Skip to content

Cynnal ein presenoldeb ar y stryd fawr ac mewn cymunedau tan 2030

Julie-Ann Haines, Principality Chief Executive Officer

Yn yr erthygl hon

Ein hymrwymiad i’r stryd fawr

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality, cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, yn dathlu ei phen-blwydd yn 165 oed drwy gyhoeddi ymrwymiad i gynnal ei phresenoldeb ar y stryd fawr ac mewn cymunedau tan o leiaf ddiwedd 2030. 

Wedi’i gyhoeddi fel rhan o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) y sefydliad yr wythnos diwethaf, mae Principality yn ymestyn ei hymrwymiad i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu, gan gydnabod pwysigrwydd presenoldeb ar y stryd fawr, mynediad at arian parod a gwasanaethau personol ar gyfer ei Haelodau.  

Conglfaen cymunedol

Wedi’i sefydlu gyntaf ym 1860 yng Nghaerdydd, mae Principality wedi bod yn gonglfaen cymunedol gyda thros 50 o ganghennau ac 14 o asiantaethau ledled Cymru a’r gororau, gan bartneru ag elusennau ac ariannu mentrau cartrefi fforddiadwy ochr yn ochr â’i gwasanaethau ariannol. 

Cynhaliwyd CCB y Gymdeithas yng Nghaerdydd, ac mewn chwe changen ledled Cymru. Daeth cydweithwyr, cynrychiolwyr o’r Bwrdd ac aelodau’r gymuned ynghyd yng Nghaerffili, Cwmbrân, Henffordd, Llanelli, Wrecsam a Llandudno i gymryd rhan yn y CCB a ffrydiwyd yn fyw o Gaerdydd ac a oedd hefyd ar gael ar-lein, gydag Aelodau’n pleidleisio ar faterion o bwys. 

Adborth parhaus

Mae’r gymdeithas adeiladu wedi derbyn adborth cyson gan Aelodau bod presenoldeb canghennau yn bwysig iddynt. Mae ymchwil Principality ei hun yn datgelu bod mwy na 70% o bobl yn cytuno bod presenoldeb canghennau yn ffactor allweddol wrth benderfynu pa ddarparwr ariannol i’w ddewis. Daw hyn ar adeg pan fo darparwyr ledled y DU ac mewn marchnadoedd ehangach yn cyhoeddi eu bod yn cau canghennau.

Rhoi aelodau’n gyntaf am 165 o flynyddoedd

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithasol Adeiladu Principality: “Wrth i ni ddathlu 165 mlynedd o roi Aelodau’n gyntaf, mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn ymrwymo i gynnal presenoldeb canghennau ar y strydoedd mawr ac yn y cymunedau rydym yn gweithredu ynddyn nhw ar hyn o bryd, ledled Cymru a Lloegr tan o leiaf 2030, gan roi hyder i’n Haelodau, ein cydweithwyr a’n cymunedau.

Rydym yn falch bod gennym fwy o ganghennau nag unrhyw ddarparwr gwasanaethau ariannol arall yng Nghymru. Gyda’r newyddion bod darparwyr ariannol eraill wedi cau canghennau yn ddiweddar, rydym yn cynnal ein canghennau lleol ac yn datblygu’r mynediad a gynigir gennym at wasanaethau arian parod, gan gydnabod eu bod yn bwysicach nag erioed.  
Mae ein presenoldeb digyffelyb ar y stryd fawr yn dod â buddiannau i gymunedau ledled y wlad. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y gall Aelodau fod yn sicr y byddwn yn bresennol am flynyddoedd i ddod.”  

Buddsoddiad parhaus 

Mae buddsoddiad parhaus Principality mewn cymunedau lleol yn cael ei ddangos ymhellach gan ei phartneriaeth ddiweddar â’r arloeswr bancio ar rennir, OneBanx, i ddod â gwasanaethau arian parod i ardaloedd gwledig lle mae canghennau wedi cau. Bwcle fydd yr ardal gyntaf yng Ngogledd Cymru i gael mynediad at dechnoleg OneBanx, gan alluogi cwsmeriaid y rhan fwyaf o brif fanciau a chymdeithasau adeiladu’r DU i adneuo arian a’i dynnu allan heb ddefnyddio cerdyn. Mae presenoldeb y gwasanaeth yng nghangen Llyfrgell Bwcle yn dilyn darpariaeth lwyddiannus yn y Bont-faen a Chaerffili.

Mae’r Gymdeithas yn gweithredu fel arweinydd syniadau yn y maes hwn, gan ddwyn ynghyd bartneriaid a Llywodraeth Cymru i drafod atebion a diogelu mynediad at arian parod mewn cymunedau.  

Dywedodd Robin Fieth, Prif Weithredwr y Gymdeithas Cymdeithasau Adeiladu: “Ar adeg pan fo llawer o fanciau yn lleihau nifer eu lleoliadau ar y stryd fawr, mae Princiaplity a’r sector cymdeithasau adeiladu ehangach yn sefyll allan drwy barhau i fuddsoddi yn eu rhwydweithiau o ganghennau. Wrth i ni ddathlu 250 mlynedd o gymdeithasau adeiladu yn 2025, mae ymagwedd Principality yn ein hatgoffa o’r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae mewn cymunedau lleol.”