Skip to content

Cymorth morgeisi

Cymorth morgeisi

Rheoli morgais Principality

Tymor eich morgais yw nifer y blynyddoedd y gwnaethoch gytuno i dalu’r benthyciad a fenthycwyd gennych pan wnaethoch gymryd eich morgais gyda ni am y tro cyntaf.
 
Gallwch ddewis gwneud eich tymor yn hirach neu'n fyrrach. Bydd hyn yn cael effaith ar eich taliadau morgais misol. Bydd unrhyw gytundeb addasu tymor yn amodol ar ein meini prawf benthyca a fforddiadwyedd.
 
Cysylltwch â ni i drafod unrhyw newidiadau i dymor eich morgais.

Gallwch ofyn am eich balans terfynol mewn un o ddwy ffordd:

Os oes gennych forgais Principality gallwch ei reoli ar-lein drwy greu proffil ar-lein. Gallwch hefyd reoli eich morgais Principality dros y ffôn ar 0330 333 4000, neu drwy fynd i'ch cangen leol.  

Efallai y bydd angen tystysgrif llog morgais (MIRA 5) arnoch at ddibenion treth. Mae’n rhoi manylion y llog a godwyd ar eich cyfrif morgais yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol. Sylwch na allwn ddangos tystysgrif llog morgais ar gyfer treth a dalwyd nes bod y flwyddyn dreth berthnasol wedi dod i ben.
 
Ffoniwch ni ar 0330 333 4000 os oes angen tystysgrif llog morgais arnoch.

Er mwyn newid eich manylion debyd uniongyrchol, gallwch naill ai: 

Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein, os ydych wedi creu proffil ar-lein. Dewiswch ‘Gweld manylion personol’ o’r ddewislen ‘Eich manylion’ a dilynwch y cyfarwyddiadau. Os ydych wedi bod yn gwsmer gyda Principality am lai na 3 mis, efallai y bydd angen i chi anfon un math brawf adnabod eich cyfeiriad atom hefyd.

 

Os nad oes gennych broffil ar-lein, gallwch fynd i gangen neu ffonio ni ar 0330 333 4000.  

 

I ddiweddaru eich enw, gallwch naill ai ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod neu fynd i'ch cangen neu asiantaeth leol.  Bydd angen i ni weld y ddogfen newid enw wreiddiol. Gallai fod eich: 

  • Tystysgrif Priodas
  • Archddyfarniad Absoliwt
  • Gweithred Newid Enw (Gweithred Unrhan) 

Os oes gennych gyfrif cynilo gyda Principality hefyd, cofiwch ddod â’ch paslyfr os byddwch yn ymweld â ni yn y gangen. 

 

Ysgrifennwch atom: Principality Building Society, PO Box 89, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.

Lawrlwythwch ein telerau ac amodau morgeisi i ddeall amodau ein morgeisi. 

Os ydych am ychwanegu rhywun at eich morgais neu dynnu rhywun oddi arno, rhaid i chi ymgeisio eilwaith am gytundeb newydd.

  • Gallwch ailforgeisio gyda ni neu ddewis benthyciwr newydd. 
  • Os byddwch yn ailforgeisio gyda ni, rhaid i chi basio ein meini prawf benthyca a gwiriadau fforddiadwyedd.
  • Ni fydd angen i chi dalu cost ad-dalu'n gynnar.

Ystyriwch siarad â chynghorydd ariannol annibynnol i'ch helpu i wneud eich penderfyniad.

Peidiwch â chynhyrfu os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch taliadau morgais. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu. Siaradwch â ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn eich cefnogi i ddatrys y peth.

 

Ceisiwch gwblhau cynllunydd cyllidebu morgeisi cyn cysylltu â ni. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu'r opsiynau cymorth gorau i chi yn seiliedig ar eich amgylchiadau. Yna, gallwch naill ai:

  • Anfon eich ffurflen wedi'i chwblhau i customersupportteam@principality.co.uk
  • Postio'ch ffurflen i Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, Heol Tŷ’r Brodyr, Caerdydd, CF10 3FA. 
  • Ffonio ni ar 0330 333 4020 a gallwn drafod eich sefyllfa dros y ffôn.

Eich cyfriflen morgais

Mae pryd y byddwch yn cael cyfriflen morgais yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych.

