Pam ddylwn i ddeall fy sgôr credyd?
Yn y canllaw hwn
Pam mae hyn yn bwysig:
Mae benthycwyr yn defnyddio eich sgôr credyd i benderfynu pa mor ddibynadwy ydych chi wrth fenthyca ac ad-dalu arian.
Beth yw sgôr credyd?
Sgôr credyd yw rhif 3 digid y mae benthycwyr yn ei ddefnyddio i ganfod pa mor ddibynadwy ydych chi wrth ad-dalu unrhyw arian rydych yn ei fenthyca. Mae'n berthnasol i forgeisi, cardiau credyd, a benthyciadau, ac yn helpu benthycwyr i benderfynu:
- a ddylid cynnig credyd i chi
- faint o gredyd y dylent ei gynnig
- y gyfradd llog y dylid ei gweithredu
Sut ydw i'n cael gwybod beth yw fy sgôr credyd?
Gallwch ddod o hyd i'ch sgôr credyd o Asiantaethau Gwirio Credyd (CRA) a benthycwyr. Mae'r tair asiantaeth isod yn cynnig adroddiad credyd am ddim:
- Experian, Money Saving Expert Credit Club
- Equifax, ClearScore
- TransUnion, Karma
Beth mae fy sgôr credyd yn ei olygu?
Mae'r system sgorio yn amrywio o wael i ardderchog. Gall sgôr credyd 'gwael' olygu bod benthycwyr o'r farn y gallech fod yn annibynadwy wrth ad-dalu'r credyd a gallent wrthod benthyca i chi. Neu efallai y byddwch ond yn gymwys am gynigion gyda chyfradd llog uwch, a fydd yn golygu bod benthyca yn costio mwy i chi.
Mae sgôr ‘ardderchog’ yn golygu eich bod yn fwy tebygol o gael eich cais wedi'i dderbyn a gallech gael cynnig cyfraddau llog gwell neu swm credyd uwch.
Sut ydw i'n gwella fy sgôr credyd?
Pam mae hyn yn bwysig:
Gallai gwella eich sgôr credyd olygu bod benthycwyr yn fwy bodlon cynnig credyd i chi. Gallai hefyd eich helpu chi i fod yn gymwys am gytundebau gyda chyfradd llog is.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Ar ôl canfod eich sgôr credyd, efallai y byddwch am ystyried ffyrdd y gallwch ei wella, cyn gwneud ceisiadau i fenthycwyr. Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud a fydd yn helpu i wella eich sgôr, gan gynnwys:
- talu eich biliau ar amser
- gwirio eich adroddiad credyd am wallau a chamgymeriadau teipio cyn cyflwyno
- cofrestru i bleidleisio pan fyddwch yn newid eich cyfeiriad
- peidio â gwneud cais am lawer o fenthyciadau mewn cyfnod byr
Beth sy'n effeithio ar eich sgôr credyd?
Mae'n bwysig hefyd deall pa ffactorau a allai effeithio ar eich sgôr credyd. Dyma rai ystyriaethau:
- dim neu fawr ddim profiad gyda chredyd
- methu â thalu taliadau wrth fenthyca, gan gynnwys ‘prynu nawr a thalu'n nes ymlaen’
- gormod o geisiadau mewn cyfnod byr
- eisoes mewn llawer o ddyled
- symud cartref heb ddiweddaru'r gofrestr etholiadol
- defnyddio'ch credyd i gyd bob mis
- peidio â chau hen gyfrifon credyd
- Getting started
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.