Gwefan newydd, profiad gwell
Yn yr erthygl newyddion hon
Symleiddio pethau i chi
Rydyn ni wedi bod yn gwrando! Dywedoch chi:
1. Bod ein gwefan yn anhrefnus ac yn ddryslyd.
2. Nid oedd yn hawdd dod o hyd i'r hyn yr oeddech ei angen...
3. ...yn enwedig ar eich ffôn symudol.
Drwy ddeall yr hyn sydd ei angen arnoch, rydym wedi ailgynllunio ein gwefan, fel y gallwch ddefnyddio a dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch yn haws.
Beth sydd wedi newid?
Beth sydd wedi newid? |
Beth sydd wedi'i hepgor? |
---|---|
Mynediad mwy syml a didrafferth at gyfrifon cynilo a chynhyrchion morgais, gan gynnwys hidlyddion gwell i'ch helpu i leihau'r hyn rydych chi'n edrych amdano, a chardiau cynhyrchion, fel y gallwch gymharu cynhyrchion ar un olwg. |
Llawer o restrau o gynhyrchion gwahanol, dryslyd sy'n ei gwneud yn anodd dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch. Dywedoch wrthym ei bod hi'n anodd chwilio am gyfrifon cynilo a morgeisi, a'i bod hi'n anodd cymharu'r rhai yr oedd gennych ddiddordeb ynddynt. |
Canolfan gymorth newydd gydag atebion i'ch cwestiynau. Mae'n debyg i Gwestiynau Cyffredin defnyddiol gydag atebion i'ch cwestiynau. Hefyd, dros 50 o ganllawiau sydyn i'ch helpu gyda'ch cynilion, morgais, yswiriant a phenderfyniadau am gartref cyntaf. |
Gwybodaeth wedi'i gwasgaru dros fil o dudalennau. |
Rydym wedi ad-drefnu ein dewislen yn is-gategorïau i'w gwneud yn haws i chi ddod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch. Rydym wedi creu silffoedd wedi'u labelu'n glir mewn gofod newydd a threfnus. |
Bar llywio anniben a dryslyd. |
Rydym wedi gwella'r defnydd o liwiau hygyrch i wella cyferbyniad a darllenadwyedd ar gyfer darllenwyr sgrin. |
Rydym yn dwlu ar ein lliw ‘draig goch’, ond mae’n gwneud pethau’n anodd i’w darllen ar-lein ac nid oedd yn wych ar gyfer hygyrchedd. Byddwch yn parhau i'w weld yma ac acw. |
Iaith syml wedi'i chyfuno ag eiconau a darluniau newydd i symleiddio gwybodaeth ariannol gymhleth.
|
Jargon ariannol dryslyd ar dudalennau plaen, anniddorol. |
Pam rydym wedi newid pethau
Rydym wedi gweithio'n galed i wneud pethau'n symlach ac yn haws i chi, ac rydym wedi ychwanegu rhai pethau newydd i’n hunaniaeth brand ond heb symud yn rhy bell oddi wrth y gwedd a'r naws rydych yn ei ddisgwyl gennym yn y Principality. Rydym wedi gwrando ar fewnbwn gan ein Haelodau ar bob cam ac rydym yn gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn eich helpu i ddefnyddio'r wefan.
Rydym yn mynd i barhau i wella pethau wrth fynd ymlaen. Byddwn yn brysur yn deall beth sy'n gweithio, yn addasu ac yn diweddaru pethau, ac yn ychwanegu offer a swyddogaethau newydd i'ch helpu i wneud penderfyniadau am eich cynilion a morgeisi.
- Newyddion y gymdeithas