Ailforgeisio'ch cartref
Yn y canllaw hwn
Beth yw ailforgeisio?
Gelwir newid eich cynnyrch morgais i fenthyciwr newydd yn ailforgeisio.
Pryd i ystyried ailforgeisio?
Gallwch ailforgeisio unrhyw bryd. Serch hynny, efallai y bydd angen i chi dalu Ffi Ad-dalu'n Gynnar os byddwch yn ailforgeisio cyn i gyfnod eich cynnyrch ddod i ben.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis newid eu morgais ychydig cyn i'w cytundeb morgais ddod i ben. Mae hyn er mwyn osgoi cael eu symud i Gyfradd Amrywiadwy Safonol (SVR) y benthyciwr. Yn gyffredinol, mae gan forgeisi SVR gyfradd llog uwch, gyda'r ad-daliad misol yn debygol o newid yn rheolaidd.
Efallai y byddwch hefyd yn dewis ailforgeisio os yw gwerth eich cartref wedi cynyddu a'ch bod am symud i gynnyrch sy'n cynnig cymhareb rhwng benthyciad a gwerth (LTV) is. Yn gyffredinol, mae cynhyrchion morgeisi gydag LTV is yn cynnig cyfradd llog is.
Efallai yr hoffech newid y math o forgais sydd gennych. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu rhenti'ch cartref ac ailforgeisio o gynnyrch preswyl i gynnyrch prynu i osod.
Pryd y byddwch yn aros i ailforgeisio
Mae'n bosibl y byddech am aros i ailforgeisio os oes arnoch fwy ar eich morgais na gwerth yr eiddo. Gelwir hyn yn ecwiti negyddol. Efallai y byddwch am aros i newid er mwyn osgoi ffioedd ad-dalu'n gynnar (ERC).
Sut i ailforgeisio
Dylech geisio cyngor gan ymgynghorydd neu frocer morgeisi os ydych yn ystyried ailforgeisio. Gallant eich helpu i benderfynu pa opsiwn a allai fod yn briodol i chi.
Cyn i chi ailforgeisio, bydd angen i chi hefyd wybod:
Gwerth y cartref
Pan fyddwch yn ailforgeisio, mae'n debygol y byddai gwerth eich cartref wedi newid. Mae'n debygol y byddwch yn newid i gynnyrch morgais gwahanol yn seiliedig ar yr LTV.
Os ydych yn breswylydd yng Nghymru, gallwch ddefnyddio ein Mynegai Prisiau Tai Cymru
Balans eich morgais
Efallai y byddwch yn gofyn i'ch benthyciwr am ddatganiad adbryniant i ganfod balans eich morgais sy'n weddill.
Ffioedd a thaliadau
Ffioedd prisio
Mae'n bosibl y bydd angen i chi dalu i gael prisiad o'ch cartref. Cadarnhewch gyda'ch benthyciwr a yw'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Ffioedd cyfreithiol
Er mwyn cwblhau chwiliadau a throsglwyddo arian morgais o un benthyciwr i fenthyciwr arall, bydd angen cymorth cyfreithiol arnoch. Efallai y codir tâl arnoch am y gwasanaeth hwn, neu efallai y caiff ei gynnig am ddim gan fenthyciwr.
Os byddwch yn symud i Gymdeithas Adeiladu Principality
Os byddwch yn penderfynu ailforgeisio gyda ni, mae'n bosibl y codir ffi cynnyrch arnoch. Bydd hyn yn dibynnu ar y cynnyrch rydych yn ei ddewis.
Efallai y bydd angen i chi hefyd gadarnhau gyda'ch benthyciwr a fydd angen i chi dalu unrhyw un o'r canlynol:
- Ffioedd ad-dalu'n gynnar
- Ffioedd ymadael/adbryniant
Os byddwch yn symud o Gymdeithas Adeiladu Principality i fenthyciwr newydd
Os byddwch yn dewis symud i fenthyciwr newydd cyn i gyfnod eich morgais ddod i ben, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu Ffi Ad-dalu'n Gynnar. Mae hyn fel arfer rhwng 1% a 5% o falans eich morgais sy'n weddill.
Os hoffech osgoi talu ERC bydd angen i chi aros tan ddiwedd cyfnod eich cynnyrch cyn i chi newid. Rhaid i chi ddweud wrth y darparwr newydd a'r cyfreithwyr yn ystod y broses o wneud cais eich bod am wneud hyn. Er enghraifft, os yw'ch cynnyrch morgais yn dod i ben ar 31 Ionawr 2025, dylech symud i'r darparwr newydd o 1 Chwefror 2025.
- Mortgages
Amser i drafod ailforgeisio?
Ffoniwch ein harbenigwyr morgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp