Newid eich cytundeb morgais
Yn y canllaw hwn
Egluro newid
Newid eich morgais yw pan fyddwch yn newid cynnyrch eich morgais. Gallwch naill ai symud eich morgais i fenthyciwr newydd, a elwir yn ailforgeisio. Neu gallwch newid eich morgais o un cynnyrch i gynnyrch arall, gyda'r un benthyciwr, a elwir yn trosglwyddo cynnyrch.
Pryd y gallwch newid?
Gallwch newid eich morgais ar unrhyw adeg, ond er mwyn osgoi talu ffioedd ad-dalu'n gynnar (ERC) mae'r rhan fwyaf o bobl yn newid pan fydd eu cytundeb yn dod i ben.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis newid eu cytundeb morgais ychydig cyn i'w cytundeb morgais ddod i ben. Mae hyn er mwyn osgoi cael eu symud i Gyfradd Amrywiadwy Safonol (SVR) y benthyciwr. Yn gyffredinol, mae gan forgeisi SVR gyfraddau llog uwch, gyda'r ad-daliad misol yn debygol o newid yn rheolaidd.
Ffyrdd o newid
Cael cyngor gan fenthyciwr
Gallwch geisio cyngor gan eich benthyciwr morgais, a elwir yn gyngor 'bwriadol'. Bydd ymgynghorydd morgeisi yn edrych ar eich sefyllfa ariannol, balans eich morgais a gwerth eich eiddo i awgrymu'r cynnyrch mwyaf addas i chi.
Dewis cynnyrch newydd eich hun
Gallwch ddewis cytundeb heb gael cymorth neu drafod eich sefyllfa ariannol, a elwir yn gyngor 'anfwriadol'. Yn aml gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddod o hyd i gytundeb a dilyn proses y benthyciwr o wneud cais.
Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu:
- Na fyddwch yn cael eich diogelu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol am asesu addasrwydd y newid.
- Ni fyddwch yn gallu cwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am yr agwedd hon ar eich cytundeb morgais.
- Ni fyddwch yn gallu hawlio dan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol am yr agwedd hon ar eich cytundeb morgais.
- Os byddwch yn dewis cynnyrch newydd eich hun, bydd gennych hawl o hyd i gwyno neu i gael iawndal os aiff unrhyw beth arall o'i le gyda'ch morgais.
- Mortgages
Amser trafod newid?
Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi 0330 333 4030
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp