Skip to content

Cymorth gyda'ch proffil ar-lein

Cymorth â'ch proffil ar-lein

Dewiswch categori

Mynediad at gyfrif

Mae cyfrif cysylltiedig yn gyfrif gyda banc neu gymdeithas adeiladu arall yr ydym wedi cadarnhau ei fod yn perthyn i chi. Mae hyn yn ein helpu i’ch diogelu rhag twyll pan fyddwch yn trosglwyddo arian allan o’ch cyfrif cynilo gyda Principality yn electronig.

Os oes gennych gyfrif cynilo ar-lein yn unig gyda Principality, gallwch newid eich cyfrif cysylltiedig drwy:

 

Mae rheoli eich cynilion ar-lein yn hawdd.  Bydd angen i chi greu proffil ar-lein a'i alluogi.

Cam 1: Creu eich proffil ar-lein

Byddwn yn gofyn i chi am: eich rhif cyfrif Principality, eich rhif ffôn symudol, a’ch cyfeiriad e-bost. Am resymau diogelwch, rhaid i'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn symudol fod yn rhai yr ydych chi yn unig yn eu defnyddio. Os ydych yn gwsmer newydd sy’n agor cyfrif ar-lein am y tro cyntaf, byddwch yn gwneud y cam hwn fel rhan o’ch cais.

  • Dechreuwch arni ar-lein drwy lenwi ychydig o fanylion personol a gosod eich cyfrinair. 
  • Byddwn yn anfon copi o'ch manylion defnyddiwr atoch ar unwaith.
  • Byddwn hefyd yn anfon cod gweithredu atoch yn y post; dylai gyrraedd o fewn 3-5 diwrnod.

Cam 2: Galluogi eich proffil ar-lein

Byddwch yn cael eich cod gweithredu yn y post. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ei ddefnyddio. Dyma beth i'w wneud:

  • Mewngofnodi gan ddefnyddio'ch manylion defnyddiwr a'ch cyfrinair. 
  • Gofynnir i chi nodi cod mynediad, a byddwn yn ei anfon atoch fel neges destun.
  • Ar ôl i chi nodi'ch cod mynediad cliciwch ar 'Nodi Cod Galluogi' ar eich dangosfwrdd.
  • Nodwch y cod gweithredu o'ch llythyr. Bydd eich proffil ar-lein yn cael ei alluogi.

Rydym yn cymryd eich diogelwch ar-lein o ddifrif. Yn union fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall yn y DU, rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch ychwanegol i helpu i’ch cadw’n ddiogel wrth reoli eich arian ar-lein.  Rydym yn helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel mewn ychydig o ffyrdd:

 

Drwy wneud yn siŵr fod gennych gyfrinair cryf. Dylai eich cyfrinair gynnwys 10 nod neu fwy, gan gynnwys prif lythrennau, symbolau a rhifau.

 

Drwy ofyn am rif ffôn symudol a ddefnyddir gennych chi yn unig. Gofynnwn i chi gysylltu rhif ffôn symudol personol â'ch proffil ar-lein fel y gallwn gynnal gwiriad diogelwch bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Dyna pam mae'n bwysig mai eich rhif ffôn symudol chi yn unig y byddwch yn ei ddefnyddio i gofrestru, ac na chaiff ei rannu â neb arall.

 

Drwy ofyn cwestiynau diogelwch. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair bydd angen i chi ateb tri chwestiwn diogelwch i'w ailosod.

 

Drwy anfon cod gweithredu atoch yn y post. Mae hyn yn ein helpu i gadarnhau mai chi sy’n byw yn y cyfeiriad rydych chi wedi’i roi i ni.

Dyma beth i'w wneud os ydych wedi anghofio eich manylion adnabod defnyddiwr a'ch cyfrinair:

Cam 1Gofyn am nodyn atgoffa o'ch manylion adnabod defnyddiwr. Byddwn yn ei anfon mewn neges e-bost ar unwaith. 
Cam 2Ailosod eich cyfrinair. (Bydd angen eich atebion i'r cwestiynau diogelwch y gwnaethoch chi eu gosod pan wnaethoch chi gofrestru eich proffil ar-lein).

Os ydych wedi newid eich rhif ffôn symudol: Mae angen rhif ffôn symudol cyfredol arnom i anfon cod atoch mewn neges destun bob tro y byddwch yn mewngofnodi. Os oes angen i chi ddiweddaru'r rhif ffôn sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif ffoniwch ni ar 0330 333 4000 ac fe wnawn ddiweddaru eich manylion.
 

Os ydych yn dal i gael problemau yn mewngofnodi, neu os ydych yn cael hysbysiad yn dweud eich bod wedi 'eich cloi allan', ffoniwch ni ar 0330 333 4000.

Ar ôl i chi greu proffil ar-lein, bydd angen i chi aros ychydig ddyddiau i'w alluogi. Dyma beth i'w ddisgwyl. 

Byddwn yn anfon cod gweithredu atoch yn y post. Dylai gyrraedd o fewn 3-5 diwrnod.

 

Ar ôl i chi ei gael, dyma beth i'w wneud:

  • Mewngofnodi gan ddefnyddio'ch manylion defnyddiwr (byddant yn y neges e-bost yr anfonwyd atoch pan wnaethoch gofrestru) a'r cyfrinair a ddewisoch pan wnaethoch gofrestru ar gyfer proffil ar-lein.
  • Gofynnir i chi nodi cod mynediad, y byddwn yn ei anfon atoch fel neges destun.
  • Ar ôl i chi nodi'ch cod mynediad, cliciwch ar 'Nodi Cod Gweithredu' ar eich dangosfwrdd.
  • Nodwch y cod gweithredu o'ch llythyr. Bydd eich proffil ar-lein yn cael ei alluogi.