Skip to content
Log in

Gwybodaeth i Landlordiaid Prynu i Osod

Beth ydych chi'n gyfrifol amdano fel landlord? 


Mae gosod eiddo preswyl yn drafodiad masnachol ac, fel y gwyddoch, roedd ein penderfyniad i gynnig morgais Prynu i Osod i chi yn seiliedig ar yr egwyddorion hyn: 

  1. Talu’r ad-daliadau morgais yn rheolaidd

  2. Cadw at delerau ac amodau'r morgais

  3. Ad-dalu unrhyw gyfalaf

    Os yw eich morgais ar sail talu llog yn unig, eich cyfrifoldeb chi yw ad-dalu'r cyfalaf ar ddiwedd cyfnod y morgais.

  4. Sicrhau bod yr eiddo'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gosod yn unig

    Rhaid defnyddio'r eiddo ar gyfer ei osod bob amser ac nid i chi fyw ynddo.



Eich rhwymedigaethau i denantiaid 


Mae'n bwysig eich bod yn deall eich cyfrifoldebau fel landlord, a'ch rhwymedigaethau i'ch tenantiaid (Lloegr) neu ddeiliaid contractau (Cymru). 


Fel landlord, mae gennych rwymedigaeth i'ch tenantiaid neu ddeiliaid contract. Mae hyn yn cynnwys: 

  • cydymffurfio â'r  gofynion cyfreithiol o fod yn landlord 
  • cadw at rwymedigaethau iechyd a diogelwch tuag at eich tenantiaid neu ddeiliaid contract 
  • cydymffurfio ag unrhyw ofynion trwyddedu neu gofrestru 
  • sicrhau bod eich tenantiaid neu ddeiliaid contract yn cael eu trin yn deg 

Fel landlord, mae'n rhaid: 

  • deall bod risg fasnachol o fod yn  landlord 
  • bod â chynllun ar gyfer sut y byddwch yn parhau â'ch taliad morgais ar adegau pan fo'r eiddo'n wag 
  • diogelu gwerth yr eiddo drwy ei gynnal a’i gadw 
  • ymateb i geisiadau dilys gan gynnwys galwadau am rent tir a thaliadau gwasanaeth gan y rhydd-ddeiliad a/neu ei asiant  rheoli (ar gyfer  eiddo lesddaliad) 
  • sicrhau bod yr adeilad wedi'i yswirio yn llawn ar gyfer cyfnod llawn eich morgais Prynu i Osod gydag yswiriant arbenigol digonol ar waith 

Angen cyngor? 


Os oes angen cyngor arnoch am eich cyfrifoldebau, gallwch ddarganfod mwy gan y cymdeithasau landlordiaid cydnabyddedig canlynol: 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich cyfrifoldebau, ewch i: 

Sylwch nad ydym yn gyfrifol am y cynnwys ar wefannau allanol. 

Eich ad-daliadau 


Os ydych chi'n cael trafferth talu eich ad-daliadau morgais ar unrhyw adeg, cysylltwch â'n tîm i drafod eich opsiynau a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i'ch cefnogi. 


Ffoniwch ni ar: 0330 333 4020

Gallwch hefyd ymweld â'n canolfan gymorth lle gallwch ddod o hyd i atebion i'n cwestiynau cyffredin. 


Cofiwch, os ydych ar ei hôl hi gyda'ch ad-daliadau a bod eich morgais yn mynd i ôl-ddyled, bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol. Mwy o fanylion am y tariff ffioedd a thaliadau. 


Nid yw morgeisi prynu i osod yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. 

Os na fyddwch yn talu taliadau eich morgais, gellir penodi 'derbynnydd rhent' a/neu gellir adfeddiannu eich eiddo rhent.