  • Os codir eich llog yn ddyddiol, byddwn yn anfon cyfriflen atoch bob blwyddyn ar ben-blwydd eich dyddiad cwblhau.
  • Os codir eich llog yn flynyddol, byddwn yn anfon cyfriflen atoch bob mis Ionawr.
  • Os oes gennych forgais hyblyg, byddwn yn anfon cyfriflen atoch bob chwe mis.

Cyfriflenni ad-daliad morgeisi

Os ydych yn ailforgeisio, neu os ydych am ad-dalu’ch morgais yn llawn, efallai y bydd angen cyfriflen ad-daliad arnoch. Mae’n ddogfen sy’n dweud wrthych faint sydd gennych ar ôl i’w dalu ar eich morgais, gan gynnwys unrhyw log sy’n ddyledus ac unrhyw ffioedd. Gallwch ofyn am gyfriflen ad-daliad mewn ychydig o ffyrdd:

Gwneud cais am forgais

Mae cost arolygon a ffioedd prisio yn dibynnu ar bris prynu eich eiddo. Lawrlwythwch ein ffioedd Arolygon a Phrisiadau i weld dadansoddiad o'n ffioedd. 

Rydym yn defnyddio system ddilysu electronig i gadarnhau pwy ydych chi. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyna'r cyfan sydd angen i ni ei wneud. Fodd bynnag, weithiau efallai y bydd angen i ni ofyn am brawf adnabod ychwanegol. Ac efallai na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â chais am forgais oni fyddwch yn gallu darparu prawf addas o’ch enw a’ch cyfeiriad.

Os na allwn eich adnabod gan ddefnyddio ein system ddilysu electronig, byddwn yn gofyn i chi am rai dogfennau ychwanegol er mwyn helpu i brofi pwy ydych a'ch cyfeiriad. Fel arfer byddwn yn gofyn am o leiaf ddau fath o brawf adnabod: un i gadarnhau eich enw ac un i gadarnhau eich cyfeiriad. Mae rhai enghreifftiau cyffredin o ddogfennau a ddefnyddir yn cynnwys pethau fel:

I gadarnhau eich enw

  • Pasbort cyfredol y DU wedi'i lofnodi
  • Trwydded yrru lawn gyfredol y DU neu drwydded bapur wedi'i llofnodi
  • Cerdyn Adnabod aelod-wladwriaeth yr UE/Pasbort yr UE  
  • Pasbort nad yw o’r UE a Fisa dilys

I gadarnhau eich cyfeiriad

  • Bil nwy a thrydan diweddar (llai na 3 mis oed)
  • Bil dŵr diweddar (llai na 12 mis oed) 
  • Bil treth awdurdod lleol diweddar (llai na 12 mis oed)

Rydym hefyd yn derbyn mathau eraill o brawf adnabod. I gael rhestr lawn o ddogfennau adnabod y gallwn eu derbyn, lawrlwythwch ein taflen sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Mae sawl ffordd o drefnu apwyntiad morgais heb rwymedigaeth.

Lawrlwythwch ein dogfen tariff taliadau i ddeall unrhyw ffioedd a fydd yn cael eu cynnwys pan fyddwch yn cymryd morgais gyda ni.

Rydym wedi ymrwymo i helpu mwy o brynwyr tro cyntaf gamu ar yr ysgol dai. Mae gennym ddetholiad o adnoddau a chynhyrchion i helpu. Darllenwch ein canllawiau sydyn i brynwyr tro cyntaf neu porwch ein morgeisi cyfredol i brynwyr tro cyntaf.  

Mae cyfrifoldeb arnom i gadarnhau pwy ydych pan fyddwch yn cymryd morgais gyda ni. Fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i atal troseddau ariannol a gwyngalchu arian.

Mae sawl ffordd o wneud cais am forgais gyda ni.

Mae ein canolfan gyswllt ar agor Monday to Friday 9:30am - 5pm and Saturday 9am - 1pm. Mae gennym ganghennau ledled Cymru a’r gororau.  Dewch o hyd i'ch cangen leol

Credwn fod pawb yn haeddu lle i'w alw'n gartref. Dyna pam rydym yn ceisio bod yn hyblyg gyda’n meini prawf benthyca. Bydd angen i chi fodloni ychydig o feini prawf hanfodol, fel

  • Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf
  • Rhaid bod gennych hanes cyfeiriad o 3 blynedd yn y DU

Rhaid i chi hefyd fod naill ai 

  • yn ddinesydd yn y DU
  • yn ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sy’n byw yn y DU gyda hawl gyfreithiol barhaol I fyw yn y DU, statws preswylydd cyn-sefydlog, neu statws preswylydd sefydlog ar adeg eich cais
  • yn ddinesydd o’r tu allan i’r AEE sy’n byw yn y DU gyda chaniatâd amhenodol i aros neu hawl preswylio sy’n weddill o fwy na 2 flynedd

Hyd yn oed os ydych yn meddwl efallai nad ydych yn gymwys i gael morgais, mae'n bosibl y gallwn helpu. Siaradwch â'n harbenigwyr morgeisi am gyngor.

