Skip to content
Log in

Trosglwyddo ISA

Man manages online banking on smartphone at home

Yn y canllaw hwn

Beth yw trosglwyddiad ISA?

Trosglwyddiad ISA (Cyfrif Cynilo Unigol) yw pan fyddwch yn symud eich arian o un ISA i un arall. Gallwch ond trosglwyddo i ISA arall yn eich enw chi. Os nad ydych yn defnyddio trosglwyddiad ISA i symud arian rhwng cyfrifon ISA, rydych yn wynebu risg o golli'r statws di-dreth*.

Pam fyddwn eisiau trosglwyddo fy ISA?

Dyma rai rhesymau dros drosglwyddo eich ISA:

  • i gael cyfradd llog well
  • i newid i fath gwahanol o ISA
  • i gyfuno'ch cyfrifon ISA yn un, gan eu gwneud yn haws i'w rheoli

Trosglwyddo ISA arian parod

Er mwyn trosglwyddo, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. cadarnhau telerau ac amodau eich ISA cyfredol, i ddeall a oes unrhyw daliadau i'w trosglwyddo
  2. dod o hyd i'r ISA newydd yr hoffech drosglwyddo'ch arian iddo a chadarnhau ei fod yn derbyn trosglwyddiadau
  3. cysylltu â darparwr yr ISA newydd
  4. cwblhau'r ffurflen trosglwyddo ISA a ddarperir i chi

Dyma sut i drosglwyddo'ch ISA arian parod i Principality

Trosglwyddo i fath gwahanol o ISA

Ceir gwahanol fathau o ISAs y gallwch eu hagor a throsglwyddo arian iddynt. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud y canlynol: 

  • trosglwyddo'ch ISA i ISA arall o'r un fath, er enghraifft – trosglwyddo ISA arian parod i ISA arian parod gwahanol
  • trosglwyddo'ch ISA i ISA arall o fath gwahanol, er enghraifft - trosglwyddo ISA Stoc a Chyfranddaliadau i ISA arian parod 

Cost trosglwyddo ISA 

Mae'n bosibl y codir tâl arnoch pan fyddwch yn trosglwyddo'ch ISA. Mae hyn yn dibynnu ar y canlynol: 

  • eich darparwr ISA cyfredol – mae rhai darparwyr yn codi tâl arnoch i drosglwyddo
  • eich cynnyrch ISA  cyfredol – cadarnhewch eich telerau ac amodau am unrhyw log a gollwyd neu daliadau am godi arian yn gynnar o'r cyfrif/cau'r cyfrif

Cyfrifwch unrhyw ffioedd a thaliadau neu golled llog i weld a yw'n werth trosglwyddo'ch ISA.

Faint o amser fydd trosglwyddiad ISA yn ei gymryd? 

Dylai gymryd tua: 

  • 15 diwrnod busnes os ydych yn trosglwyddo ISA arian parod
  • 30 diwrnod busnes os ydych yn trosglwyddo i wahanol fath o ISA, fel ISA Stoc a Chyfranddaliadau

A allaf drosglwyddo rhan o fy ISA? 

Wrth drosglwyddo arian o un ISA i un arall, mae'n rhaid i chi drosglwyddo'r cyfan yr ydych wedi'i dalu i ISA y flwyddyn dreth hon. Fodd bynnag, gallwch drosglwyddo'r cyfan neu ran o'r arian rydych wedi'i dalu mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Os ydych yn trosglwyddo o ISA Principality i ISA Principality arall, rhaid trosglwyddo'r swm yn yr ISA yn llawn. 

A yw trosglwyddiad ISA yn effeithio ar fy lwfans ISA?

Os ydych yn trosglwyddo hen ISA, nad ydych wedi talu arian iddo yn y flwyddyn dreth gyfredol, nid effeithir ar eich lwfans ISA. Rhaid i chi ddefnyddio'r broses trosglwyddo ISA i gwblhau'r trosglwyddiad.

 

Os byddwch yn cau eich ISA ac yn codi arian ohono i'w dalu i ISA gwahanol, byddwch yn colli eich lwfans ISA. Byddwch hefyd yn colli'r statws di-dreth* ar yr ISA rydych wedi'i gau. 

 

Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.

 

*Mae di-dreth yn golygu nad yw'r llog rydych yn ei ennill yn destun Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae'r ffordd yr ymdrinnir â threth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.


 

 

An illustrated arrow, facing right and within a circle. (Welsh)

Gweld yr holl gyfrifon cynilo

Barod i ddechrau cynilo? Cymharwch ein dewis o gyfrifon cynilo a dechrau'r broses o wneud cais.