Deall LTV
Yn y canllaw hwn
Beth yw LTV?
Mae'r ymadrodd ‘LTV’ yn golygu'r gymhareb rhwng benthyciad a gwerth. Mae'n ganran y mae benthycwyr yn ei defnyddio i ddisgrifio faint o gyfanswm gwerth eiddo sy'n cael ei fenthyca fel morgais.
Mae morgeisi gydag LTV is yn tueddu i gynnig cyfraddau llog is. Felly, po fwyaf yw canran eiddo y gallwch ei chynilo fel blaendal, yr isaf yw eich LTV, a'r mwyaf tebygol y byddwch o gael cytundebau morgais gwell.
Beth i feddwl amdano wrth gynilo eich blaendal?
Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am flaendal o 10% o leiaf er mwyn gallu cael morgais. (Er y gall rhai prynwyr tro cyntaf gael morgais gyda blaendal is).
Dywedwch fod yr eiddo rydych am ei brynu yn £200,000. Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am flaendal o £20,000 o leiaf; sef 10% o gyfanswm gwerth yr eiddo.
Y 90% sy'n weddill - £180,000 yn yr enghraifft hon - fydd y swm rydych yn ei fenthyca fel eich morgais. Gelwir hyn yn 'Gymhareb rhwng benthyciad a gwerth' - neu LTV. Felly, LTV ar forgais am eiddo gwerth £200,000 gyda blaendal o £20,000 yw 90%.
Sut i gael LTV is?
Os gallwch gynilo blaendal sy'n fwy na 10% o werth yr eiddo byddai eich LTV yn is. Gan barhau â'r enghraifft uchod, dywedwch fod gennych flaendal o £25,000 ar gyfer y tŷ yr hoffech ei brynu sydd werth £200,000. £25,000 yw 15% o gyfanswm gwerth y tŷ, felly LTV eich morgais fyddai 85%.
Faint y dylech ei gynilo ar gyfer blaendal?
Mae'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn gofyn am flaendal sydd o leiaf 10% o werth y cartref. Fodd bynnag, gallai cynilo mwy roi hwb i'r tebygolrwydd y byddwch yn cael eich derbyn ar gyfer morgais, neu eich helpu i gael cytundebau gwell.
Mae cael blaendal mwy yn golygu y byddwch yn gallu gwneud cais am forgeisi gydag LTV is, ac fel arfer mae gan y morgeisi hyn gyfraddau llog is.
Mae LTV hefyd yn bwysig ar gyfer y dyfodol
Mae LTV yn bwysicach fyth pan fyddwch yn ailforgeisio, gan fod prisiau eiddo yn amrywio. Cyfrifir LTV ar yr eiddo rydych yn berchen arno yn seiliedig ar ei werth pan fyddwch yn ailforgeisio.
Os bydd gwerth eich tŷ yn gostwng, efallai y bydd arnoch fwy o arian i'r benthyciwr na gwerth y tŷ. Gelwir hyn yn ecwiti negyddol ac fel arfer mae'n golygu na allwch ailforgeisio i fenthyciwr newydd.
Fodd bynnag, os yw gwerth eich cartref yn cynyddu gallai eich LTV ostwng, gan ei gwneud yn fwy tebygol y byddech yn gallu cael cytundebau morgais gwell gyda chyfraddau llog is.
- Getting started
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.