Mae cyfrifoldeb arnom i gadarnhau pwy ydych chi pan fyddwch yn gwneud cais am forgais. Fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i atal troseddau ariannol a gwyngalchu arian.

Taliadau a gordaliadau

Mae tair ffordd wahanol o ad-dalu eich morgais. 
 

  • Ad-daliadau: Bydd rhan o'ch taliad misol yn talu rhan o'r cyfalaf (y swm y gwnaethoch chi ei fenthyca) a bydd rhan o'ch taliad misol yn llog (y llog misol ar y swm y gwnaethoch ei fenthyca). Os bydd yr holl daliadau yn cael eu gwneud ar amser, bydd y benthyciad wedi ei ad-dalu ar ddiwedd cyfnod y morgais. 
     
  • Llog yn unig: Bydd eich taliadau misol yn cyfrannu tuag at dalu'r llog misol yn unig ar y swm y gwnaethoch ei fenthyca. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn talu dim o'r ‘cyfalaf’ (y swm y gwnaethoch ei fenthyca) yn ystod cyfnod eich morgais, felly ar ddiwedd cyfnod y morgais bydd y swm y gwnaethoch ei fenthyca i ddechrau yn dal i fod yn ddyledus yn llawn. Fel benthyciwr, rydych yn cymryd y cyfrifoldeb llawn am sicrhau bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y cyfnod. Gwneir hyn fel arfer drwy fod â rhyw fath o fuddsoddiad a fydd, pan fydd yn aeddfedu, yn talu'r swm gwreiddiol y gwnaethoch chi ei fenthyca. 
     
  • Rhannol ad-daliadau/llog yn unig: Cymysgedd o'r ddau fath uchod o daliadau morgais, bydd rhan o'ch morgais yn ad-daliadau a bydd rhan o'ch morgais yn llog yn unig. 

Cewch ddewis talu eich morgais yn llawn. Byddwn yn codi Ffi Gadael Morgais yn Gynnar safonol ac mae'n bosibl y bydd angen i chi dalu Tâl Ad-dalu'n Gynnar hefyd.  
 
Cewch ad-dalu hyd at 10% ychwanegol o'r balan sy'n weddill ar eich morgais bob blwyddyn. Ond os ydych yng nghyfnod ad-daliadau cynnar eich cytundeb morgais, bydd unrhyw daliadau a wnewch uwchlaw'r terfyn blynyddol o 10% yn destun Tâl Ad-dalu'n Gynnar. Mae gan bob cynnyrch morgais ei delerau a'i amodau ei hun felly i weld a fyddwch yn destun Tâl Ad-dalu'n Gynnar, cyfeiriwch at y rhan ‘Ad-dalu'n Gynnar’ yn eich cynnig morgais. 
 
Mae rhagor o wybodaeth yn ein tariff o daliadau

Mae sawl ffordd o drefnu i wneud gordaliad: 

  • Sefydlu archeb sefydlog 
  • Gwneud taliad dros y ffôn 
  • Arian parod neu siec yn unrhyw un o'n canghennau 
  • Postio siec atom 
  • Trosglwyddiad banc ar-lein 

Os byddwch yn gwneud gordaliad yn uniongyrchol o'ch banc, defnyddiwch y manylion hyn: 

Cyfrif Personol: Eich enw fel y mae'n ymddangos ar eich cyfrif morgias
Rhif Cyfrif: 90653535 
Cod Sortio: 20-18-23 
Cyfeirnod: Eich rhif cyfriif morgais Principality unigryw (heb gynnwys unrhyw gysylltnodau)

Cewch wneud gordaliadau ar unrhyw forgais Principality. Gall gordalu helpu i leihau balans eich morgais a'r swm o arian y byddwch yn ei dalu dros amser. Mae hynny oherwydd y bydd gwneud gordaliad yn newid cyfanswm y swm sy'n ddyledus gennych. Bydd felly yn newid y swm o log y bydd eich morgais yn ei gronni. Pan fyddwch yn gwneud gordaliad, byddwn yn ailgyfrifo'r ffigurau hyn ar unwaith. 

