Skip to content
Log in

Cymorth gan y teulu i brynu tŷ am y tro cyntaf

 A grandmother, mother and child sit on an armchair and smile at a tablet screen.

Yn y canllaw hwn

Ffyrdd y gall eich teulu helpu

Efallai fod gennych aelodau o'r teulu sy'n fodlon eich helpu i brynu eich cartref cyntaf.

 

Gallai cymorth ariannol gan eich teulu eich helpu i gyrraedd eich nodau'n gyflymach, ond mae'n bwysig bod cyd-ddealltwriaeth rhyngoch chi i gyd.

 

Efallai y bydd pawb dan sylw am gael cyngor cyfreithiol neu ariannol annibynnol. Gall hyn helpu i sicrhau bod pawb yn cael yr holl wybodaeth ac yn cael eu diogelu.

 

Gall eich teulu eich helpu i brynu tŷ am y tro cyntaf mewn ychydig o ffyrdd gwahanol.

 

Rhoi arian tuag at eich blaendal

Gall aelod o'r teulu rhoi cyfandaliad o arian tuag at eich blaendal. Dylai pawb ddeall na fyddwch yn ad-dalu'r arian, ac na fydd ganddo unrhyw hawliau cyfreithiol dros eich eiddo.
 

Beth i'w wneud: 

  • Cael prawf o'r arian

    bydd ein cyfreithiwr a'n benthyciwr am weld prawf o ble ddaeth yr arian a roddwyd i chi; bydd cyfriflen banc fel arfer yn gwneud y tro.

  • Cael cyngor

    nid yw'n beth braf meddwl amdano, ond efallai y bydd angen i chi dalu treth etifeddiaeth os yw'r person sy'n rhoi'r arian i chi o fewn saith mlynedd i roi'r arian i chi. Mae'n werth cael cyngor ariannol annibynnol i fod yn glir ynghylch a fyddech yn atebol i dalu treth etifeddiaeth os digwydd y gwaethaf.

Benthyca arian tuag at eich blaendal

Gall aelod o'r teulu fenthyca'r arian i chi, yn lle ei roi i chi. Os yw'r arian yn fenthyciad yn hytrach na rhodd, mae disgwyl i chi ad-dalu'r aelod o'ch teulu. Gall cytundeb benthyca ffurfiol gynnwys manylion cynllun ad-dalu ac unrhyw log y gallai fod angen i chi ei dalu ar y swm y mae ei fenthyca i chi.

 

Beth i'w wneud: 

  • Cael prawf o'r benthyciad

    bydd eich benthyciwr am weld eich cytundeb benthyciad a dylech gadw mewn cof y gallai rhai benthycwyr wrthod blaendal wedi'i fenthyca.

  • Cael cyngor

    dogfen gyfreithiol yw cytundeb benthyciad, felly bydd angen gweithiwr proffesiynol cyfreithiol i wneud y gwaith hwn i chi. Gallai siarad â chynghorydd morgeisi hefyd fod yn ddefnyddiol i gael deall pa fenthycwyr sy'n debygol o dderbyn blaendal wedi'i fenthyca.

 

 

Angen help llaw?

Mae angen ychydig o help weithiau i gamu ar yr ysgol eiddo. Mae gennym rai ffyrdd y gallwch gael cymorth ychwanegol.