Skip to content
Log in

Canllaw i gyfrifon cynilo yn Principality

Pattern made of household objects.

Yn y canllaw hwn

Sut mae cyfrifon cynilo yn gweithio

Mae cyfrif cynilo yn eich galluogi i neilltuo arian nad ydych yn bwriadu ei wario ar unwaith. Mae cyfrifon cynilo yn cynnig lle diogel i chi gadw eich arian tra ei fod yn ennill llog. Mae'r llog rydych yn ei ennill yn seiliedig ar gyfradd llog eich cyfrif.

 

Nid oes terfyn i faint o gyfrifon cynilo y gallwch eu cael. Fodd bynnag, mae rhai o'n cyfrifon cynilo wedi'u cyfyngu i un fesul cwsmer.

 

Chi sy'n penderfynu faint y byddwch yn ei agor ac mae'n dibynnu ar sut yr hoffech gynilo.

Sut mae llog yn gweithio

Mae'r gyfradd llog ar eich cyfrif cynilo yn cynrychioli'r swm y bydd y banc neu gymdeithas adeiladu yn ei dalu i chi am gynilo gyda nhw. Gelwir yr arian rydych yn ei ennill o'ch cynilion yn llog.

 

Sut y caiff llog ei bennu

Mae Banc Lloegr yn pennu'r 'gyfradd sylfaenol' ar gyfer y DU. Os bydd y gyfradd sylfaenol yn codi, bydd cyfraddau banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn codi hefyd.

 

Mae sut rydym yn pennu ein cyfraddau hefyd yn dibynnu ar newidiadau i'r farchnad a'r hinsawdd economaidd. Felly, efallai y byddwn yn codi neu'n gostwng cyfraddau amrywiol y tu allan i newidiadau i'r gyfradd sylfaenol. A phan fydd y gyfradd sylfaenol yn newid, ni fyddwn o reidrwydd yn newid ein cyfraddau ein hunain.

 

Ar gyfer cynilwyr, mae cyfraddau llog uwch yn golygu eich bod yn ennill mwy o log ar eich cyfrifon. Gadewch i ni edrych ar enghraifft.

 

Sut mae llog yn gweithio

Os oes gennych £1,000 mewn cyfrif cynilo gyda chyfradd llog penodol o 1.00% bob blwyddyn, ar ôl 12 mis byddech wedi ennill £10 mewn llog. Felly, cyfanswm eich balans fydd £1,010 ar ôl ychwanegu eich llog.  Pe baech wedi agor cyfrif gyda chyfradd llog penodol o 5.00% bob blwyddyn yn lle, byddech wedi ennill £50, a byddai gennych gyfanswm o £1,050.  

Cyfrifon cynilo rydym yn eu cynnig

 

Cyfrifon cynilo rheolaidd

Wedi'u dylunio i'ch helpu i gynilo'n rheolaidd ac yn hyblyg. Nid oes yn rhaid i chi dalu i mewn bob mis. Cynilwch yn ôl y galw. Agorwch gyfrif gyda chyn lleied â £1. 


Rhagor o fanylion
Gweld cyfrifon cynilo rheolaidd

 

Cyfrifon mynediad rhwydd

Cynilwch yn hyblyg gyda'r rhyddid i gael mynediad at eich arian yn ôl yr angen. Dewiswch rhwng codi arian yn ddiderfyn neu fynediad cyfyngedig. Mae mynediad cyfyngedig fel arfer yn rhoi cyfradd llog well i chi.


Rhagor o fanylion
Gweld cyfrifon mynediad rhwydd

 

Bondiau cyfnod penodol

Clowch gyfandaliad am gyfnod penodol, fel arfer rhwng un a phum mlynedd. Ac os oes gan y bond gyfradd sefydlog, cewch sicrwydd am y cyflog llog tra bydd eich arian yn y cyfrif.

 
Rhagor o fanylion
Gweld bondiau cyfnod penodol

 

Cyfrifon cynilo i blant

Dechreuwch gynilo ar gyfer eich plant neu anogwch nhw i gynilo drostyn eu hunain gyda chyn lleied â £1. Mae angen i chi ymweld â ni yn un o'n canghennau neu asiantaethau i agor cyfrif i blant.