 

Cewch ad-dalu hyd at 10% ychwanegol o falans eich morgais bob blwyddyn. Bydd y swm y cewch ei ordalu yn 10% o un o'r canlynol: 

  • Cyfanswm y swm a oedd yn dal i fod yn ddyledus gennych ar Ionawr y 1af yn y flwyddyn gyfredol. 
  • Cyfanswm y swm a oedd yn ddyledus ar y dyddiad y dechreuodd eich morgais (os y dechreuodd eich morgais ar ôl Ionawr y 1af eleni).

Bydd eich ad-daliadau misol ar eich morgais yn aros yr un fath (oni bai eich bod yn gofyn i ni eu newid). 

Os ydych yng nghyfnod ad-daliadau cynnar eich cytundeb morgais, bydd unrhyw daliadau a wnewch uwchlaw'r terfyn 10% hwn yn destun Tâl Ad-dalu Cynnar. Mae'r swm hwn i'w weld yn y rhan “Ad-dalu cynnar” o'ch cynnig morgais. 
 
Cewch ordalu ar sawl morgais os oes gennych fwy nag un morgais gyda ni. Mae ein rheolau gordalu yn gymwys i bob morgais yn unigol. 

Cewch wneud gordaliadau ar unrhyw forgais Principality. Gall gordalu helpu i leihau balans eich morgais a'r swm o log y byddwch yn ei dalu dros amser.  

 

Cewch ad-dalu 10% ychwanegol o weddill balans eich morgais bob blwyddyn. Bydd y swm y byddwch yn ei ordalu yn 10% o un o'r canlynol: 

  • Cyfanswm y swm a oedd yn dal i fod yn ddyledus gennych ar Ionawr y 1af yn y flwyddyn gyfredol.
  • Cyfanswm y swm a oedd yn ddyledus ar y diwrnod y dechreuodd eich morgais (os y dechreuodd ar ôl Ionawr y 1af eleni).

Os ydych yng nghyfnod ad-daliadau cynnar eich cytundeb morgais, bydd unrhyw daliadau a wnewch uwchlaw'r terfyn hwn o 10% yn destun Tâl Ad-dalu'n Gynnar. Mae'r swm yn y rhan “Ad-dalu'n gynnar” eich cynnig morgais. 

I newid i ddebyd uniongyrchol dylech lawrlwytho, llenwi a dychwelyd ein ffurflen Mandad Debyd Uniongyrchol Morgais
 
Cewch hefyd ffonio 0330 333 4000 i ofyn am ffurflen, neu fynd i'ch cangen leol.  

Cewch wneud ad-daliad morgais ar-lein drwy drosglwyddiad banc, oni bai bod gennych fwy nag un cyfrif morgais gyda ni. Os oes gennych fwy nag un morgais Principality ffoniwch ni i wneud y taliad.  

 

I wneud taliad morgais ar-lein defnyddiwch y manylion hyn

Rhif Cyfrif: 90653535 
Cod Sortio: 20-18-23 
Cyfeirnod: Rhif Eich Cyfrif Morgais (heb gynnwys y cysylltnodau) 

 

Pwy ydych chi'n ei dalu? Bydd rhai banciau yn gofyn a ydych yn anfon arian i gyfrif personol neu gyfrif busnes. I wneud ad-daliad morgais, dewiswch ‘busnes’. 
 
Enw'r talai:  Defnyddiwch yr enw cofrestredig ar ein cyfrif: Principality Building Society.  
 
Banc sy'n derbyn:  Gan ein bod yn gymdeithas adeiladu, rydym yn defnyddio banc Barclays fel ein darparwr bancio. Peidiwch â phoeni felly os welwch chi enw Barclays yn ymddangos fel y banc derbyn pan fyddwch yn gwneud ad-daliad morgais. 

Pan fydd eich morgais yn cael ei sefydlu, caiff yr arian i brynu neu ailforgeisio eich eiddo ei anfon i'ch cyfreithiwr i'w dosbarthu. Bydd y morgais yn dechrau o'r adeg hon, ond ni ofynnir i chi wneud eich taliad misol cyntaf tan fydd y debyd uniongyrchol wedi'i sefydlu. Gall hyn for hyd at ddau fis wedi i'r arian gael ei ryddhau ar gyfer prynu'r eiddo. 
 
