad e-bost
Dim ond un cyfeiriad e-bost y gallwn ei ddefnyddio ar gyfer ein holl ohebiaeth. Mae'n rhaid i'r cyfeiriad e-bost hwn fod yn eiddo i chi yn unig, ac nid yn cael ei ddefnyddio ar y cyd â neb arall.
Os oes angen i chi newid y cyfeiriad e-bost hwn bydd angen i chi ein ffonio ni ar 0330 333 4000.
Unrhyw gwestiynau?
Gweler ein Cwestiynau Cyffredin isod.
Gallwch ddiweddaru eich dewisiadau unrhyw bryd.
Bydd cyfarwyddiadau ar sut i ddiweddaru eich dewisiadau yn yr ohebiaeth y byddwn yn ei hanfon atoch.
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i newid eich dewisiadau. Efallai y byddwch yn dal i gael gohebiaeth farchnata yn ystod y cyfnod hwnnw.
Negeseuon diogel
Byddwn yn anfon neges e-bost atoch i roi gwybod bod gennych neges ddiogel. Gallwch ddarllen y neges ddiogel hon drwy fewngofnodi i'ch proffil ar-lein.
Bydd y neges hon yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi diweddaru eich manylion personol.
Sylwch: Dim ond os gwneir newidiadau drwy eich proffil ar-lein y mae'r cadarnhad hwn ar gael.
Ffonio ni
Os gwnaethoch eich newidiadau yn y gangen neu dros y ffôn, gallwch ein ffonio i gadarnhau a yw eich manylion wedi'u diweddaru.
Ffoniwch: 0330 333 4435
Yn y gangen
Gall aelodau fynd i'w cangen leol i gadarnhau a yw eu dewisiadau wedi'u diweddaru.
Rydym yn cyfyngu ar nifer yr ohebiaeth a anfonwn. Ni ddylech gael mwy nag un gohebiaeth farchnata bob 4 wythnos.
Gallwch. Gallwch optio allan unrhyw bryd.