Rhagor o fanylion
Gweld cyfrifon i blant

 

ISAs Arian Parod

Enillwch log di-dreth ar hyd at £20,000 mewn ISA. Cofiwch, ni fydd llog a enillir ar arian mewn ISA yn cyfrif tuag at eich lwfans presennol. Mae gennym amrywiaeth o ISAs. Mae rhai yn cynnig codi arian yn ddiderfyn, mae rhai yn gyfyngedig, ac mae rhai nad ydynt yn caniatáu codi arian o'ch cyfrif.

 

Mae ein ISAs hyblyg yn eich galluogi i godi arian o'ch cyfrif a'i amnewid cyn diwedd yr un flwyddyn dreth. Nid yw pob un o'n ISAs yn hyblyg felly os yw hynny'n bwysig i chi, sicrhewch eich bod yn cadarnhau hyn cyn agor un.

 

Gallai cau eich cyfrif neu godi arian o'ch cyfrif olygu eich bod yn colli allan ar log. Cadarnhewch y telerau ac amodau.


Rhagor o fanylion
Gweld ISAs arian parod

 

Sut i ddewis cyfrif cynilo

Gofynnwch y cwestiynau hyn i chi'ch hun cyn i chi ddewis sut yr hoffech gynilo.


A hoffech allu cael mynediad at yr arian rydych yn ei gynilo?

Mae rhai cyfrifon yn eich caniatáu i godi arian gymaint ag y mynnwch. Mae gan eraill derfynau ar ba mor aml y gallwch godi arian. Ac nid yw eraill yn caniatáu i chi godi arian tan ddiwedd y tymor.

Am ba hyd yr hoffech roi eich arian i gadw?

Mae rhai cyfrifon yn gofyn i chi gadw'r cyfrif ar agor am gyfnod penodol cyn i chi godi'ch arian. Felly, meddyliwch yn ofalus am faint o amser yr hoffech roi eich arian i gadw.
  

A allwch ymrwymo i daliadau rheolaidd?

Gyda rhai cyfrifon, rydych yn cytuno i dalu lleiafswm yn rheolaidd.

 

Pethau eraill i'w hystyried

Gallai'r isod fod yn berthnasol i gyfrifon cynilo a gynigir gan y rhan fwyaf o fanciau neu gymdeithasau adeiladu. Cadarnhewch y telerau ac amodau bob amser:

  • efallai y bydd yn rhaid i chi ymrwymo i daliadau misol rheolaidd
  • efallai y bydd eich arian yn cael ei symud i fath gwahanol o gyfrif unwaith y daw cyfnod y cyfrif i ben
  • efallai y bydd codi arian neu beidio â gwneud taliadau rheolaidd leihau eich cyfradd llog

A fyddwch yn talu treth ar eich cynilon?

Gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn ISA yn y flwyddyn dreth 2024/25, a hynny'n ddi-dreth. Bydd y llog rydych yn ei ennill yn ddi-dreth, ac ni fydd yn cyfrif tuag at eich lwfans personol. Gall rheolau ISAs newid, felly mae'n werth sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y rheolau diweddaraf a sut maent yn effeithio ar eich cynilion.

 

Gallai'r llog rydych yn ei ennill ar unrhyw arian mewn cyfrif cynilo nad yw'n ISA fod yn agored i dreth.

 

Gall y rhan fwyaf o bobl ennill rhywfaint o log o'u cynilion heb dalu treth. Eich lwfans cynilo personol (PSA) yw'r swm y gallwch ei ennill mewn llog cyn y codi treth arnoch.

 

Ynglŷn â'ch Lwfans Cynilo Personol

Mae faint yw eich PSA yn dibynnu ar gyfradd y dreth incwm rydych yn ei thalu.
Eich band treth incwm  Faint y gallwch ei ennill mewn llog cyn y codir treth arno 
Cyfradd sylfaenol (20%)   £1,000
Cyfradd uwch (40%)   £500
Cyfradd ychwanegol (45%)   £0 (Dim PSA)

Mae gan wefan y Llywodraeth ragor o wybodaeth am eich lwfans cynilo personol

 

Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei chyhoeddi.

 

*Mae di-dreth yn golygu nad yw'r llog rydych wedi'i ennill yn agored i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Mae triniaeth treth yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol a gallai newid yn y dyfodol.

 

An illustrated percentage symbol within a circle. (Welsh)

Cymharu’r holl gyfrifon cynilo

Eisiau gweld popeth? Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.