Skip to content
Log in

Cludo'ch morgais

Young couple packing a car with moving boxes.

Yn y canllaw hwn

Cludo: beth mae'n ei olygu? 

Yn syml, cludo'ch morgais yw pan fyddwch yn prynu cartref newydd ond yn cadw'ch cyfradd morgais gyfredol.
 

Os byddwch yn dewis cludo'ch morgais rydych yn dewis aros gyda'ch benthyciwr cyfredol pan fyddwch yn symud cartref.  

Sut mae'n gweithio? 

Pan fyddwch yn 'cludo' eich morgais rydych yn symud y cytundeb/cyfradd ac nid y benthyciad. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi ailymgeisio o hyd, gan eich bod yn gofyn i'r benthyciwr am ailfenthyca'r arian i chi.
 

Pan fyddwch yn ailymgeisio, bydd y benthyciwr yn adolygu'r canlynol: 

  • y gymhareb rhwng benthyca a gwerth eich eiddo newydd
  • newidiadau i'r meini prawf benthyca
  • amgylchiadau personol ac unrhyw newidiadau
  • eich sefyllfa ariannol (gan gynnwys incwm)  

Pan fydd y rhain wedi'u hadolygu ac os caiff ei dderbyn, byddwch yn dilyn yr un broses ag y byddech pe byddech yn cymryd morgais newydd.  

Ai cludo yw'r opsiwn cywir? 

Yn dda ar gyfer y rhai

Efallai na fydd yn iawn os

Sydd mewn morgais cyfnod penodol ac nad ydynt am dalu Ffi Ad-dalu'n Gynnar

Yw cyfraddau llog ar y cytundeb newydd yn is

Sydd am osgoi talu ffioedd ymadael

Yw eich amgylchiadau wedi newid – efallai na fyddwch yn gymwys mwyach pan fyddwch yn ailymgeisio am gytundeb

Y mae gan eu cyfradd/cytundeb cyfredol gyfradd llog morgais is na chytundebau eraill sydd ar gael

 

Sydd am osgoi chwilio am gytundeb newydd

 

Sydd â chytundeb morgais sy'n 'gludadwy'

 

Beth os hoffech fenthyca mwy

Os ydych yn symud i eiddo drutach, efallai y bydd angen i chi ychwanegu at eich benthyciad morgais. Byddai angen rhoi'r swm ychwanegol rydych yn ei fenthyca ar gytundeb gwahanol, gyda chyfradd wahanol. Bydd hyn yn rhannu'r morgais yn ddau ran:
 

Rhan 1: y morgais rydych yn ei ‘gludo’ yw o'ch eiddo cyfredol i'ch eiddo newydd 
 

Rhan 2: yr arian ychwanegol rydych yn ei fenthyca ar gytundeb newydd
 

Enghraifft: Benthyca mwy

Mae Lisa a Jim yn bwriadu symud i gartref newydd. 
 

Gwerth eu heiddo cyfredol yw £160,000. Balans eu morgais yw £130,000, sy'n golygu bod ganddynt £30,000 mewn ecwiti. 
 

Mae'r cartref newydd yr hoffent ei brynu gwerth £200,000. Maent yn bwriadu defnyddio £30,000 o'u hecwiti fel blaendal a benthyca'r £170,000 sy'n weddill.  
 

Maent yn dewis cludo eu morgais cyfredol, gan drosglwyddo'r balans o £130,000 a benthyca £40,000 yn ychwanegol drwy gytundeb morgais newydd i dalu am weddill cost eu cartref newydd. Byddai hyn yn golygu mai balans newydd eu morgais yw £170,000.
 

Ystyriwch y gallai benthyca ychwanegol fod yn ddrutach oherwydd gallai eich cymhareb rhwng benthyciad a gwerth fod yn uwch. 

Beth os hoffech fenthyca llai

Gallwch 'gludo' eich morgais a benthyca llai. Fodd bynnag, rhaid i chi sicrhau bod eich LTV newydd yr un fath â'ch morgais cyfredol.  

Enghraifft: Benthyca llai

Mae Dan ac Adam eisiau symud i gartref newydd.. 
 

Gwerth eu cartref cyfredol yw £200,000, ac mae arnynt £150,000 ar eu morgais, felly mae ganddynt £50,000 mewn ecwiti, sef 75% o werth y cartref. 
 

Gwerth y cartref newydd maent yn ei hoffi yw £160,000. Hoffent gael rhywfaint o arian i'w roi tuag at wneud gwelliannau i'r cartref, felly maent yn penderfynu defnyddio £40,000 o'u hecwiti fel blaendal a benthyca £120,000 fel morgais. Mae hyn yn caniatáu iddynt ryddhau £10,000 i wneud gwelliannau i'r cartref. 

An illustrated arrow, facing right and within a circle. (Welsh)

Eisiau trafod y camau nesaf?

Ffoniwch ein arbenigwyr mnorgeisi ar 0330 333 4002

dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp