Cymorth cynilo
Cymorth cynilo
Defnyddio eich cyfrif cynilo
Gallwch dalu arian i mewn i'ch cyfrif cynilo mewn gwahanol ffyrdd. Ar-lein, mewn cangen, neu drwy anfon siec atom.
- Os ydych chi'n talu arian i mewn i gyfrif newydd am y tro cyntaf, bydd angen i chi roi'r isafswm blaendal yn y cyfrif o fewn o leiaf pum diwrnod busnes i'w agor.
-
Os ydych yn trosglwyddo ISA, darllenwch ein gwybodaeth am drosglwyddiadau ISA.
1. Symud arian ar-lein
Defnyddiwch y manylion hyn i drosglwyddo arian o gyfrif arall:
Cod didoli: 20-18-23
Rhif y Cyfrif: 90653535
Cyfeirnod: Defnyddiwch rif eich cyfrif cynilo Principality
Talai: Eich enw
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
- Rydym yn defnyddio Barclays fel ein darparwr banc. Peidiwch â phoeni os bydd eich banc yn nodi eich bod yn symud arian i gyfrif Barclays.
- Dylai'r arian ddangos yn eich cyfrif Principality o fewn dwy awr.
- Os ydych yn bwriadu cynilo'n rheolaidd gallwch drefnu rheol sefydlog ar ôl eich taliad cyntaf. Rhaid i hwn fod o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU yn eich enw chi.
- Os ydych yn bwriadu trosglwyddo arian i'ch cyfrif ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ei agor, efallai na fydd eich banc yn cydnabod eich enw fel un sy'n cyfateb i'r cyfrif ar unwaith. Bydd y trosglwyddiad yn dal i weithio, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn sicrhau bod y cyfeirnod yn gywir.
2. Mynd i gangen
Gallwch fynd i unrhyw un o'n canghennau i dalu arian i mewn i’ch cyfrif cynilo (ac eithrio os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig). Bydd adneuon arian parod yn dangos yn eich cyfrif ar unwaith. Os ydych yn talu siec i mewn bydd yn cymryd hyd at 3 diwrnod busnes i’r arian ddangos yn eich cyfrif.
3. Anfon siec atom
Ysgrifennwch eich siec i ‘Cymdeithas Adeiladu Principality’ gyda’ch enw a rhif y cyfrif. Yna anfonwch hi at y Tîm Cynlio yn: Principality Building Society, PO Box 89, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.
Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein, os ydych wedi creu proffil ar-lein. Dewiswch ‘Gweld manylion personol’ o’r ddewislen ‘Eich manylion’ a dilynwch y cyfarwyddiadau. Os ydych wedi bod yn gwsmer gyda Principality am lai na 3 mis, efallai y bydd angen i chi anfon un math o ddull adnabod eich cyfeiriad atom hefyd.
Os nad oes gennych broffil ar-lein, gallwch fynd i gangen neu ein ffonio ni ar 0330 333 4000.
I ddiweddaru eich enw, gallwch naill ai ysgrifennu atom gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod neu fynd i'ch cangen neu asiantaeth leol. Bydd angen i ni weld y ddogfen newid enw wreiddiol. Gallai fod eich:
- Tystysgrif Priodas
- Archddyfarniad Absoliwt
- Gweithred Newid Enw (Gweithred Unrhan)
Os byddwch yn dod i mewn i gangen, dewch â'ch paslyfr hefyd.
Ysgrifennwch atom
Cymdeithas Adeiladu Principality
Adeiladau Principality
Rhif blwch swyddfa'r post 89
Heol y Frenhines
Caerdydd
CF10 1UA
Os yw eich cyfrif yn caniatáu mwy nag un deiliad cyfrif, gallwch ychwanegu deiliad cyfrif ychwanegol drwy wneud y canlynol:
- Cwblhau ffurflen gais cynilo a'i phostio i Cymdeithas Adeiladu Principality, Rhif blwch swyddfa'r post 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA.
- Mynd i un o'n canghennau. Dylai pob deiliad cyfrif fod yn bresennol pan fyddwch yn mynd. Ond os nad yw hyn yn bosibl, rhowch wybod i’r gangen.
Os bydd angen unrhyw help arnoch gallwch anfon neges ddiogel atom drwy fewngofnodi i'ch proffil ar-lein, neu ein ffonio ni. Dyma'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i allu cysylltu â ni am gyngor.
Os yw deiliad y cyfrif ychwanegol eisoes yn aelod gyda ni, ni fydd angen i ni ofyn am unrhyw ddull adnabod. Ond os yw'n gwsmer newydd, bydd angen i ni gadarnhau pwy ydyw. Gallwch ddarganfod pa ddogfennau rydym yn eu derbyn fel prawf hunaniaeth ar dudalen 9 a 10 y ddogfen hon ynglŷn â sut rydym yn defnyddio Eich gwybodaeth.
A yw fy nghyfrif yn caniatáu mwy nag un deiliad cyfrif?
Gall rhai o'n cyfrifon ond bod ag un deiliad cyfrif. Felly ni fyddwch yn gallu ychwanegu deiliad cyfrif ychwanegol at:
• ISA.
• Cyfrif cynilo ar-lein yn unig.
• Cyfrif plant. Dim ond yn enw un plentyn y gellir agor cyfrifon plant. Fodd bynnag, gellir ychwanegu mwy nag un gwarcheidwad neu ymddiriedolwr.
Os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig gyda Principality, byddwn yn gofyn i chi sefydlu cyfrif cysylltiedig. Mae cyfrif cysylltiedig yn gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu arall yr ydym wedi cadarnhau ei fod yn perthyn i chi.
Mae hyn yn ein helpu i’ch diogelu rhag twyll pan fyddwch yn trosglwyddo arian o’ch cyfrif cynilo gyda Principality yn electronig.
Gallwch newid eich cyfrif cysylltiedig drwy wneud y canlynol:
- Mewngofnodi i'ch proffil ar-lein ac anfon neges ddiogel
- Ein ffonio ni ar 0330 333 4000
I gael tystysgrif treth ar gyfer eich cyfrif cynilo, gallwch naill ai
- Mewngofnodi i'ch proffil ar-lein ac anfon neges ddiogel
- Ffonio ni ar 0330 333 4000.
- Mynd i un o'n canghennau
Bydd angen i chi ddweud wrthym pa gyfrif cynilo a'r flwyddyn y mae angen y dystysgrif dreth ar ei chyfer.
Os ydych eisiau:
- Gwneud cais am gyfrif cynilo drwy'r post. (Noder mai dim ond ar-lein y gellir agor rhai cyfrifon.) Llenwch y Ffurflen Gais Cynilo a'r Datganiad Hunanardystio.
- Agor cyfrif plant ar sail ymddiriedolaeth: Cwblhewch y Ffurflen Gais Ymddiriedolwyr
- Dweud wrth eich banc neu gymdeithas adeiladu i anfon taliad rheolaidd i'ch cyfrif Principality: Llenwch y Ffurflen Archeb Sefydlog Cynilo.
Rydym yn argymell eich bod yn darllen ein Polisi Preifatrwydd cyn anfon unrhyw wybodaeth bersonol.
Mae eich cyfriflen yn dangos y llog rydych wedi’i ennill am y flwyddyn, yn ogystal â’ch trafodiadau ‘symud arian i mewn’ a ‘symud arian allan’. Os byddwch yn gweld unrhyw beth ar eich cyfriflen sy'n anghywir yn eich barn chi, rhowch wybod i ni ar unwaith. Anfonwch eich cyfriflen at Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cymdeithas Adeiladu Principality, Adeiladau Principality, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA, gan amlygu’r ymholiadau.
Darllenwch y wybodaeth ganlynol gyda'ch cyfriflen.
Ystyrir eich cyfrif cynilo yn un segur ar ôl 15 mlynedd o anweithgarwch a chaiff ei gloi nes y gallwch gadarnhau pwy ydych chi.
Peidiwch â phoeni, mae eich cynilion yn ddiogel. Ni waeth pa mor hir y mae eich cyfrif wedi bod yn segur, bydd yr arian ynddo bob amser yn eiddo i chi.
Sut i ddod o hyd i gyfrif segur?
Os ydych yn meddwl eich bod wedi colli cysylltiad â chyfrif cynilo Principality neu efallai eich bod wedi agor un gyda chymdeithas adeiladu rydym wedi uno â hi, gallwch naill ai:
- ffonio 0330 333 4000
- mynd i'ch cangen leol
- ysgrifennu atom yn Principality Building Society, PO Box 89, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.
Bydd angen i chi ddarparu 2 fath o brawf adnabod i gadarnhau pwy ydych chi ac ail-agor eich cyfrif segur. Dysgwch fwy am y mathau o brawf adnabod rydym yn eu derbyn.
Sut i ddod o hyd i gyfrif segur person arall?
Gallwn eich helpu i olrhain cyfrif segur person arall, os oes gennych hawl gyfreithiol i wneud hynny.
I olrhain cyfrif segur person arall, ffoniwch 0330 333 4000, ewch i'ch cangen leol neu ysgrifennwch atom yn Principality Building Society, PO Box 89, Queen Street, Cardiff, CF10 1UA.
Cymdeithasau adeiladu yr ydym wedi uno â nhw:
Cymdeithas Adeiladu |
Blwyddyn yr uno |
---|---|
Cymdeithas Adeiladu Pen-y-bont ar Ogwr |
1959 |
Cymdeithas Adeiladu Urban |
1962 |
Cymdeithas Adeiladu Barhaol Maesteg |
1968 |
Cymdeithas Adeiladu Cydfuddiannol Barhaol Aberafan |
1974 |
Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Chaerfyrddin |
1974 |
Cymdeithas Adeiladu Barhaol Llanelli |
1977 |
Cymdeithas Adeiladu District |
1978 |
Cymdeithas Adeiladu Gorseinon |
1979 |
Cymdeithas Adeiladu Chatham |
1985 |
Os ydych wedi creu proffil ar-lein gallwch fewngofnodi i gadarnhau eich cyfradd llog. Neu gallwch weld y cyfraddau llog ar ein cyfrifon cynilo i gyd. Os nad yw eich cyfrif ar werth mwyach, bydd angen i chi edrych ar ein gwybodaeth am gyfrifon nad ydynt ar werth i gwsmeriaid newydd mwyach.
Gwybodaeth am gyfrifon cyfradd sefydlog nad ydynt ar werth
Mae terfynau codi arian ar ra o'n cyfrifon cynilo, neu nid ydynt yn caniatáu codi arian nes bod y cyfrif wedi aeddfedu. Cadarnhewch delerau eich cyfrif yn gyntaf. Os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig, ni fyddwch yn gallu codi arian ohono yn y gangen.
Os yw telerau eich cyfrif yn caniatáu mynediad ar unwaith i'ch arian, dyma sut y gallwch godi arian:
Arian parod: Ewch i un o'n canghennau. Ein terfyn codi arian dyddiol yw £500 fesul cwsmer. Os hoffech godi mwy na £500 mewn arian parod, cysylltwch â'r gangen 2 ddiwrnod busnes ymlaen llaw. Ar gyfer codi dros £2,000 o arian, byddwn yn gofyn am brawf adnabod. I gael rhestr lawn o ddogfennau adnabod y gallwn eu derbyn, lawrlwythwch ein taflen sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth.
Siec: Gallwch godi arian drwy siec o gangen neu asiantaeth o hyd at £85,000. Os hoffech dynnu mwy na £85,000 fel siec, cysylltwch â'r gangen rydych yn bwriadu mynd iddi i roi gwybod i ni o leiaf 5 diwrnod busnes ymlaen llaw. Gallwch hefyd ofyn am siec drwy ein ffonio ar 0330 333 4000, ysgrifennu atom, neu anfon neges ddiogel atom o'ch proffil ar-lein. Gall y ceisiadau hyn gymryd hyd at 5 diwrnod busnes i'w cwblhau.
Taliad Cyflymach: Gallwn wneud taliadau cyflymach i gyfrif arall yn eich enw chi. Os byddwch yn gofyn am daliad cyflymach erbyn 3:30pm byddwch yn cael yr arian yr un diwrnod. Os byddwch yn gwneud eich cais ar ôl 3:30pm, byddwch yn cael yr arian y diwrnod busnes nesaf.
Bydd angen prawf arnom mai chi sy'n berchen ar y cyfrif derbyn. Rydym yn gwneud hyn i'ch diogelu rhag twyll, yn enwedig os nad ydych wedi trosglwyddo arian i'r cyfrif hwn o'r blaen. Gallai’r dystiolaeth hon fod yn gerdyn banc neu gyfriflen banc yn dangos enw deiliad y cyfrif, cod didoli a rhif y cyfrif. Yr uchafswm y gallwch ei drosglwyddo gan ddefnyddio taliad cyflymach yw £120,000.
Os oes gennych gyfrif ar-lein yn unig, gallwch godi £20,000 i'ch cyfrif cysylltiedig mewn un trafodiad, hyd at uchafswm o £100,000 y dydd.
Trosglwyddiad Telegraffig:
Gallwn drefnu trosglwyddiadau telegraffig i gyfrif arall yn eich enw chi. Codir tâl am drosglwyddiad telegraffig. Gweler rhagor o wybodaeth am ein ffioedd yn ein taflen Tariff Taliadau Cynilo. Os byddwch yn gofyn am drosglwyddiad telegraffig cyn 3:30pm, byddwch yn cael yr arian ar yr un diwrnod. Os byddwch yn gwneud eich cais ar ôl 3:30pm, byddwch yn cael yr arian y diwrnod busnes nesaf.
ISAs arian parod
Ni allwch drosglwyddo lwfans ISA un flwyddyn i’r flwyddyn nesaf. Os nad ydych yn defnyddio eich lwfans ISA di-dreth llawn erbyn 5 Ebrill, byddwch yn ei golli pan ddaw’r flwyddyn dreth i ben.
Nid oes terfyn ar faint o ISAs y gallwch eu cael. Gallwch gadw’ch ISA i fynd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, felly mae’n bosibl bod â llawer o ISAs.
Gellir rhannu'ch lwfans ISA blynyddol ar draws y pedwar math gwahanol o ISA: ISAs arian parod, ISAs stociau a chyfranddaliadau, ISAs oes, ac ISAs cyllid arloesol. Yn Principality, dim ond i un ISA arian parod y cewch dalu i mewn iddo bob blwyddyn dreth.
Yn dibynnu ar yr ISA y byddwch yn ei agor, efallai y bydd terfyn ar faint o arian y gallwch ei godi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau telerau'r cyfrif i ddeall a oes gan eich ISA unrhyw derfynau codi arian. Er enghraifft, ni allwch godi arian o ISA cyfradd sefydlog. Gallwch gau’r ISA neu drosglwyddo’r balans i ISA gwahanol; ond efallai y byddwch yn colli llog.
Gallai codi arian o ISA olygu y byddwch yn colli llog y gallech fod wedi’i ennill pe bai’ch arian yn y cyfrif. Gall hefyd effeithio ar eich buddion treth.
Gydag ISA hyblyg gallwch godi arian a rhoi arian yn ôl i mewn cyn diwedd yr un flwyddyn dreth, heb iddo effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol.
Ym mhob blwyddyn dreth (o Ebrill 6 tan Ebrill 5 y flwyddyn nesaf) mae gennych lwfans ISA di-dreth blynyddol. Mae di-dreth yn golygu na fydd y llog y byddwch yn ei ennill yn agored i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae'r driniaeth o ran treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.
Y lwfans ISA ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £20,000. Caiff y swm ei adolygu gan y Llywodraeth bob blwyddyn a gallai newid yn y dyfodol.
Gellir rhannu eich lwfans ISA blynyddol rhwng pedwar gwahanol fath o ISA: ISA arian parod, ISA stociau a chyfranddaliadau, ISA oes, ac ISA cyllid arloesol. Yn Principality, dim ond i un ISA arian parod y cewch dalu i mewn iddo ym mhob blwyddyn dreth.
Mae gan wahanol gyfrifon ISA arian parod delerau gwahanol. Mae rhai yn caniatâu i chi dalu swm llawn eich lwfans ISA arian parod i mewn fel cyfandaliad. Gydag eraill, cewch dalu symiau llai i mewn dros amser.
Os oes gennych ISA gyda darparwr arall, gallwch drosglwyddo’r arian i ISA arian parod gyda ni, ar yr amod bod yr ISA yn caniatáu trosglwyddiadau i mewn.
Os oes gennych ISA gyda Principality, gallwch drosglwyddo’r arian i ISA gyda darparwr gwahanol. Fodd bynnag, bydd hyn yn amodol ar delerau cyfrif yr ISA sydd gennych gyda ni.
Dysgwch fwy am sut i wneud trosglwyddiad ISA.
Mae Tanysgrifiadau Ychwanegol a Ganiateir (APS) yn caniatáu i chi etifeddu lwfans ISA a adawyd ar ôl gan eich priod neu bartner sifil.
Mae APS yn cyfeirio'n benodol at etifeddu lwfans ISA; nid y cronfeydd yn yr ISA.
Mae’r lwfans APS ar gael i chi o fewn 3 blynedd i farwolaeth eich priod neu bartner, neu 180 diwrnod ar ôl i weinyddiaeth yr ystad ddod i ben – pa un bynnag sydd hwyraf.
Siaradwch â ni am etifeddu lwfans ISA drwy ffonio 0330 333 4000.
Os hoffech wneud y canlynol:
-
Trosglwyddo eich ISA arian parod Principality presennol i ISA arian parod Principality gwahanol, defnyddiwch y Ffurflen Trosglwyddo ISA Mewnol.
- Trosglwyddo eich ISA arian parod o ddarparwr arall i ISA arian parod Principality, defnyddiwch y Ffurflen Trosglwyddo ISA Arian Parod.
- Talu i mewn i’ch ISA Principality presennol (defnyddiwch y ffurflen hon dim ond os nad ydych wedi talu i mewn i’ch cyfrif yn y flwyddyn dreth ddiwethaf), defnyddiwch y Ffurflen Bwlch Mewn Tanysgrifiad ISA Arian Parod.
- Trosglwyddo ISA stociau a chyfranddaliadau o ddarparwr arall i ISA arian parod Principality, defnyddiwch y Ffurflen Trosglwyddo ISA Stociau a Chyfranddaliadau i ISA Arian Parod Principality.
- Gwneud cais am ISA arian parod drwy'r post (noder mai dim ond ar-lein y gellir agor rhai cyfrifon), defnyddiwch y Ffurflen Gais ISA Arian Parod.
Agor cyfrif cynilo
If we aren’t able to identify you using our electronic verification system, we will ask you for some additional documents to help prove your identity and your address. We usually request at least two forms of ID: one to verify your name and one to verify your address. Some common examples of documents used include things like:
To verify your name
- A current signed UK passport
- A current signed full UK driving licence or paper licence
- EU member state ID card or EU passport
- A non EU passport with a valid visa
To verify your address
- A recent gas and electricity bill (under 3 months old)
- A recent water bill (under 12 months old)
- A recent local authority tax bill (under 12 months old)
We do also accept other forms of ID. For a full list of ID documents we can accept, download our leaflet about how we use your information.
Mae cyfrifoldeb arnoch i gadarnhau pwy ydych pan fyddwch yn agor cyfrif cynilo. Fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i atal troseddau ariannol a gwyngalchu arian.
Rydym yn defnyddio system ddilysu electronig i gadarnhau pwy ydych chi. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyna'r cyfan sydd angen i ni ei wneud. Fodd bynnag, weithiau efallai y bydd angen i ni ofyn am brawf adnabod ychwanegol. Ac efallai na fyddwn yn gallu bwrw ymlaen â’ch cais oni fyddwch yn gallu ddarparu prawf addas o’ch enw a’ch cyfeiriad.
Diogelwch
Rhowch wybod i ni os yw eich paslyfr ar goll neu wedi'i ddwyn drwy lenwi'r datganiad paslyfr ar goll neu'r datganiad paslyfr wedi'i ddwyn. Dewch â'ch ffurflen wedi ei llenwi i'ch cangen leol neu cewch ei phostio i:
Yr Adran Gynilion, Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, The Friary, Caerdydd, CF10 3FA.
Os ydych yn poeni eich bod wedi dioddef twyll, neu yn pryderu am unrhyw drafodiadau ar eich cyfrif ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0330 333 4000.
Mae Cadarnhau Talai yn wasanaeth sy'n gwneud yn siŵr bod yr enw a nodir ar y taliad yr un fath â'r enw ar y cyfrif rydych yn talu i mewn iddo.
Ni chewch optio allan o wiriadau ar gyfer taliadau o'ch cyfrif Principality. Rydym yn eich annog yn gryf i beidio ag optio allan o wiriadau Cadarnhau Talai ar gyfer taliadau i mewn i'ch cyfrif Principality, ond os ydych yn dymuno gwneud hynny, siaradwch â chydweithwr mewn cangen, ffoniwch ni ar 0330 333 4000 neu anfonwch neges ddiogel atom drwy Eich Cyfrif.
Cewch optio yn ôl i fewn ar unrhyw adeg.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi eich effeithio gan sgam taliad gwthio awdurdodedig, dilynwch y camau hyn:
Cysylltu â ni ar unwaith
Ffoniwch ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid ar 0330 333 4000 i roi gwybod am y sgam cyn gynted ag y byddwch yn amau eich bod wedi eich sgamio.
Sylwer ein bod ar agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am - 5pm Dydd Sadwrn: 9am - 1pm
Rhoi manylion
Bydd angen i chi rannu gwybodaeth allweddol am y trafodiad, er enghraifft y swm, y dyddiad, a manylion y derbynnydd. Efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.
Gwybod eich hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn am ad-daliad am daliadau twyllodrus a wnaed drwy Daliad Cyflymach neu CHAPS. Rhaid i chi roi gwybod am y sgam ar unwaith ac o fewn 13 mis i'r taliad olaf.
Pryd gallaf ddisgwyl derbyn yr ad-daliad?
Os ydych yn gymwys i dderbyn ad-daliad, byddwch yn ei dderbyn o fewn pum diwrnod busnes fel arfer wedi gwneud eich cais. Efallai y bydd angen ychydig yn fwy o amser arnom (hyd at 35 diwrnod) os ydym yn aros am wybodaeth ychwanegol.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi dalu tâl-dros-ben o hyd at £100, y byddwn yn ei ystyried fesul achos.
Beth os ydw i'n anhapus â chanlyniad fy hawliad?
Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich hawliad cewch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.
• Cyfeiriad post: The Financial Ombudsman Service, Exchange Tower, London E14 9SR
• Rhif ffôn: 0300 123 9123
• Switsfwrdd: 020 7964 1000
• O'r tu allan i'r DU: +442079640500
Rhaid i chi gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Ariannol o fewn 6 mis i dderbyn eich llythyr canlyniad.
Cewch hefyd weld ein adroddiad cwynion diweddaraf.
Rhagor o wybodaeth am Daliadau Gwthio Awdurdodedig.
Cau neu aeddfedu cyfrif
Sicrhewch fynediad at gyfraddau arbennig ar gyfer aelodau pan ddaw eich cyfrif i ben. Mae' cyfyngiad ar y cyfraddau rydym yn eu hysbysebu a gellir eu tynnu'n ôl neu eu diwygio unrhyw bryd.
