Skip to content
Log in

Egluro morgeisi a blaendaliadau

Two women sit at a dining table. One is making lunch and another holds a touchpad.

Yn y canllaw hwn

Beth yw morgais? 

Pan fyddwch yn prynu eich cartref cyntaf, mae'n bwysig deall beth yw morgais. Mae morgais yn ymrwymiad ariannol mawr – un sy'n para amser hir ac iddo rai risgiau. Rhaid i chi fod yn hyderus y gallwch fforddio'ch ad-daliadau nawr ac yn y dyfodol.

 

Yn syml, benthyciad yw morgais. Mae'n swm o arian rydych yn ei fenthyca gan fenthyciwr i brynu cartref. Fodd bynnag, mae dau beth sy'n gwahaniaethu rhwng morgais a mathau o fenthyciadau eraill rydych yn gwybod amdanynt. 

  1. Mae'r benthyciad ynghlwm wrth eich cartref

    Morgais yw'r hyn a elwir yn fenthyciad 'diogel'. Yn gyfnewid am roi swm mawr o arian i chi, mae'r benthyciwr yn defnyddio'r eiddo rydych yn ei brynu fel gwarant. Os na allwch wneud ad-daliadau rheolaidd, mae hawl gan eich benthyciwr adfeddu eich cartref a'i werthu i adennill yr arian a fenthyciwyd gennych.

  2. Mae'r benthyciad yn cymryd amser hir i'w ad-dalu

    Caiff morgeisi eu had-dalu (gyda llog) dros gyfnod hir – a elwir yn 'gyfnod' eich morgais. Mae cyfnodau morgais fel arfer tua 25 - 30 mlynedd, felly hyd yn oed os yw cyfradd llog eich morgais yn isel, byddwch yn dal i dalu llawer amdano dros amser.

Beth yw blaendal? 

Mae blaendal yn gyfandaliad rydych yn ei dalu ymlaen llaw tuag at yr eiddo rydych am ei brynu. Bydd eich morgais yn talu'r gweddill. Mae benthycwyr fel arfer yn gofyn am flaendaliadau am ddau reswm:

  1. Fel prawf o'ch disgyblaeth ariannol a'ch ymrwymiad i'r pryniant
  2. Lleihau'r risg y maent yn ei chymryd wrth fenthyg morgais i chi 

Pam mae angen blaendal arnoch?  

Benthyciad diogel yw morgais; mae'r swm rydych yn ei fenthyca yn cael ei ‘ddiogelu’ yn erbyn yr eiddo rydych yn ei brynu. Mae hynny'n golygu os na fyddwch yn ad-dalu eich morgais, bydd yr eiddo yn mynd at y benthyciwr er mwyn iddo allu adennill cost y benthyciad a fenthyciwyd gennych.
  
Pan fydd banc neu gymdeithas adeiladu'n rhoi benthyg morgais, maent yn ei hanfod yn cymryd risg na fydd prisiau tai'n gostwng. Dychmygwch eich bod newydd brynu tŷ am £200,000 gan ddefnyddio benthyciad o £200,000. 

 

Pe bai prisiau tai yn gostwng yn sylweddol a'ch bod ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, byddai'r benthyciwr ar ei golled. Mae hynny oherwydd hyd yn oed pe bai'n cymryd yr eiddo yn ôl oddi wrthych, byddai'n werth llai na'r swm o arian a fenthyciwyd i chi i'w brynu. Dyna pam mae benthycwyr yn gofyn am flaendal. 

Faint ddylech chi ei gynilo ar gyfer blaendal? 

Os byddwch yn talu blaendal o 10%, byddai angen i brisiau tai ostwng 10% cyn na fyddai'ch benthyciwr yn gallu talu swm llawn y benthyciad (os nad oeddech yn gallu ei ad-dalu). 
  
Felly po fwyaf yw eich blaendal, y lleiaf yw'r risg i fenthycwyr rhoi morgais i chi

Mae maint eich blaendal yn bwysig oherwydd gall effeithio ar ba mor debygol ydych o gael cytundeb morgais da pan fyddwch yn barod i wneud cais.