Yn ystod yr adeg hon, byddwch wedi derbyn yr arian ond ni fyddwch wedi gwneud taliad misol eto, felly mae llog yn cronni. 'Croniad' y gelwir y swm cychwynnol hwn o log. Gellir talu'r llog hwn cyn eich taliad misol cyntaf neu gyda'ch taliad debyd uniongyrchol misol cyntaf. 

Cyfradd Amrywiol Safonol a Chyfradd Sylfaenol Morgeisi

Mae sut mae newidiadau i SVR yn effeithio ar eich morgais yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych:

Mae gen i Forgais Cyfradd Sefydlog

Bydd eich ad-daliad misol yn aros yr un fath nes i chi gyrraedd diwedd eich cyfradd sefydlog. Yn ystod y cyfnod hwn ni fydd swm eich ad-daliad yn mynd i fyny nac i lawr yn dilyn newidiadau yn ein SVR. Felly bydd gennych y sicrwydd o wybod yn union faint sydd angen i chi ei dalu bob mis. Bydd eich llythyr cynnig yn egluro am ba mor hir y bydd eich cyfradd sefydlog yn berthnasol.

 
Ar ddiwedd eich cyfradd sefydlog, bydd eich cyfradd llog yn newid i'n SVR, ar yr amod nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall.

Mae gen i Forgais Gostyngol

 

Mae eich cyfradd llog yn amrywiol ac yn cael ei ostwng yn erbyn ein SVR am gyfnod penodol o amser. Mae hyn yn golygu os bydd yr SVR yn newid, gallai eich ad-daliadau misol fynd i fyny neu i lawr. Bydd eich llythyr cynnig yn egluro am ba mor hir y bydd eich cyfradd ostyngol yn berthnasol.

Ar ddiwedd eich cyfradd ostyngol, bydd eich cyfradd llog yn newid i'n SVR, ar yr amod nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall.

Mae gen i Forgais Tracio

Mae eich cyfradd llog yn amrywiol ac mae'n 'tracio' Cyfradd Banc Banc Lloegr tan ddiwedd y tymor cychwynnol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr yn cael effaith ar eich cyfradd llog.
 
Gallai eich taliadau misol fynd i fyny neu i lawr yn dibynnu ar y newid. Bydd eich llythyr cynnig yn egluro’r gyfradd llog, sut y caiff ei thracio, a pha mor hir y bydd eich cyfradd llog yn ei thracio. 

Ni fyddai newidiadau i'n SVR yn golygu newid yng nghyfradd llog eich morgais tracio, gan nad yw ein SVR a Chyfradd Banc Banc Lloegr wedi'u cysylltu'n uniongyrchol.


Ar ddiwedd eich tymor cychwynnol, bydd eich cyfradd llog yn newid i'n SVR, ar yr amod nad ydych wedi newid i gynnyrch morgais arall. Byddwn yn eich atgoffa cyn i'ch cyfradd olrhain ddod i ben.

Rydw i ar SVR ar hyn o bryd

Bydd eich swm ad-daliad misol yn mynd i fyny neu i lawr yn unol â newidiadau i'n SVR. Os bydd SVR yn newid, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y newid a sut mae’n effeithio ar eich ad-daliadau. Byddwch yn clywed gennym o leiaf 5 diwrnod cyn y bydd eich ad-daliad nesaf yn ddyledus. 

Mae’n bosibl y bydd gan eich morgais Principality ‘gyfradd sylfaenol.’ Dyma’r gyfradd llog isaf y byddwch yn ei thalu ar y benthyciad morgais. Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae eich llythyr cynnig yn esbonio’r gyfradd isaf a pha mor hir y caiff ei gymhwyso i’ch benthyciad morgais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am SVR cysylltwch â ni

Mae Banc Lloegr yn gosod ac yn rheoli’r gyfradd llog sylfaenol ar gyfer y DU. Dyma'r gyfradd y bydd yn rhoi benthyg i sefydliadau ariannol. Byddwch yn ei chlywed yn cael ei galw’n ‘gyfradd sylfaenol’ neu’n ‘gyfradd banc.’

