Skip to content
Log in

Cyfraddau llog morgeisi

Woman has foot on ladder, thinking, she is decorating. Her white dog relaxes on the floor.

Yn y canllaw hwn

Beth rydym yn ei olygu wrth gyfradd llog morgeisi? 

Pan fyddwch yn cymryd morgais, mae'n bwysig deall cyfraddau llog a sut maent yn effeithio arnoch.

 

Dros gyfnod eich morgais, efallai y bydd adegau pan fydd cyfraddau llog uwch yn golygu bod eich ad-daliadau misol yn uwch.

 

Pan fyddwch yn cymryd morgais mae angen i chi ystyried a allwch fforddio talu mwy yn y tymor hwy pe bai cyfraddau llog yn codi.

 

Cyfradd llog morgais yw'r swm y mae darparwr yn ei godi arnoch i 'fenthyca' arian oddi wrtho.

A £300,000 mortgage over 25 years at 4.63% interest rate would cost a total of £506,936, including £206,936 in interest.

Pam mae gwahaniaethau rhwng cyfraddau llog? 

Efallai y byddwch yn gweld bod cynhyrchion morgais gwahanol yn cynnig cyfraddau llog gwahanol. Mae hyn fel arfer oherwydd bod y telerau rhwng cynhyrchion morgais yn wahanol, er enghraifft, hyd yr amser neu'r Benthyciadau a Gwerth (LTV). 

 

Dros amser, efallai y byddwch hefyd yn gweld bod cyfraddau llog yn codi ac yn gostwng. Effeithir ar hyn gan gyfradd sylfaenol Banc Lloegr.

Benthyciadau a gwerth yw canran cyfanswm gwerth eich cartref y byddwch yn ei fenthyca fel morgais.   

Beth yw cyfradd gychwynnol? 

Cyfradd gychwynnol yw faint o log y byddwch yn ei dalu ar ddechrau eich benthyciad am gyfnod rhagarweiniol.

 

Mae'n bosibl y bydd eich cyfradd gychwynnol yn para am sawl mis neu flwyddyn, yn dibynnu ar y cytundeb morgais a ddewiswyd gennych.

 

Ar ôl i'r cyfnod ddod i ben, cewch opsiwn i gymryd cytundeb morgais newydd Gallai'r gyfradd llog ar eich cytundeb newydd fod yn uwch neu'n is na'ch cyfradd gychwynnol.

 

Dywedwch eich bod wedi cymryd morgais o £200,000 am gyfnod o 25 mlynedd, gan ei osod ar gyfradd llog o 4.93% am ddwy flynedd, eich taliadau bob mis fydd £1065. 

 

Ar ôl dwy flynedd, byddwch yn newid i'r gyfradd amrywiadwy safonol (SVR) oni bai eich bod yn newid i gytundeb newydd.

 

Os yw'r SVR yn uwch na chyfradd gychwynnol ad-daliad eich morgais, byddai eich taliadau misol yn cynyddu. Er enghraifft, os yw'r SVR yn 5.95%, bydd eich taliadau misol yn cynyddu i £1,192. 

Beth yw cyfradd amrywiadwy safonol? 

Cyfradd amrywiadwy safonol (SVR) yw'r gyfradd llog y byddwch yn newid yn awtomatig iddi pan ddaw eich cytundeb cyfnod penodol cychwynnol i ben.  

 

Mae pob benthyciwr yn gosod ei SVR ei hun. Gan ei fod yn gyfradd amrywiadwy, gall hyn newid yn ôl disgresiwn y benthyciwr, ac mae newidiadau i gyfradd sylfaenol Banc Lloegr fel arfer yn dylanwadu ar y newidiadau hynny.

 

Pan fydd gennych forgais SVR gall eich taliadau morgais codi neu ostwng bob mis, yn dibynnu ar y gyfradd.  

Beth rydych yn ei olygu wrth ‘cost gyffredinol mewn cymhariaeth (APRC)’? 

Cyfradd Ganrannol Flynyddol (APRC) yw cyfanswm cost y morgais dros ei oes wedi'i fynegi fel canran. Mae'n cyfuno ffioedd, y gyfradd gychwynnol a'r gyfradd amrywiadwy safonol i roi syniad i chi o'r llog cyffredinol y bydd angen i chi ei ad-dalu ar forgais.

 

Gallwch ddefnyddio'r APRC i gymharu morgeisi yn eu cyfanrwydd – ac nid yn ôl y gyfradd is ragarweiniol gychwynnol yn unig. 

 

An illustrated floating speech bubble. (Welsh)

Y camau nesaf

Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.