Rydym yn cymhwyso'r gyfradd sydd ar gael ar y dyddiad y byddwch yn gwneud cais. Mae hyn yn golygu nad yw’r cyfraddau a ddarperir yn y wybodaeth aeddfedrwydd a anfonwyd atoch wedi’u gwarantu. I fanteisio ar y cyfraddau arbennig hyn, cysylltwch â ni gyda'ch penderfyniad cyn gynted â phosibl.
Beth yw fy opsiynau pan fydd fy nghyfrif yn aeddfedu?
- Ailfuddsoddi mewn cyfrif newydd. Gallwch ailfuddsoddi’n llawn mewn bond newydd neu ISA ar-lein, ar ôl i ni anfon eich gwybodaeth aeddfedrwydd atoch. A gallwch wneud adneuon ychwanegol am hyd at bum diwrnod busnes ar ôl agor y cyfrif. Dewiswch gyfrif newydd ar-lein, ewch i gangen, neu ffoniwch ni.
- Tynnu ychydig allan ac ailfuddsoddi'r gweddill. Efallai y byddwch am ailfuddsoddi mewn bond newydd neu ISA gyda rhywfaint o’ch arian yn hytrach na’r cyfan ohono. Defnyddiwch y ffurflen yn eich pecyn aeddfedrwydd neu mewngofnodwch i'ch proffil ar-lein i roi gwybod i ni.
- Cau eich cyfrif. Gallwch dynnu’r holl arian yn eich cyfrif a’i drosglwyddo i’ch cyfrif banc enwebedig, neu gyfrif cynilo presennol gan Principality ar y diwrnod y bydd eich cyfrif cynilo yn aeddfedu.
- Cael eich arian drwy siec. Yn syml, ewch i gangen gyda'ch prawf adnabod a manylion eich cyfrif, neu anfonwch neges ddiogel atom drwy eich proffil ar-lein.
Os byddwch yn gwneud dim, byddwn yn symud eich arian i mewn i’r cyfrif y soniwyd wrthych amdano yn eich hysbysiad aeddfedrwydd.
Pa mor hir sydd gennyf i wneud cais am gyfrif cynilo newydd?
Er mwyn manteisio ar ein cyfraddau aelodau unigryw, rhaid i chi wneud cais am eich cyfrif newydd o fewn 14 diwrnod i'ch dyddiad aeddfedu. Gallai hyn fod 14 diwrnod cyn neu ar ôl y dyddiad y bydd eich cyfrif cynilo cyfredol yn aeddfedu.
Os na fyddwn yn clywed gennych cyn eich dyddiad aeddfedu, bydd eich balans yn cael ei symud yn awtomatig i’r cyfrif y soniwyd wrthych amdano yn eich hysbysiad aeddfedrwydd. Unwaith y bydd hyn yn digwydd, gallwch godi arian neu gau'r cyfrif newydd pryd bynnag y mynnwch.
Mae'n ddrwg gennym glywed am eich newyddion trist.
Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd. Pan fydd rhywun yn marw, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu i reoli'r arian.
Dyma sut i gau cyfrif ar ôl i rywun farw.
Gallwch gau eich cyfrif cynilo ar unrhyw adeg, oni bai bod telerau eich cyfrif yn dweud fel arall.
Sut i gau eich cyfrif:
- Mewngofnodi i'ch proffil ar-lein a dewis 'cau cyfrif' o'r ddewislen Gwasanaethau Cyfrif. Byddwn wedyn yn rhoi cyfarwyddyd i chi o'r fan honno.
- Cysylltu â ni
- Mynd i gangen
Cyn i chi gau cyfrif
Cadarnhewch delerau eich cyfrif. Ni chewch gau rhai cyfrifon neu efallai y bydd angen i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw eich bod yn bwriadu cau'r cyfrif. Gyda rhai cyfrifon, gallai eu cau olygu eich bod yn agored i gosb neu golli llog. Gallai cau ISA effeithio ar eich lwfans cynilo di-dreth.