Os bydd y gyfradd sylfaenol yn codi, bydd cyfraddau banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn cynyddu hefyd, oherwydd bod cost benthyca wedi mynd yn ddrutach.  
 

Fodd bynnag, mae sut rydym yn gosod ein cyfraddau hefyd yn dibynnu ar newidiadau yn y farchnad a'r hinsawdd economaidd. Felly mae’n bosibl y byddwn yn cynyddu neu’n gostwng ein cyfraddau amrywiol (gan gynnwys SVR) y tu allan i newidiadau i’r gyfradd sylfaenol. A phan fydd y gyfradd sylfaenol yn newid, ni fyddwn o reidrwydd yn newid ein cyfraddau ein hunain.

Os yw eich ad-daliadau yn newid am unrhyw reswm, byddwn bob amser yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi.

Os oes gennych forgais Tracio, mae eich cyfradd llog yn amrywiol ac mae'n 'tracio' Cyfradd Banc Banc Lloegr tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr yn cael effaith ar eich cyfradd. Felly gallai eich taliadau misol fynd i fyny neu i lawr yn dibynnu ar y newid. Ni fyddai newidiadau i'n SVR yn golygu newid yng nghyfradd eich morgais tracio, gan nad yw ein SVR a Chyfradd Banc Banc Lloegr wedi'u cysylltu'n uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw fath arall o forgais gyda ni, ni fydd newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr yn effeithio’n uniongyrchol ar eich cytundeb. Fodd bynnag, efallai y bydd newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr yn dylanwadu ar y newidiadau a wnawn i'n SVR.

 

Mae eich llythyr cynnig yn esbonio sut mae cyfradd eich morgais yn gweithio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni

Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR) yw'r gyfradd llog y mae benthyciwr morgeisi yn ei ddefnyddio ar gyfer ei forgais safonol. Yr SVR yw ein cyfradd llog arferol heb unrhyw ostyngiad na chytundeb. Gall gynyddu, am y rhesymau a nodir yn ein telerau ac amodau, neu ostwng yn ôl ein disgresiwn ni. 
 
Bydd unrhyw newidiadau fel arfer (ond nid bob tro) oherwydd newidiadau i Gyfradd Banc Banc Lloegr. (Byddwch hefyd yn ei glywed yn cael ei alw'n gyfradd sylfaenol). SVR Principality ar hyn o bryd yw 7.60%. 

Os bydd eich taliad misol yn newid o ganlyniad i newid i Gyfradd Banc Banc Lloegr, byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’r manylion.

 

  • Os ydych yn talu drwy debyd uniongyrchol: byddwn yn casglu eich swm misol newydd yn awtomatig ar y dyddiad talu a ddangosir yn eich llythyr.
  • Os ydych yn talu drwy archeb sefydlog: cysylltwch â'ch banc i newid swm eich archeb sefydlog o'r dyddiad y mae eich taliad misol newydd yn ddyledus. Ni allwn newid eich archeb sefydlog ar eich rhan.
  • Os ydych yn talu drwy arian parod neu siec: newidiwch eich taliad i'r swm newydd o'r dyddiad y mae'r taliad yn ddyledus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am SVR, cysylltwch â ni

Dod â morgais Principality i ben

Mae'n ddrwg gennym glywed am eich newyddion trist

Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd. Pan fydd rhywun yn marw, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i reoli'r arian. Dyma sut y byddwn yn eich cefnogi pan fydd rhywun yn marw.  

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Ffi Ad-dalu’n Gynnar (ERC) os byddwch yn newid eich cytundeb morgais yn gynnar. Bydd hyn yn dibynnu ar a ydych yn dal yn y cyfnod talu ffioedd ad-dalu'n gynnar eich cytundeb morgais presennol.

Mae ein ffioedd ad-dalu'n gynnar yn dibynnu ar eich ‘Cyfnod Cyfradd Gychwynnol’ – am ba hyd y cytunir ar eich cytundeb morgais.

Ar gynnyrch cyfradd sefydlog, mae'r ffi ad-dalu'n gynnar yn lleihau dros amser yn ystod eich cytundeb. Bydd eich ffi ad-dalu'n gynnar yn cael ei chyfrifo fel canran o'r swm a ad-dalwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Tymor y gyfradd gychwynnol

Sefydlog 1 flwyddyn Sefydlog 2 flynydd Sefydlog 3 blynedd Sefydlog 4 blynedd Sefydlog 5 mlynedd
2 flynedd 2.00%  1.5%       
3 blynedd 3.00%  2.00%  1.00%     
5 mlynedd 5.00%  5.00%  3.00%  3.00%  1.00% 

 

Ar gyfer cynhyrchion cyfradd amrywiol (gostyngiadau a morgeisi tracio), mae gennym ffi ad-dalu'n gynnar unffurf o 1% drwy gydol cyfnod y cynnyrch morgais.

