Penodi ein Cadeirydd Etholedig newydd i'r bwrdd
Yn yr erthygl hon
Ynglŷn â Simon Moore, ein Cadeirydd Etholedig newydd
Heddiw, mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn cyhoeddi y bydd Simon Moore yn ymuno â’i bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd Etholedig.
Mae Simon yn brofiadol iawn ac yn uchel ei barch yn y diwydiant Gwasanaethau Ariannol. Yn dilyn gyrfa yn y fyddin, mae wedi dal rolau yn Lloyds Banking Group, Chase Manhattan, ABN Amro a Banc Barclays. Gweithredodd Simon fel Rheolwr Gyfarwyddwr Barclays Masnachol Cymru a’r De-orllewin, ac mae ganddo gysylltiad cryf â Chymru a busnes yng Nghymru. Mae Simon wedi gweithredu fel Cadeirydd sefydliad cydfuddiannol blaenllaw arall, LV=, yn ogystal â gweithredhu ar nifer o fyrddau eraill.
Beth sy'n digwydd nesaf
Yn amodol ar gymeradwyaeth reoliadol, bydd Simon yn cymryd yr awenau fel Cadeirydd oddi wrth Sally Jones-Evans, yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Mae Sally wedi gweithredu fel Cadeirydd ers mis Ebrill 2021, ac fel aelod bwrdd ers mis Chwefror 2015. Mae Sally yn gadael gwaddol cryf ar ei hôl. Ymhlith llwyddiannau eraill, mae Sally wedi sicrhau bod y bwrdd a’r uwch-dîm yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethir gan Principality yn well. Yn ogystal, mae hi wedi sicrhau bod strategaeth y Gymdeithas yn parhau i ganolbwyntio ar ei diben: helpu mwy o bobl i gynilo a chael lle i’w alw’n gartref.
Gair gan Simon
"Braint i mi yw ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd Etholedig Principality," meddai Simon Moore. “O dan arweiniad Sally, mae Principality yn ffynnu, ac rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y gwaddol hwnnw. Ynghyd â’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ymroddedig a’r tîm cyfan yn Principality, byddwn yn parhau i ddarparu gwerth a gwasanaeth i’n haelodau."
Bu'n fraint gweithredu fel Cadeirydd am y tair blynedd diwethaf, ac fel aelod o'r bwrdd am y naw diwethaf," meddai Sally Jones-Evans. "Mae llesiant ariannol ein haelodau wrth wraidd opeth a wnawn, a bu'n bleser gweld y Gymdeithas yn helpu cynifer ohonynt. Hoffwn ddiolch i’r holl aelodau a chydweithwyr a dymuno’n dda i chi i gyd wrth i Principality ddechrau ar ei phennod nesaf."
Mae Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn rhoi ei diolchiadau gwresog i Sally Jones-Evans, y mae ei harweinyddiaeth ragorol wedi bod yn allweddol i gyflawniadau diweddar y Gymdeithas.
- Newyddion y gymdeithas