Skip to content

Cymdeithas Adeiladu Principality yn parhau i dyfu, gan gyflawni yn erbyn ei strategaeth

A headshot of Julie Ann

Yn yr erthygl hon

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi cyhoeddi y perfformiad gorau erioed ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr, 2024. Yn erbyn cefndir economaidd heriol, mae’r Gymdeithas wedi parhau i gefnogi prynwyr tro cyntaf i dyfu eu benthyciadau morgeisi, ac annog arferion cynilo rheolaidd ymhlith ei Haelodau gan gynnig cyfraddau cynilo gwell na’r cyfartaledd, yn unol â strategaeth uchelgeisiol.

Ategwyd llwyddiant y Gymdeithas gan nifer o fuddsoddiadau, gan gynnwys gwelliannau technolegol, buddsoddiad mewn profiad cwsmeriaid, ac ymrwymiad parhaus i’r stryd fawr a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Principality: “Ar adeg pan fo ansicrwydd economaidd yn parhau i herio aelwydydd ledled y wlad, rydym wedi parhau’n ddiysgog yn ein diben – adeiladu cymdeithas o gynilwyr lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref.

Gwelwyd y twf mwyaf erioed mewn cynilion a morgeisi eleni, gan helpu mwy o Aelodau i gynilo a mwy o gwsmeriaid i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain ac rydym ar y trywydd iawn i gyflawni ein datganiadau uchelgais ar gyfer 2030 a nodwyd gennym yn 2022.”

Cartrefi Gwell

Parhaodd Julie-Ann: “Mae mynediad at dai fforddiadwy yn parhau i fod yn un o heriau mwyaf enbyd ein hoes. Yn erbyn cefndir economaidd anodd, rydym yn cyflawni ein huchelgais ar gyfer cartrefi gwell.

Eleni, rydym wedi helpu mwy na 8,120 o brynwyr tro cyntaf i gymryd eu camau cyntaf ar yr ysgol eiddo, (8,130 yn 2023). At ei gilydd, rydym bellach yn cefnogi 87,558 (80,883 yn 2023) o bobl i gael eu cartref eu hunain.

Mae ein hadran Fasnachol bellach yn cefnogi’r mwyafrif o gymdeithasau tai yng Nghymru, gan ariannu tai fforddiadwy ar draws cymunedau a datblygu partneriaethau ystyrlon. Eleni, darparwyd £25 miliwn o gyllid hirdymor i Hafod yng Nghaerdydd, gan alluogi'r broses o adeiladu 300 o gartrefi fforddiadwy dros y pum mlynedd nesaf. Buom hefyd yn dathlu cwblhau cam olaf y Felin yng Nghaerdydd, prosiect degawd o hyd, sydd wedi darparu 800 o gartrefi—hanner ohonynt yn cynnig rhent am bris gostyngol, canolradd neu gymdeithasol.

Rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi yn ein gweithrediadau i’w gwneud yn haws i Aelodau a broceriaid ddelio â ni, a dyna pam rydym wedi ein henwi’n Gymdeithas Adeiladu Orau ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid 2024 gan What Mortgage Awards am y seithfed tro yn olynol.”

Dyfodol Diogel

Parhaodd Julie-Ann: “Ni fu erioed yn bwysicach cynilo ar gyfer ansicrwydd bywyd a’n rôl ni yw cael mwy o bobl i gynilo’n fwy rheolaidd a sicrhau bod gan bawb yr offer a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ddatblygu arferion cynilo cadarnhaol - gan greu cymdeithas o gynilwyr cydnerth.

Rwy’n falch o rannu bod 2024 wedi bod yn flwyddyn arall sydd wedi torri record o ran ein perfformiad ym maes cynilion. Gwelwyd mwy o gyfrifon yn cael eu hagor nag erioed o’r blaen, gyda’n balansau cynilion yn cynyddu £1.7 biliwn, o £9.1 biliwn i £10.8 biliwn. Mae’r twf sylweddol hwn mewn cynilion yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer morgeisi, a ariennir gan flaendaliadau cynilwyr*. 

Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, gwyddom fod dangos teyrngarwch i’n Haelodau yn bwysig. Rydym yn gyson o ran darparu cyfraddau cynilo uwch i’n Haelodau (4.06% o’i gymharu â 3.33% ar y stryd fawr), yn ogystal â lansio cynnyrch newydd, fel ein cyfrif cynilo rheolaidd ar gyfer y Nadolig, er mwyn helpu pobl i gynilo’n fwy rheolaidd**.”

 

* Canran y morgeisi a ariennir gan gynilwyr (2024: 95.7%, 2023: 89.8%)

**Ar gyfartaledd, mae Principality wedi talu 4.06% am ei chyfraddau cynilo o gymharu â chyfartaledd y farchnad o 3.33% rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Hydref 2024.
Ffynhonnell: CSDB CACI, Stoc, Cyfradd Llog Cyfartaledd wedi'i Phwysoli ar gyfer Tachwedd 2023 – Hydref 2024. 

Cymdeithas Decach

Parhaodd Julie-Ann: “Fel cwmni cydfuddiannol, ein nod yw mynd i’r afael â materion mawr ar lefel leol, yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Bob blwyddyn, rydym yn cyfrannu hyd at 3% o’n helw cyn treth bob blwyddyn, i achosion sydd o fudd i gymunedau. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mae’n bleser gennyf rannu ein bod wedi lansio 4ydd iteriad ein Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol, gyda chyllid newydd o fwy na £0.5 miliwn, gan fynd â’r gronfa i £1.5m ers ei sefydlu yn 2022 mewn partneriaeth â Sefydliad Cymunedol Cymru.

Rydym hefyd wedi cefnogi addysg ariannol 50,000 o blant a phobl ifanc. Rydym wedi rhoi £245,000 i’n partneriaid elusennol, hobsisau plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith yn 2024 drwy godi arian ymhlith cydweithwyr ac Aelodau. Mae hyn yn golygu bod cyfanswm ein cyfraniad ar draws y bartneriaeth 3 blynedd yn £752,000.     

Mae ein hymroddiad i amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i gydnabod hefyd, gyda Principality yn ennill Gwobr Cwmni Gwasanaethau Ariannol y Flwyddyn gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth. Ni fyddai hyn yn bosibl heb ein rhwydweithiau rhagorol o gydweithwyr, sy’n chwarae rhan hollbwysig wrth feithrin diwylliant cynhwysol o fewn y Gymdeithas.

Mae digwyddiadau fel gorymdaith flynyddol PRIDE Cymru, lle bu ein cydweithwyr yn dathlu gyda busnesau lleol ac aelodau o’r gymuned, fel y prif noddwr am yr ail flwyddyn yn olynol, yn tanlinellu’r ymrwymiad hwn.”

Addas ar gyfer y Dyfodol: Buddsoddi yn Eich Cymdeithas

Parhaodd Julie-Ann: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cymryd camau sylweddol ac anodd i symleiddio ein model gweithredu, gan ein galluogi i wasanaethu ein cwsmeriaid cynilion a morgeisi yn well, ynghyd â’n cleientiaid benthyca masnachol, wrth symleiddio costau i greu’r capasiti ar gyfer twf pwrpasol. 

Fel cwmni cydfuddiannol cyfoes, cawn ein harwain gan ein Haelodau, sydd wedi dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi ein presenoldeb cryf ar y stryd fawr a hwylustod gwasanaethau digidol gwell. Dyna pam rwy’n falch o barhau â’n hymrwymiad i bresenoldeb hirdymor ar y stryd fawr a’n cymunedau sy’n sail i brofiad yr Aelodau. 

Ar yr un pryd, rydym wedi lansio ein gwefan newydd sy'n ein galluogi i barhau i wella'r profiad ar draws sianeli digidol a ffisegol. Rydym yn creu dyfodol lle mae gwasanaethau digidol a phersonol yn cydweithio, gan sicrhau bod Aelodau bob amser yn cael dewis sut y maent yn rhyngweithio â ni.