 

Pan fydd eich cytundeb morgais Principality i fod i ddod i ben, byddwn yn cysylltu â chi o leiaf chwe wythnos cyn y dyddiad aeddfedu. Byddwn yn dweud wrthych pa gytundebau sydd ar gael i chi newid iddynt. Gallwch hefyd bori'r cytundebau  sydd ar gael gennym ar-lein

 

Gallwch ddewis cael cyngor gennym ar y cytundeb mwyaf addas, neu gallwch ddewis drosoch eich hun a rhoi gwybod i ni pa gytundeb morgais yr hoffech newid iddo. 

 

Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn pwyso a mesur yr opsiynau hyn cyn penderfynu sut i newid. Edrychwch ar sut i newid eich morgais

 

Os byddwch yn gwneud dim: Os bydd eich cytundeb morgais yn dod i ben ac nad ydych yn dewis cytundeb newydd, byddwn yn eich symud i'n SVR. Bydd y llog ar weddil balans eich morgais yn cael ei godi ar ein Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR).  

Os daw eich cytundeb morgais i ben ac nad ydych yn dewis cytundeb newydd, byddwch yn symud i'n SVR neu gyfradd SVR ostyngol (a elwir hefyd yn ddychweliad fesul cam).

Ar ddiwedd eich cyfnod SVR gostyngol byddwch wedyn yn symud i'n cyfradd amrywiol safonol. Gall cyfraddau amrywiol newid, felly gall eich taliadau godi neu ostwng yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adran ar gyfradd sylfaenol ac SVR isod.

Cymorth i symud cartref

Cewch gadw eich cytundeb morgais presennol a'i drosglwyddo i'ch eiddo newydd pan fyddwch yn symud. Gelwir hyn yn trosglwyddo, a gellir trosglwyddo y rhan fwyaf o'n cytundebau morgais.  

I drosglwyddo eich morgais i eiddo newydd, bydd angen trefnu apwyntiad gydag un o'n cynghorwyr i fynd trwy proses gais newydd. Gallwch: 

Ni fyddwch yn gymwys i drosglwyddo eich morgais presennol i eiddo newydd: 

  • Os yw'r eiddo newydd y tu allan i Gymru a Lloegr 
  • Os nad ydych yn bodloni ein meini prawf benthyca pan fyddwch yn gwneud cais i drosglwyddo eich morgais 
  • Os nad trosglwyddo eich morgais yw'r dewis gorau sydd ar gael i chi 
  • Os nad yw'r eiddo newydd yn bodloni ein meini prawf benthyca 
  • Os ydych eisiau trosglwyddo'r morgais i eiddo yr ydych eisoes yn berchen arno 
  • Os ydych yn dewis peidio â throsglwyddo eich morgais ar ei delerau presennol 
  • Os oes gennych forgais hyblyg (gan nad ydym yn cynnig y cynhyrchion hyn mwyach) 

Ni fydd unrhyw ysgogiadau a gawsoch yn rhan o'ch cynnig morgais gwreiddiol, er enghraifft prisiad am ddim, arian parod yn ôl neu gyngor cyfreithiol am ddim yn berthnasol pan fyddwch yn trosglwyddo i'ch cartref newydd. Os oes gennych forgais hyblyg gallwch ffonio 0330 333 4002 i drafod eich opsiynau. 

Cewch leihau swm y morgais pan fyddwch yn ei drosglwyddo. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd Tâl Ad-dalu'n Gynnar yn gymwys i weddill balans eich morgais presennol. 

Mae gwybodaeth am daliadau ad-dalu'n gynnar ar eich cytundeb presennol i'w gweld yn y rhan ‘Ad-dalu'n gynnar’ o ddogfen eich cynnig. I wybod mwy edrychwch ar ein rheolau trosglwyddo

Os oes angen morgais mwy arnoch pan fyddwch yn symud, cewch ychwanegu at eich morgais presennol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r cytundeb mwyaf addas.  

 

Byddwn yn gofyn i chi ddewis cynnyrch morgais arall o'r dewis o gynhyrchion sydd ar gael gennym ar y pryd. Bydd hyn yn cynnwys y swm ychwanegol y byddwch eisiau ei fenthyca, a bydd telerau'r cynnyrch newydd ond yn gymwys i'r swm ychwanegol y byddwch yn ei fenthyca. 
 
Mae benthyca mwy yn amodol ar gael eich derbyn. I wybod mwy edrychwch ar ein rheolau trosglwyddo

Rhentu, gwerthu a benthyca mwy

Os ydych eisiau benthyca ychydig yn fwy ar ben eich morgais, gallwn ni helpu i wneud i hynny ddigwydd. 
 
Bydd angen i chi drafod hyn gyda ni a mynd trwy broses ymgeisio. Darllenwch am fenthyca mwy.  
 

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod:

  • Bydd angen i chi aros 3 mis ar ôl cymryd morgais gyda ni cyn gwneud cais i fenthyca mwy. 
  • Yr isafswm cyfnod yw 2 flynedd a'r uchafswm cyfnod yw 40 mlynedd (yn dibynnu ar ein meini prawf benthyca). 
  • Ni chaiff y swm rydych eisiau ei fenthyca a'r swm sy'n ddyledus ar eich morgais presennol fod yn fwy na 90% LTV ar gyfer eiddo preswyl neu 75% LTV ar gyfer eiddo prynu i osod neu lety gwyliau. 
  • Mae hyd yr amser mae'n ei gymryd i brosesu eich cais yn gallu dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Yn gyffredinol, gall gymryd 4 – 6 wythnos i'r arian ychwanegol gyrraedd eich cyfrif cyfredol.   

Os hoffech osod eich eiddo bydd angen morgais Prynu i Osod arnoch fel arfer. Os oes gennych forgais preswyl cewch osod eich eiddo am gyfnod byr – hyd at 12 mis fel arfer. 

Ffoniwch ni ar 0330 333 4030 i siarad ag un o'n cynghorwyr morgeisi. 

 

Yr hyn fydd ei angen arnoch 

1. Cytundeb tenantiaeth 

Contract yw hwn rhyngoch chi a'ch tenantiaid. Bydd yn cynnwys telerau ac amodau'r denantiaeth. Bydd angen i'r denantiaeth gwmpasu o leiaf 6 mis. 

Yng Nghymru a Lloegr, bydd angen Cytundeb Tenantiaeth Fyrddaliadol derbyniol arnoch.   

 

2. Tystiolaeth o ad-daliadau morgais 

Bydd angen eich bod wedi gwneud o leiaf 6 taliad misol ar eich morgais preswyl. Ceir rhai eithriadau, er hyn, nid yw'n berthnasol os ydych yn aelod o Luoedd Arfog Prydain neu'n Glerigwr. 

 

Yn dal i ystyried pethau? Darllenwch fwy am osod eich eiddo.  

Efallai y byddwch yn dymuno gwerthu rhan o'ch tir, neu eiddo ar dir yr ydych yn perchen arno. Pan fyddwch yn gwneud hyn, bydd cyfran o'r eiddo sy'n ffurfio rhan o'n sicrhad ni ar y morgais yn cael ei ryddhau. Gelwir hyn yn ryddhau rhan o sicrhad. Gwneir hyn ar eich rhan gan gyfreithiwr yn aml. Gallai'r broses hon gynnwys prisio'r eiddo unwaith eto. 
 
Ffoniwch ni ar 0330 333 4002 i drafod rhyddhau rhan o sicrhad.  

Ailforgeisio i Principality

Byddem wrth ein boddau yn eich helpu i ailforgeisio gyda ni. Cewch bori ein cytundebau, siarad â chynghorydd, a hyd yn oed dechrau eich cais ar-lein. Edrychwch ar ein tudalennau cael morgais Principality

Yswiriant

Rydym wedi partneru gyda Vita, Cwmni Diogelu Annibynnol Arbenigol yn y DU. Darllen mwy am Vita.  

Mae Vita yn cynnig cyngor arbenigol gyda mynediad at y 'farchnad gyfan', sy'n golygu y cewch gyngor ar ddewis o yswiriant cartref, yswiriant bywyd a chynlluniau diogelu a allai helpu i ddarparu ar gyfer eich dyflodol chi a'ch teulu.