Skip to content
Log in

Faint sydd angen i mi ei gynilo?

A couple look at a piece of paper showing finances. The Woman holds baby and the man holds phone.

Yn y canllaw hwn

Faint sydd angen i mi ei gynilo?

I ddechrau, mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am flaendal o 10%. Gall prynwyr tro cyntaf gael morgais gyda llai na hyn, ond gallai cynilo mwy rhoi hwb i chi fod yn fwy tebygol o gael eich derbyn ar gyfer morgais, neu eich helpu i gael cytundebau gwell.

 

Mae cael blaendal mwy yn golygu y gallwch wneud cais am forgeisi benthyciadau a gwerth (LTV) is. Fel arfer mae gan y morgeisi hyn gyfraddau llog is.

 

Felly po fwyaf yw eich blaendal, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn gallu cael cytundebau morgais gyda chyfradd llog is.

 

Gallai cynilo am gyfnod hwy i gael blaendal mwy eich helpu i dalu llai tuag at gyfanswm gwerth eich morgais dros amser, o gymharu â'r hyn y byddech yn ei dalu ar gytundeb morgais gyda chyfradd llog uwch.

Faint ddylech chi ei gynilo?

Mae'r ateb yn dibynnu ar beth sy'n bwysig i chi. Efallai yr hoffech brynu eich cartref cyntaf cyn gynted â phosibl, neu efallai eich bod yn fodlon aros a chynilo am gyfnod hwy i gael cytundebau morgeisi gwell.

 

Bydd angen i chi hefyd gyllidebu ar gyfer costau eraill. Gallwch ddisgwyl talu pethau fel ffioedd cyfreithiol, trethi, ac arolygon.

 

Gall hyn i gyd eich llethu. Dyna pam rydym wedi creu'r ap Camau Cartref Cyntaf. Defnyddiwch yr ap i ddadansoddi'r holl gostau ychwanegol a chael eich cynllun cynilion personol.

Gall prynu eich cartref cyntaf deimlo'n llethol

Mae ein ap am ddim wedi ei gynllunio i'ch tywys drwy'r broses o brynu cartref cyntaf. Dilynwch y camau i ddeall y jargon a gwybod beth i'w wneud a phryd i baratoi ar gyfer morgais.