Mae’r camau strategol hyn yn rhan annatod o adeiladu Cymdeithas sy’n ymateb i anghenion newidiol Aelodau heddiw ac yn barod ar gyfer y dyfodol.”

Perfformiad Ariannol Cryf

Parhaodd Julie-Ann: “Rydym unwaith eto wedi sicrhau canlyniadau ariannol cadarn, wrth i ni lywio amgylchedd allanol anwadal yn y DU a ledled y byd.

Gwelwyd twf sylweddol mewn benthyca manwerthu o £1.2bn, gan gynyddu cyfanswm ein benthyciadau preswyl o £9.3bn i £10.5bn a ategwyd gan ein harferion benthyca cyfrifol a’n dull rheoli risg ceidwadol.

Mae twf arbedion o £1.7bn wedi bod yr un mor sylweddol, gan ein bod wedi ceisio cynnig gwerth i’n Haelodau drwy ein canghennau, gan sicrhau twf yn ein sianeli cynilo digidol.

Mae cyfanswm yr asedau dros £14.1bn erbyn hyn, (cynnydd o £1.6bn o £12.5bn yn 2023), sy’n dangos bod ein strategaeth o greu twf cynaliadwy a phwrpasol yn cyflawni ei gwaith.

Ein helw sylfaenol cyn treth oedd £40.3m (2023: £60.3m), gyda’r gostyngiad mewn elw wedi’i ysgogi gan leihad disgwyliedig mewn NIM (yn disgyn o 2023: 1.52% i 2024: 1.22%) a chostau untro sy’n gysylltiedig â’n newidiadau i’n model gweithredu. Yr elw cyn treth a nodwyd oedd £49.2m (2023: £60.3m) gan gydnabod enillion gwerth teg yn ystod y flwyddyn.

Yn y cyfamser, gwnaethom gynnal hylifedd cryf (2024 231%, 2023 203%) a sefyllfa gyfalaf (CET1 o 19.8% yn 2024. 21.8% yn 2023) i gefnogi twf a buddsoddiad parhaus yn y Gymdeithas er budd yr Aelodau gan sicrhau bod gennym gydnerthedd ariannol.”

Rhagolygon

I gloi, dywedodd Julie-Ann: “Wrth i ni edrych tuag at 2025 a thu hwnt, mae’r Gymdeithas yn parhau i fod yn barod i lywio’r dirwedd economaidd a gwleidyddol heriol yr ydym yn gweithredu ynddi. 

Gallai gorwel cyfradd sylfaenol is a chwyddiant is awgrymu rhagolygon mwy cadarnhaol i ddefnyddwyr y DU a’r economi, er bod pryder o hyd ynghylch costau byw i’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Hyderaf y bydd y Gymdeithas yn parhau i addasu a buddsoddi yn y tymor hir, gyda’n diben yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn. Boed yn helpu mwy o bobl i mewn i gartrefi neu’n adeiladu cydnerthedd ariannol ar gyfer ansicrwydd bywyd, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein Haelodau, ein cydweithwyr a’n cymunedau am 165 mlynedd arall.” 

Uchafbwyntiau Perfformiad Allweddol

  • Cyfanswm asedau: £14.1bn (Rhagfyr 2023: £12.5bn)
  • Balansau morgais manwerthu: £10.5bn (Rhagfyr 2023: £9.3bn)
  • Balansau cynilo: £10.8bn (Rhagfyr 2023 : £9.1bn)
  • Elw statudol cyn treth: £49.2m (Rhagfyr 2023: £60.3m)
  • Elw sylfaenol cyn treth: £40.3m (Rhagfyr 2023: £60.3m)
  • Cymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1: 19.8% (Rhagfyr 2023 21.8%)
  • Elw llog net: 1.22% (Rhagfyr 2023: 1.52%)
  • Cymhareb Costau Rheoli Statudol: 0.94% (Rhagfyr 2023 0.99%)